Enwogion

Mr Llanilar - Dai Jones Llanilar

Ganwyd David John Jones yn Holloway, Llundain i  Deulu  o ffermwyr  Cymreig.  Symudodd i Gymru pan yn dair oed. Fe  fagwyd gan ei ewythr a’i fodryb ar eu fferm laeth yn Brynchwith Llangwyryfon. Aeth i'r ysgol Llangwyryfon ac ysgol Dinas Aberystwyth a gychwynnodd weithio ar y fferm yn 15 mlwydd oed. Dywedodd Dai ei fod wedi ffaelu arholiad 11 plus yn fwriadol er mwyn osgoi fynd i'r ysgol ramadeg am ei fod wedi clywed fod tipyn o waith cartref i'w wneud yno.  Roedd Dai Jones yn aelod brwd o'r capel a'r Ffermwyr Ifanc.  Roedd hefyd yn gefnogwr o eisteddfodau lleol a chenedlaethol.  Yn 1970 enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd gyrfa ddisglair ar y teledu lle oedd yn adnabyddus yn cyflwyno'r rhaglenni Cefn Gwlad a Siôn a Siân.  Cyflwynodd Cefn Gwlad o'r sioe gyntaf un yn 1982.  Fe oedd prif gyflwynydd 'Y Sioe Frenhinol'.  Roedd hefyd yn gyflwynydd radio.  Roedd gyda rhaglen arbennig 'Ar eich cais'.

Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 1997, dan y teitl Fi Dai Sy' 'Ma ac un ychwanegol yn 2016 o'r enw 'Tra bo Dai'.

Enillodd BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu teledu Cymraeg a'r wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig.  Cafodd ei anrhydeddu yn 2000 gyda'r wobr MBE.

Bu farw Dai Jones ar y 4ydd o Fawrth 2022 yn 78 oed.

Holi enwogion yr ardal

Patrick Loxdale

1.       When was Castle Hill built?

The main block of the house was built in 1775 (so nearly 250 years ago) with the “East Wing” and Bell Tower built in 1860s.

 

2.       How many bedrooms does it have?

Lots!  Currently about 10.

 

3.       Who built it?

We think it was built by John Williams who had huge sheep flocks in the mountains above Tregaron.  He was known as “King of The Mountains”  His son John Nathaniel Williams married an ancestor of mine, Sarah Loxdale.  They had no children and when she died she left it to her brother.

 

4.       How long have you lived there?

I was born in Bristol, but Christened in St Hilary’s Llanilar.  I used to come to stay most summers when my Grandmother lived here.  I moved back here in 2016 when my brother Peter was taken ill.  Sadly he died in 2017.  So I have been here full time for 7 years.

 

 

5.       Do you have any interesting stories about the house?

One of my very early memories as a child was being lifted out of the bath by my father, to stand on the window sill and watch a steam train puffing up the valley from Aberystwyth, coming into Llanilar Station.  The line was washed away in a storm in early 1964 so it was probably 1963, maybe Christmas time, and I would have been two years old at the time.


Lowri Steffan

1 - Beth oedd eich swydd actio cyntaf? 

 

Cefais fy swydd actio cyntaf yn ol ym 1995 yn syth ar ol gadael y coleg mewn cyfres ar y teledu o'r enw A55 ac roeddem yn ffilmio yng ngogledd Cymru am chwe mis

 

2 - Pryd ddechreuoch chi actio?

 

Mi ddechreuais i actio yn yr ysgol, cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd a chyngherddau yn yr ysgol.  Wedyn yn yr ysgol Uwchradd ym Mhenweddig fe wnes i ymuno â Chwmni Theatr Ieuenctid Ceredigion.

 

3 - Beth oedd eich hoff rôl actio?

 

Oooohh mae hwn yn gwestiwn anodd!! Dwi wedi mwynhau pob un rôl dwi wedi chwarae, Fy hoff rai (y tri uchaf) bydde 

i) Pili Pala yng nghyfres Pentre Bach i Cyw 

ii) Lara yn Con Passionate 

iii) Meg Elis yn y ddrama gyfnod Stafell Ddirgel 

 

4 - Oes well gennych actio neu addurno priodasau?

