Gall technoleg gynorthwyol gefnogi unigolion ag anghenion addysgol ychwanegol i wella neu i gynnal ansawdd eu bywyd bob dydd. Er fod technoleg gynorthwyol yn hanfodol i rai mae'r offer technoleg cynorthwyol yn medru bod yn werthfawr i bawb. Wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol gyda ein dysgwyr ADY o fewn ein hysgolion bydd modd iddynt:
fod yn fwy annibynnol wrth gwblhau tasgau penodol a hybu eu hyder
gyfathrebu ag athrawon a chyd-ddisgyblion a chymryd mwy o ran mewn gwersi
feistroli sgiliau bywyd sy'n arwain at bontio'n fwy llwyddiannus i fod yn oedolyn
Hyfforddiant diweddariadau offer hygyrchedd digidol
Enw: Hyfforddiant 'Diweddariadau Digidol - Offer hygyrchedd' (Hydref 2023)
Disgrifiad: Cyflwyniad o'r nodweddion hygyrchedd o fewn Windows, yr offer digidol o fewn Office 365 gellid eu defnyddio gyda dysgwyr ADY a sut i addasu'r nodweddion hygyrchedd ar Chromebook ac ar yr iPad.
Cynulleidfa darged: Athrawon a staff cynorthwyol cynradd ac uwchradd
Y Darllenydd Ymdrwythol (Immersive Reader)
Mae Immersive Reader yn offeryn rhad ac am ddim i gynorthwyo gyda darllen a deall.
Gallwch wella eich ffocws ar y testun trwy newid maint a'r math o ysgrifen, edrych yn benodol ar linell neu linellau o fewn y testun a newid y lliw cefndir i liw addas. Gall y rhain i gyd wneud y dogfennau'n haws i'w darllen.
Gall Darllenydd Ymdrwythol hefyd ddarllen testun yn uchel ac adnabod enwau, berfau ac ansoddeiriau er mwyn helpu eich sgiliau gramadeg. Mae yna hefyd geiriadur ar gyfer deall ystyr geiriau penodol o fewn yr offer a'r gallu i gyfieithu'r testun i ystod eang o ieithoedd. Gellir cael mynediad i 'