Pentref Efailwen yw'r pwynt mwyaf deol yn Sir Gâr. Mae ar y ffin gyda Sir Benfro yn agos i Crymych. Fel pentref, nid oes llawr i'w weld yma, ond mae'r hanesion yn gryf.
Wrth ddod i fewn i'r pentref, gwelir cofeb i gofio am yr hynt a'r elynt a fu gyda Merched Beca.
Yn Efailwen mae caffi bach yno o'r enw Caffi Beca.
Mae Caffi Beca wedi bod ar agor am 27 blynedd.
Yma caiff plant yr ardal eu haddysg yn enwedig am hanesion yr ardal.
Yn ôl yn 1839 daeth dynion yr ardal at ei gilydd ac esgus i fod yn ferched ac enwi eu hunain yn merched Beca. Y pwrpas tu ôl i hyn oedd bod yr Eglwys a phobl cyfoethog yr ardal yn codi treth ar y ffermwyr a thlodon y gymdeithas. Roedd hyn wedi cythruddo Twm Carnabwth a'i ffrindiau. Felly yn ôl y son, cafodd y dynion fenthyg dillad gan fenyw o'r ardal o'r enw Rebeca. Enwyd y grŵp yn Merched Beca ac ar y 13eg o Fai 1839 chwalwyd y tollborth yn Efailwen. Arweiniodd hyn at nifer o frwydro yn erbyn tollbyrth ar hyd y wlad.
Pob blwyddyn mae trigolion yr ardal yn dod i actio stori Merched Beca er mwyn cofio am y digwyddiad.
Er bod Efailwen yn Sir Gâr, mae'r pentrefi cyfagos i gyd yn Sir Benfro.
Yno mae un o gapeli hynaf y Sir, lle mae trigolion y pentref yn mynd i addoli Duw.