Cafodd Ysgol Llanilar ei sefydlu yn 1808 lle’r oedd y plant yn cael eu dysgu gan Mr John Davies. Roedd yr ystafell dosbarth yn sied yn y fynwent yr Eglwys ar y pryd. Dim ond Saesneg a mathemateg fel adio , tynnu, lluosi a rhannu oedd yn cael i ddysgu . Dim ond lle i 10 o blant oedd i'w gael yn yr Ysgol yr adeg yma. Cafodd yr ysgol newydd ei hadeiladu yn 1860 - Yr hen ysgol neu'r neuadd y pentref fel rydym yn eu hadnabod heddiw. Roedd dwy ystafell dysgu. Yn ystod yr adeg yma roedd Mr J.R. Evans yn bennaeth am 29 o flynyddoedd cyn iddo ymddeol yn 1976 . Roedd rhai plant yn cerdded dros 5 milltir y dydd i fynd i'r ysgol!
Cafodd yr adeilad newydd eu hadeiladu ac agor hefo Miss Beti Griffiths, y brif athrawes. Erbyn hyn oedd 70 o blant yn mynychu'r ysgol. Cafodd ddwy erw a hanner o dir ei roi fel anrheg i’r ysgol gan deulu'r Loxdale, Castle Hill. Roedd gan yr ysgol tair athrawes. Yn y flwyddyn 2000, cafodd ystafell dosbarth newydd ei hadeiladu, sef y dosbarth derbyn, gyda mwy o newidiadau i ddilyn yn y blynyddoedd oedd i ddod. Erbyn nawr, mae yna 5 o ystafelloedd dysgu a dros 110 o ddisgyblion. Mrs J. Jones yw'r pennaeth erbyn hyn.
Roedd Harri Tudur yn frenin. Cafodd Harri Tudur ei eni ar yr 28ain o Ionawr, 1457. Roedd e’n fab i Margaret Beaufort ac Edmund Taylor. Cafodd ei eni yng Nghastell Penfro a dyna le yr oedd yn byw gyda’i fam a’i wncwl Jasper.
Pan oedd Harri yn 14 mlwydd oed, roedd rhaid iddo fe a Jasper dianc Cymru gan fod teulu'r Efrogiaid yn dod yn fwy pwerus. Fe aethant i Ffrainc i chwilio lloches yn Llydaw.
Roedd yr Efrogiaid i weld yn sefydliad cadarn nôl yng Nghymru felly roedd yn debyg y byddai Harri yn gorfod byw yn Ffrainc am weddill ei fywyd. Ond, oherwydd Richard y trydydd a’i hawl ddieisiau i’r orsedd, roedd parti’r Efrogiaid wedi ei haneri. Dyma oedd cyfle Harri Tudur i ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig i hawlio ei Orsedd.
Er mwyn sicrhau bod y brwydro rhwng yr Efrogiaid a’r Lancastriaid yn dod i ben, fe wnaeth Harri Tudur addewid, a hynny oedd priodi Elizabeth o Efrog, merch hynaf Edward y 4ydd.
Ar ei ffordd i ymladd Richard y 3ydd, roedd rhaid i Harri Tudur ennill ffydd y Cymry er mwyn cael gymaint o ddynion i ymuno a’i achos i guro’r brenin. Doedd rhai ddim yn credu’r ffaith ei bod yn fab i Edmund Tudor. Roedd rhai yn gofyn iddo brofi ei bod yn Gymro trwy siarad Cymraeg. Fe lwyddodd i gasglu llawer o ddynion ar y ffordd i Frwydr Bosworth.
Pan oedd Harri Tudur ar ei ffordd i frwydr Bosworth, daeth trwy Lanilar a stopio wrth yr eglwys. Mae’r garreg a defnyddiodd i fynd ar ei geffyl dal yna heddiw.
Enillodd Harri frwydr Bosworth ar yr 22ain o Awst, 1485, pan oedd e’n 28 mlwydd oed a phriododd Elizabeth o Efrog ar y 18fed o Ionawr, 1486.
Cafodd Harri Tudur 9 plentyn, ac allan o’r 9 dim ond un oedd dal i fyw pan fu farw ef yn 52 mlwydd oed yn Lloegr, a Harri’r 8fed oedd hwnnw. Daeth yn frenin Lloegr ac aeth ymlaen i fod yn un o’r brenhinoedd mwyaf enwog yn y byd.
Cyrhaeddodd y rheilffordd Llanilar yn 1866 . Adeiladodd y lein i gysylltu Aberystwyth a Chaerfyrddin. Roedd dau blatfform, adeiladau gorsaf a seidin nwyddau. Prif swyddogaeth y rheilffordd oedd cludo pobol a nwyddau. Roedd y rheilffordd yn cysylltu Llanilar ag Aberystwyth a Manceinion. Roedd yna cartiau i gario nwyddau megis plwm, glo a gwartheg. Yn anffodus roedd yna lifogydd yn 1964 wnaeth difrodi'r bont ger Llanilar. Caeodd yr orsaf yn 1964, 98 mlynedd wedi iddo gael ei hadeiladu.
Tua 14 milltir o Lanilar mae Cwmystwyth. Mae Cwmystwyth yn bentref bach heddychlon wedi ei gwmpasu gan fryniau a mwynfeydd.
Buodd Dosbarth Llywelyn a Gwenllïan yn ymweld â mwynfeydd Cwmystwyth yn ystod tymor y Gwanwyn. Roedd Mr Ioan Lord wedi ein tywys ni o amgylch yr ardal arbennig gan rannu straeon am y mwynfeydd a’i hanes.
Cyrhaeddodd mwyngloddio ei anterth yn y 18fed ganrif. Roedd Cwmystwyth yn boblogaidd am ei arian, plwm a sinc gyda nifer fawr o deuluoedd yn dod i weithio yna pob dydd.
Cafwyd nifer o straeon am y mwynfeydd. Gyntaf oll, roedd yna lawer o ofergoeliaeth am y mwynfeydd. Dywed rhai bod yna cnocwyr yn byw yn y mwynfeydd. Creaduriaid bach oedd y cnocwyr, ac oedd y mwyngloddwyr yn gadael anrhegion iddynt yn y twneli.
Rhai ofergoelion eraill oedd adar du. Dywed un gweithiwr bod e wedi gweld aderyn du rhyw fore ar ei ffordd i’r gwaith. Penderfynodd droi rownd ac anelu am adref. Y diwrnod hwnnw, buodd damwain fawr yn y mwynfeydd. Roedd o’n falch ei bod wedi aros adref.
Mae yna olion o’r ffatri a thŷ'r meistr dal i sefyll yng Nghwmystwyth. Yn y prif adeilad oedd y menywod a’r merched 7 mlwydd oed i fyny yn gweithio. Byddai’r bechgyn yn ymuno gyda’r tadau yn y mwynfeydd.
Gofynnwyd y cwestiwn i Mr Lord am sut oedd cadw amser yn y mwynfeydd. Roedd gan bob un gannwyll arbennig ar flaen ei het. Unwaith oedd y gannwyll yna yn diffodd, roedd y gweithwyr yn gwybod ei bod hi’n amser gorffen gwaith.
Roedd bywyd yn anodd yn y mwynfeydd gyda llawer o bobl yn marw tua 32 mlwydd oedd oherwydd gwenwyn plwm.
Mae’r mwynfeydd ar agor i dwristiaid ac mae Mr Ioan Lord yn tywys rhai i lawr i’r mwynfeydd. Ewch i www.midwalesminetours.com i ddarganfod mwy o wybodaeth am y mwynfeydd a’r teithiau.