Llawenydd, Llafur, Llwyddo
Gweledigaeth Ein Cwricwlwm
Mae ein cwricwlwm wedi ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod yr hyn a ddarperir yn yr ysgol yn ateb y gofynion statudol, ein cymuned leol a'n disgyblion.
Mae ein cwricwlwm yn sicrhau bod pob dysgwr yn ymrwymo’n aelodau llawn o gymuned ein hysgol, ac yn cael mynediad i’r cwricwlwm ehangach a holl weithgareddau’r ysgol. Yn ein hysgol ni mae'r profiadau dysgu yn galluogi dysgwyr i fod yn uchelgeisiol, mentrus a chreadigol. Mae’r cwricwlwm yn gytbwys ac yn eang ei sylfaen, ac yn ceisio hyrwyddo datblygiad moesol, diwylliannol, cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol ein disgyblion. Wrth i'r disgyblion fynd yn eu blaenau mae'r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y mae'r disgyblion yn cael profiadau ohonynt yn mynd yn fwyfwy soffistigedig a dwfn. Mae’r cwricwlwm yn eu paratoi ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau á gant yn eu bywydau yn yr ysgol a thu hwnt.
Ein Cwricwlwm - Mae’r cwriwcwlwm yn arwain ein disgyblion tuag at y pedwar diben.
Bydd ein dysgwyr yn iach ac yn hyderus, yn ddysgwyr gydol oes chwilfrydig a dyfeisgar sy’n cymryd rhan mewn materion byd-eang ac yn cyfrannu atynt, ac yn ymarfer gwerthoedd craidd yr ysgol a’i holl rhanddeiliaid - parch, cyfranogi, cyfrifoldeb a chydweithio. Bydd ein dysgwyr yn meithrin hyder yn eu hunaniaeth wrth iddynt archwilio, arddangos, gwneud penderfyniadau a rhoi gwerth ar sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eu cynorthwyo i fod yn ddinasyddion creadigol, moesegol, galluog a gwybodus yn eu cymunedau.
Mae llais y disgybl a hawliau plant yn ganolog i’r holl a wnawn.
Gofynnwyd i'r disgyblion a'r rhieni am y pethau sy'n bwysig iddynt a'r mathau o brofiadau yr hoffent weld mwy ohonynt
Gofynnwyd i'r staff a'r Llywodraethwyr am werthoedd yr ysgol a'r math o ddysgwyr yr hoffwn eu datblgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen
Er mwyn gwireddu'r rhain byddwn yn:
> Meithrin safonau uchel o ran y dysgu, addysgu ac ymddygiad gan gynnig amgylchfyd cynhaliol a gofalgar lle bydd pawb yn parchu anghenion a hawliau eraill, fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
> Sicrhau profiadau dysgu heriol a chyfoethog sy'n rhan o gwricwlwm cynhwysfawr a chytbwys
> Hyrwyddo a blaenoriaethu lles disgyblion a staff
> Rhoi cyfle i bawb brofi llwyddiant waeth beth fo'u gallu, cefndir neu anghenion
> Datblygu dwyieithrwydd ein disgyblion gan feithrin ymdeimlad o falchder o'u hunaniaeth, diwylliant, etifeddiaeth a thraddodiadau Cymru
> Sicrhau cyfleoedd cyfartal ac ecwiti i bawb, gan annog ein gilydd i ddefnyddio a datblygu ein doniau hyd eithaf ein gallu