Eisteddai tref y porthmyn yng ngogledd y Sir. Tref fach yn llawn diwylliant ac hanesion yr ardal cyfagos. Llifai'r afon Tywi drwy'r dref, ac wrth gwrs, dyma gartref Eisteddfod yr Urdd 2023.
Nawr yn adfael ym mhrif maes parcio'r dref, mae'r castell yn ganolbwynt i bawb. Safai yn uchel uwchben yn gwarchod y dref. Cafodd ei hadeiladu gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif.
Yma mae'r Coleg byd enwog, Coleg Llanymddyfri. Coleg breifat yw hon yn cynnig addysg i blant 4-18 oed. Mae'r cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael yma yn wych.
Mae ysgol gynradd y dref yn awr ar safle'r hen ysgol uwchradd - Ysgol Pantycelyn. Wedi blynyddoedd mawr, gwnaeth Ysgol Pantycelyn gau er mwyn uno i greu Ysgol Bro Dinefwr. Yna daeth y cyfle i Ysgol Rhys Pritchard dderbyn adeilad newydd son ar safle'r hen ysgol Uwchradd.
William Williams Pantycelyn oedd un o beirdd mwyaf poblogaidd Cymru o'i hoes. Roedd yn emynwyr ac hefyd yn offeiriad Methodistaidd. Cafodd William Williams ei eni mewn pentref cyfagos i Lanymddyfri yng Nghefn-y-coed yn 1717 ac roedd yn byw ar fferm o'r enw Pantycelyn. Mae ei deulu yn dal i fyw yno hyd heddiw. Daeth William Williams i fod yn un o emwynwyr fwyaf poblogaidd Cymru wrth i'w emynau cael eu canu ar draws Cymru gyfan. Cyhoeddodd ei lyfr emynau cyntaf yn 1744 a chredir ei fod wedi cyhoeddi dros 1000 o emynau. Rydym yn eithaf sicr eich bod wedi canu un o'i emynau.
Cliciwch ar y fideo yma i glywed un o'i emynau fwyaf poblogaidd sydd dal yn cael ei ganu hyd heddiw. Iesu, Iesu, rwyt ti'n ddigon.
Yma ger catsell y dref gwelwch gerflun anhygoel o Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Ef oedd un o dywysogion olaf ein hoes ni yng Nghymru. Cafodd ei lad gan Henry IV o Loegr gan ei fod yn un o gefnogwyr brwd Owain Glyndŵr.
Mae tref Llanymddyfri yn enwog iawn am y Porthmyn. Dyma lle roedd y Porthmyn yn aros ger sgwâr y dref am hoe ar ei taith o gerdded anifeiliaid ar draws y wlad a Lloegr.