Cyflwyniad
Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu yn rhan greiddiol o Gwricwlwm i Gymru, ac yma yn Nyffryn Ogwen mae'n greiddiol i'n holl benderfyniadau a gweithredu dyddiol. Yn ei hanfod, credwn ym mhwysigrwydd asesu er mwyn galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau y caiff ei gefnogi a’i herio yn unol â hynny. Wrth gwmpasu hyn defnyddiwn asesu yma yn Nyffryn Ogwen er mwyn llunio darlun llawn o'r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu – er mwyn llywio a chefnogi'r camau dysgu ac addysgu nesaf.
3 Diben Asesu
Cefnogi dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd
Ein cred yma yn Nyffryn Ogwen yw bod asesu'n canolbwyntio ar nodi cryfderau pob dysgwr unigol, ei gyflawniadau, ei feysydd i'w datblygu a, lle y bo'n berthnasol, rhwystrau i ddysgu. Defnyddiwn y ddealltwriaeth hon, gan drafod â'n dysgwr, i benderfynu ar y camau nesaf sydd eu hangen er mwyn datblygu'r dysgu, gan gynnwys unrhyw heriau ychwanegol a chymorth sydd ei angen. Cyflawnwn hyn drwy ein trefniadau asesu o ddydd i ddydd mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb y dysgwr ac sy'n golygu nad yw'n ddim gwahanol i ddysgu. O ganlyniad, proses barhaus yw'r asesu yma ar lawr dosbarth.
Nodi, cofnodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser
Trosolwg o gynnydd a wneir gan ddysgwyr unigol, cofnod o hyn ble mae’n briodol, er mwyn deall taith y dysgwr dros wahanol gyfnodau o amser ac mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys meithrin dealltwriaeth o sut y mae pob dysgwr wedi dysgu, yn ogystal â’r hyn y mae wedi’i ddysgu ac yn gallu ei ddangos. Myfyriwn ar gynnydd dysgwr dros amser gan gynnig adborth sydd yn helpu i gynllunio ei ddysgu yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ymyriadau, cymorth ychwanegol neu her y gall fod eu hangen. Dyma sail y wybodaeth y defnyddiwn er mwyn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr, sef 'Asesiadau Crynodol' neu 'Adroddiad Llawn'.
Deall cynnydd grwpiau er mwyn myfyrio ar arferion
Mae'n hanfodol i ni fel ysgol adlewyrchu ar gynnydd grwpiau a charfannau o ddysgwyr dros amser er mwyn deall i ba raddau ac ym mha ffyrdd y mae gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn gwneud cynnydd priodol. Dylid defnyddio gwybodaeth sy'n deillio o asesu cynnydd dysgwyr i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yn y cwricwlwm ac o ran arferion o ddydd i ddydd, gan gynnwys ystyried sut mae anghenion dysgwyr fel unigolion wedi cael eu diwallu. Mae'r ffocws pwysig hwn yn cynnig ffordd i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod eu cwricwlwm, a'r dysgu a'r addysgu, yn helpu i wella cyflawniad pawb o phob cefndir. Gall y ddealltwriaeth hon gyfrannu at brosesau hunanwerthuso a gwelliant parhaus. Mae ein defnydd o asesiadau crynodol sydd wedi eu hargymell o ymchwil yn cryfhau ein adlewyrchu ac yn ein galluogi i fireinio'r ddaprariaeth yn ol cryfderau penodol y garfan o ddysgwyr.
Camau Cynnydd
Mae’r continwwm newydd yn cynnwys camau cynnydd, sef pwyntiau cyfeirio sy’n ymwneud yn fras â disgwyliadau yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Nodir y camau cynnydd hyn fel cyfres o ddeilliannau cyflawniad, sef disgwyliadau eang o’r dysgu dros gyfnodau o ddwy i dair blynedd. Nid ydynt yn restr o gynnwys penodol, yn hytrach yn adlewyrchu aeddfedrwydd ein dysgwyr a'u gallu i ymgysylltu â heriau amrywiol ac eang.
Adrodd ar gynnydd yn YDO
Yn Nyffryn Ogwen, rydym wedi mynd ati i ddatblygu system edrych ar gynnydd sydd wedi ei selio ar egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru. Ein prif ffocws yw ar edrych ar brofiadau'n dysgwyr a sicrhau eu bod yn anelu tuag at ddatblygiadau yn y 4 Diben ar gyfer pob unigolyn. Serch hyn, rydym hefyd yn ymwybodol o'r newidiadau sylweddol sydd i'r drefn gwricwlaidd yn gyffredinol. O ganlyniad rydym yn awyddus i barhau i nodi'r cynnydd o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Er mwyn cadw at egwyddorion y cwricwlwm, penderfynom nodi cynnydd dysgwyr unigol yn ôl eu potensial. Mae hyn i'w weld o fewn adroddiadau crynodol a llawn yn ystod y flwyddyn.
Mae'n bwysig cadw'r ffocws o'r hyn sydd o flaen ein dysgwyr wrth gynllunio cwricwlwm, ac oherwydd natur ein hysgol mae ein hathrawon yn hyderus ag yn gyfredol ar y wybodaeth ynglyn ag arholiadau allanol ar ddiwedd blwyddyn 11 yn ogystal a'r 6ed dosbarth.
Serch hyn, mae cymwysterau yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o newid sylweddol ac o ganlyniad bydd y ddarpariaeth gwricwlaidd yn addasu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd gwybodaeth bellach ynglyn a'r cymwysterau newydd ar gael yn fuan yn dilyn diwedd ymgynghoriad Cymwysterau Cymru, ac yn fuan ein hymateb fel ysgol i'r arlwy cwricwlaidd sydd ar gael i'n holl ddysgwyr.