Brownies – Mae Brownies yn gwneud lliwio a mynd tu allan a pheintio. Maen nhw’n cwrdd pob nos Lun yn yr Hen Ysgol.
W.I. – Dyma gyfle i fenywod y pentref dod at ei gilydd i godi arian, cael clonc a chynnal gwasanaethau. Mae yna griw o’r WI yn dod i mewn i’r Ysgol i ddarllen gyda phlant yr Ysgol.
Merched y Wawr – Cyfle arall i fenywod y pentref dod at ei gilydd i gael sgwrs a chodi arian ond trwy gyfrwng y Gymraeg.
Clwb Yr Urdd - Clwb i blant ysgol Llanilar ar nos Lun i gymdeithasu yn y Gymraeg.
Clybiau pêl-droed:
Ystwyth Raptors A a B
Llewod A a B
Dolphins
Falcons
Cewri
Llanilar F.C.
Mae’r clybiau pêl-droed yma yn cynnal ymarferion trwy gydol yr wythnos. Mae’r plant yn dechrau ymarfer pan maent yn cychwyn yr Ysgol Gynradd ac yn mynd i fyny at blant sy’n mynychu’r Ysgol Uwchradd.
Ti a Fi – Dyma grŵp o blant a’u rieni sy’n gallu dod at ei gilydd i ganu a gwrando ar straeon gwahanol. Ar adegau bydd yna gyfle i wrando ar berfformiadau gan ddisgyblion Ysgol Llanilar.