Pwy sydd yn ein helpu?

Pobl Tân

Fel rhan o thema’r tymor ‘Pobl sy’n ein helpu’ aethom ar ymweliad i Orsaf Dân Aberystwyth i ddysgu am waith diffoddwr tân ac i weld yr injan dân. Cawsom gyfle i fynd mewn i’r injan dân a chlywed y seiran. Buom yn gwisgo dillad diffoddwr tân ac yn esgus achub pobl. Roedd yn brofiad gwych i bawb. Mae injan dân y dosbarth a diffoddwyr tân Dosbarth Gelert wedi bod yn brysur yn ystod y tymor! Cofiwch i ffonio 999 os oes argyfwng!

As a part of our theme ‘People who help us’ we went on a visit to Aberystwyth Fire Station to learn about the work of a firefighter and to see the fire engine. We had an opportunity to look inside the fire engine and hear the siren. We dressed up as firefighters and pretended to rescue people. It was a great experience for everyone. The class fire engine and Dosbarth Gelert fire fighters have been busy during the term! Remember to call 999 in an emergency!


Yr Heddlu

Fe ddaeth yr heddlu i’n hymweld â ni yn ystod ein thema a chawsom y cyfle i weld car yr heddlu a gwisgo hetiau’r heddlu. Fe ddysgon ni am yr offer mae heddlu yn gwisgo a’r hyn sydd angen i ni wneud os oes argyfwng.

The police came to visit us during our these and we had the opportunity to see the police car and wear their hats. We learnt about the equipment they wear and what we need to do when there is an emergency.

Ambiwlans

Yn ystod yr hanner tymor yma rydym wedi bod yn brysur yn dysgu am ein thema newydd sef ‘Pwy sy’n helpu yn ein cymuned ni?’. Rydym wedi dechrau ein thema trwy edrych ar y gwasanaethau brys. Fe ddaeth yr ambiwlans i’n hymweld yn yr ysgol a chawsom gyfle i edrych ar y gwely, yr offer a blaen yr ambiwlans.

 During this half term we have been busy learning about our new theme ‘Who helps in our community?’. We have started our theme by looking at the emergency services. The ambulance came to visit us at the school and we had a chance to look at the bed, the equipment and the front the ambulance.


Meddygfa

Buom ar ymweliad i Feddygfa Llanilar nôl ym mis Hydref i ddysgu am waith y meddyg. Roedd Dr Dafydd Edwards wedi siarad am sut mae’n gofalu am ei gleifion. Buom yn chwarae rôl yn y dosbarth hefyd. Rydym yn ddiochgar iawn i feddygon a nyrsys am eu gwaith caled. Cofiwch am eich hawliau plant – Yr hawl i weld y meddyg os ydych yn sâl.

We visited Llanilar Surgery back in October to learn about the doctor's work. Dr DafyddEdwards spoke about how he looks after his patients. We also role played in class. We are very grateful to doctors and nurses for their hard work. Remember your children's rights - The right to see the doctor if you are sick.