 

Actio yw fy hoff beth yn y byd! Ond, dwi hefyd ar hyn o bryd ym mwynhau addurno priodasau oherwydd mae'n hyfryd cael cwrdd a llawer o bobl newydd a chael bod yn rhan o'i diwrnod mawr - diwrnod y briodas!

 

5 - Os fedrwch chi ddewis unrhyw actor, gyda phwy  byddwch chi'n dewis i gyd-weithio? 

 

Mi fyswn i wrth fy modd cael actio gyda Taron Egerton sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ac sydd wedi actio mewn nifer o ffilmiau poblogaidd fel Rocketman a chyfres Kingsman. Mi fydde hi'n hwyl gallu sgwrsio am Aberystwyth gyda fe a clywed mwy am ei gyfnod yn tyfu lan yma. 


Sian Lewis

Beth wnaeth ysbrydoli chi i fod yn awdures?

Roedd Mam a Dad yn arfer dweud storïau wrtha i bob nos. Roedden nhw’n creu storïau yn arbennig ar fy nghyfer i. Roedd hynny’n gyffrous. Wedyn ro’n i’n mwynhau ysgrifennu stori fach fy hun a’i hanfon at Mam-gu a Tad-cu.

 

Ble cawsoch chi ei eni?

Cefais fy ngeni yn Aberystwyth

 

I ba ysgol aethoch chi?

Ysgolion Cynradd Penuwch a Llanilar; Ysgol Ardwyn Aberystwyth

 

Sawl llyfr rydych chi wedi ysgrifennu?

Mae’n anodd dweud, achos dwi wedi cyfieithu llyfrau, yn ogystal â’u hysgrifennu. Hefyd dwi wedi gwneud llyfrau posau, jôcs ac ati. Rhai dwsinau, siŵr o fod.

 

Faint oeddech chi pan ysgrifennu eich llyfr gyntaf?

Er ’mod i’n hoffi ysgrifennu pan o’n i’n fach, wnes i ddim mynd ati i ysgrifennu llyfr go iawn, nes o’n i tua 35 oed.

 

Pa wobrau rydych chi wedi eu hennill?

The Earthworm Award, Gwobr Tir na n-Og, Tlws Mary Vaughan Jones

 

Beth yw eich hoff wobr?

Mae’n braf cael unrhyw wobr, felly dwi’n eu hoffi nhw i gyd. Ces i fodel del o fwydyn pan enillais i’r Earthworm Award, poster lliwgar ar ôl ennill Tir na n-Og, a thlws hyfryd ar ffurf llyfr agored ar gyfer gwobr Mary Vaughan Jones.

 

Beth yw eich hoff lyfr?

Mae gen i restr hir o lyfrau dwi’n hoffi, ond dwi’n mynd i enwi Trysorau Hafod Aur gan Meirion Jones am ei fod e wedi gwneud argraff arna i. Llyfr ditectif oedd e. Darllenais i e pan o’n i’n 6 oed. Doeddwn i erioed wedi darllen llyfr ditectif o’r blaen ac fe roiodd e dipyn bach o ofn i fi. Ond dwi wedi mwynhau darllen llyfrau ditectif byth ers hynny.

 

Beth yw eich hoff lyfr rydych chi wedi ysgrifennu?

 

I fi, mae fy llyfrau fel anifeiliaid anwes. Dwi ddim yn hoffi dewis rhyngddyn nhw. Ond fe ges i lot o hwyl yn ysgrifennu Dim Actio’n y Gegin a Dim Mwnci’n y Dosbarth, sef dau lyfr am ddosbarth o blant sy’n cael gwersi actio arbennig, sef actio anifeiliaid. Roedd y lluniau gan Chris Glynn yn ddoniol iawn hefyd.