Gorweddai'r llyn yma uwch ben pentref Gorslas ger Cross Hands. Mae nifer o gyfleoedd yma i fynd am dro ar lwybrau, gweld byd natur a mwynhau'r awyr iach.
A glywsoch chi erioed am Owain? Mae nifer o bobl yn cymysgu'r Owain yma gyda Owain Glyndŵr. Un o filwyr y brenin Arthur oedd Owain. Roedd Arthur yn ddibynnol iawn ar Owain gyda'i swyddi pwysicaf. Danfonodd Arthur Owain ar neges pwysig iawn lle fu Owain yn teithio ar gefn ei geffyl am amser hir. Yn ôl y stori, arhosodd Owain a'i gefyll ger y ffynnon er mwyn cael hoe. Roedd rheol pwysig iawn i gofio chau'r ffynnon wrth osod llech ar ei phen, ond roedd Owain mor flinedig syrthiodd i gysgu wrth yml y ffynnon. Dihinodd i weld bod y tir wedi boddi a bod llyn wedi ffurfio o ganlyniad i beidio a chau'r ffynnon. Dyma nawr Llyn Llech Owain.
Cliciwch ar y ddolen isod i ddarganfod mwy am leoliad Llyn Llech Owain.