Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu'n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr a gweledigaeth ein hysgol. Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanwerthuso i lywio ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r adolygu gofynnol. Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y gynghrair ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol, yr awdurdod lleol, i ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau continwwm dysgu 3-18 o ansawdd uchel i bawb.
Yn ôl y Canllawiau Gwella Ysgolion: Fframwaith ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd:
• Fe'i defnyddir yn briodol at 3 diben: gwella, atebolrwydd a thryloywder.
Bydd Ysgol Dyffryn Ogwen yn:
• parhau i ddatblygu ein trefniadau hunanwerthuso gonest a chadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth o waith, gan adeiladu ar yr amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael, fel rhan o'n proses gwella strategol
• hunanwerthuso'n rheolaidd gan ddefnyddio ffynhonellau tystiolaeth amrywiol (gan gynnwys rhai ansoddol a meintiol) i nodi cryfderau 'r ysgol, fydd yn ein galluogi i adnabod y meysydd sydd angen sylw er mwyn gwella'r ddarpariaeth gyfan
• sicrhau bod y gymuned ysgol gyfan, hynny yw dysgwyr, ymarferwyr, staff cymorth, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr, yn cyfrannu at y broses.
• sicrhau bod pob rhan o'r system ysgolion yn gweld hunanwerthuso fel dull o wella ysgolion unigol a'r system ysgolion ehangach, a chefnogi cynnydd dysgwyr yn y pen draw
Wrth i ni werthuso ac arfarnu ein cwricwlwm yn barhaus byddwn yn rhoi ystyriaeth i'r 3 pheth a nodir isod: