Yr Hen Ysgol – Mae’r hen Ysgol yn cynnal gwasanaethau, cyngherddau, boreau coffi a digwyddiadau codi arian.
Y Falcon – Mae llawer o bobl yn hoff iawn o fynd i'r Falcon er mwyn dal lan gyda ffrindiau a chael pryd o fwyd gyda’r teulu. Ar hyn o bryd dydy’r Falcon ddim yn gweithredu, ond gobeithiwn y bydd yn ail agor yn fuan iawn.
Llyn y Mileniwm - Mae'r llyn yn ardal ddeniadol dros ben gyda llwybr wedi ei osod o'i chwmpas. Dechreuodd adfer y safle yn 1999 gan Bwyllgor Mileniwm Llanilar a gwirfoddolwyr o'r gymuned. Cwblhawyd y gwaith yn 2005. Cafodd y prosiect ei ariannu yn rhannol gan Gronfa Amgylchedd Powergen, Prince's Trust Cymru a Chynllun Cydcoed y Comisiwn Coedwigaeth. Codwyd arian gan y gymuned leol yn o gystal.