Ar yr 19eg o Ionawr, aeth dosbarth Gwenllian a Llywelyn lawr i Iard Orsaf Llanilar i gasglu sbwriel. Ar ôl trafodaeth gyda phlant yr Ysgol am gyflwr y llwybr seiclo, penderfynwyd mynd i godi sbwriel er mwyn gwella cyflwr y lle arbennig yma.
Rhannodd Mr Roberts ni mewn i 2 grwp. Roedd rhaid i ni wisgo menig a defnyddio ‘litter pickers’ er mwyn codi’r sbwriel. Gwnaethon ni poster cyn mynd er mwyn atgoffa ni o sut i gadw’n ddiogel wrth gasglu sbwriel.
Rhedodd pawb i chwilio am sbwriel . Chwilion ni 14 darn o bapur, 8 o ganiau, bwyd a 2 ddarn o fetal. Roedd hefyd llawr o faw ci i gael ar hyd y llwybr, felly penderfynwyd dosbarth Llywelyn i ysgrifennu llythyr i'r cyngor er mwyn uwcholeuo’r broblem.
Mae plant Ysgol Llanilar yn credu’n gryf mewn cadw’r pentref hyfryd yma yn lân ac yn ddiogel.
Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2023, mae disgyblion Ysgol Llanilar wedi ail greu gardd yr ysgol i fod yn ardd synhwyraidd ar gyfer holl gymuned y pentref. Bu disgyblion yn ymgeisio am grant Tesco a’n cyd-weithio gydag artist lleol, Thea de Klein i greu campweithiau gwych allan o helyg ac i greu draig 3D o’r enw Fflam. Mae prosiect yr ardd wedi rhoi cyfle i’r holl ddisgyblion gyd-weithio tra’n dysgu am agweddau o fyd natur. Mae’r disgyblion wedi mwynhau defnyddio amrywiaeth o offer ar gyfer y prosiect a roedd hi’n braf gweld pawb yn mwynhau mynd ati! Mae pob disgybl wedi cael y cyfle i blannu a thyfu planhigion a felly’n dysgu am gylch bywyd blodau a sut mae ein llysiau yn tyfu. Fe fydd agoriad swyddogol yr ardd yn cael ei gynnal ar Ddydd Iau y 25ain o Fai am 10.30 y bore.