Llawenydd, Llafur, Llwyddo
Mae 6 Maes Dysgu a Phrofiad o fewn Cwricwlwm i Gymru. Mae rhyddid i ysgolion gynllunio'r ddarpariaeth a chynnwys y meysydd yn seiliedig ar y gofynion statudol, anghenion a dyheadau disgyblion a'r holl rhanddeiliaid. Mae Ysgol Dyffryn Ogwen wedi cynllunio'r cwricwlwm yn ddisgyblaethol (o fewn pynciau penodol) ac yn aml-ddisgyblaethol mewn rhai Meysydd Dysgu a Phrofiad lle mae cyfleoedd naturiol a gwerthfawr yn codi i ymdrin â thestunau a sgiliau ar draws mwy nag un pwnc.
Cliciwch ar y lluniau i gael rhagor o wybodaeth am y Meysydd Dysgu a Phrofiad
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (Maes) yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Mae’n ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd. Elfennau sylfaenol y Maes hwn yw iechyd a datblygiad y corff, iechyd meddwl, bwyd a maeth, lles emosiynol a chymdeithasol. Bydd yn cefnogi dysgwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae gwahanol elfennau iechyd a lles yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae hefyd yn cydnabod bod iechyd a lles yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus.
Bydd ymwneud â’r Maes hwn yn gymorth i feithrin dull gweithredu ysgol gyfan sy’n galluogi i iechyd a lles dreiddio i bob agwedd o fywyd ysgol.
Gall Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau gynnau ymdeimlad o ryfeddod, tanio dychymyg ac ysbrydoli dysgwyr i dyfu mewn gwybodaeth, dealltwriaeth a doethineb. Mae’r Maes hwn yn ysgogi dysgwyr i ymwneud â’r materion pwysicaf sy’n wynebu dynoliaeth, gan gynnwys cynaladwyedd a newid cymdeithasol, ac yn gymorth i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli a disgrifio’r gorffennol a’r presennol.
Mae’r Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond hefyd mae ganddyn nhw eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Yn ogystal, gall dysgwyr gael eu cyflwyno i ddisgyblaethau cysylltiedig eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle bydd hynny’n briodol.
Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr a’u cymell i ddatblygu i’r eithaf eu sgiliau creadigol ac artistig ynghyd â’u sgiliau perfformio.
Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol (Maes) yn cwmpasu pum disgyblaeth, sef celf, cerddoriaeth, dawns, drama, a ffilm a’r cyfryngau digidol. Er bod gan bob un o’r disgyblaethau hyn gorff o wybodaeth a corff o sgiliau sy’n perthyn yn benodol i’r ddisgyblaeth honno, cydnabyddir eu bod, gyda’i gilydd, yn rhannu’r broses greadigol.
Mae Mathemateg yn ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd. Er bod mathemateg ynddi hi ei hun, ac wrth gael ei chymhwyso, yn greadigol ac yn hardd, mae hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnydd mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill.
Yn ychwanegol at hyn, mae rhifedd, sef defnyddio mathemateg i ddatrys problemau yn y byd go iawn, yn chwarae rhan allweddol yn ein bywydau bob-dydd, ac yng nghyflwr economaidd y genedl. Mae’n hanfodol felly fod profiadau mathemateg a rhifedd mor gyffrous, diddorol a hygyrch â phosibl i ddysgwyr, a bod y profiadau hyn yn fodd i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu gwydnwch mathemategol.
Mae Mathemateg a Rhifedd yn cynnig cyfeoedd i ddysgwyr weithio’n annibynnol ac ar y cyd er mwyn adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn ystod y blynyddoedd cynnar.
Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd (Maes) yn cynnwys datblygu pum hyfedredd cysylltiedig a rhyngddibynnol.
Dealltwriaeth gysyniadol
Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau
Cymhwysedd strategol
Rhesymu rhesymegol
Rhuglder
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl.
Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.
Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn ein byd modern. Mae datblygiadau yn y meysydd hyn wedi bod yn gyfrifol am arwain newid yn ein cymdeithas erioed. Mae’r rhain yn sail i arloesi ac yn effeithio ar fywyd pob un, yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol. Felly bydd Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thecnoleg yn gynyddol berthnasol yn y cyfleoedd y bydd ein dysgwyr ni yn eu profi, a’r dewisiadau y byddan nhw’n eu gwneud mewn bywyd.
Mae mynediad parod i gasgliad enfawr o ddata yn gofyn bod dysgwyr yn gallu asesu mewnbynau’n feirniadol, deall sail gwybodaeth sy’n cael ei chyflwyno fel ffaith, a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n effeithio ar eu hymddygiad a’u gwerthoedd eu hunain.
Mae’r Maes hwn yn tynnu ar ddisgyblaethau bioleg, cemeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol, dylunio a thechnoleg, a ffiseg er mwyn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o’r byd.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Rydym yn sicrhau bod cyfleoedd ar draws pob maes yn y cwricwlwm, i ddatblygu a sicrhau cynnydd yn y sgiliau hyn.
Rydym yn defnyddio'r Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol cenedlaethol i gynllunio er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth a'r cyfleoedd gorau i ddisgyblion allu datblygu, ymestyn a chymhwyso’r sgiliau hyn.
Wrth ymgorffori'r fframwaith rhifedd, bydd disgyblion yn datblygu eu medrau ac yn dod yn fwyfwy hyfedr.
E.e. byddant yn deall bod y system rif yn ein helpu i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau. Cánt gyfleoedd buddiol i ddysgu sut mae geometreg yn ein helpu i ddeall siapiau, gofod a safle. Yn ogystal, byddant yn dysgu sut i ddefnyddio tebygolrwydd a data i wneud penderfyniadau ac i ddod i gasgliadau.
Am ragor o fanylion gweler cynnwys y fframwaith rhifedd:
https://hwb.gov.wales/api/storage/f0f6edf7-415f-42aa-9053-6f8e691e2eff/fframwaith-rhifedd.pdf
Wrth ymgorffori'r fframwaith llythrennedd, bydd disgyblion yn datblygu eu medrau darllen, ysgrifennu, siarad, gwrando a thrawsieithu.
Am ragor o fanylion gweler cynnwys y fframwaith:
https://hwb.gov.wales/api/storage/afbba938-68fd-4089-9871-8570056a4bfb/fframwaith-llythrennedd.pdf
Wrth ymgorffori'r fframwaith cymhwysedd digidol, bydd disgyblion yn datblygu eu medrau ar drywydd 4 llinyn.
Mae rhain yn cynnwys cymhwysedd digidol a dinasyddiaeth, data a datblygu meddwl cyfrifiadurol, rhyngweithio a chydweithio, cynhyrchu a chreu.
Am ragor o fanylion gweler cynnwys y fframwaith:
https://hwb.gov.wales/api/storage/84f561c2-83b4-4bac-b365-d992718aea24/dcfw40620.pdf