Y Pedwar Diben
Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol.
Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a cham wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.
Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu.
Mae hefyd yn fodd pwysig o sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn rhan ganolog o brofiadau dysgu ein plant a’n pobl ifanc, ac o sicrhau eu bod yn deall eu hawliau.
Bydd y cwriwcwlwm yn Ysgol Dyffryn Ogwen yn galluogi ein dysgwyr i ddatblygu yn:
Ddysgwyr uchelgeisiol galluog
Unigolion iach, hyderus
Yn gyfranwyr mentrus, creadigol
Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus
Dyma yw man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yn Ysgol Dyffryn Ogwen.
Bydd ein holl blant a phobl ifanc...
Bydd ein holl blant a phobl ifanc...
› â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
› yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
› yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
› yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
› yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
› yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
› â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
› yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
› yn wynebu heriau ac yn eu trechu
› â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Bydd ein holl blant a phobl ifanc...
› yn cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynhyrchion
› yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
› yn adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnynt
› yn mentro’n bwyllog
› yn arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
› yn mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
› yn rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa ac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
Bydd ein holl blant a phobl ifanc...
› yn canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
› yn trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
› yn deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
› yn deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
› yn wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
› yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelodau o gymdeithas amrywiol
› yn dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaliadwyedd y blaned ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.
Addysgeg
Wrth gynllunio ein cwricwlwm, 'rydym yn ystyried y dulliau addysgegol y byddwn angen eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben.
Yn ystod y blynyddoedd o baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, 'rydym wedi datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth'. Mae ein gweledigaeth yn cydnabod rôl hanfodol yr amgylchedd ddysgu wrth gefnogi dysgu effeithiol.
'Rydym yn sicrhau bod athrawon yn meddu ar ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddyn nhw. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr. Rhoddir cyfleoedd i'n athrawon ymgymryd á phrosiectau ymholi ac i fod yn gyd-weithredol er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu fel sefydliad sy'n dysgu.
Mae ein prosesau cynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol.
Mae addysgu a dysgu da yn:
canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd
defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheiny sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol
golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu
dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd
atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer
annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol
hybu cydweithio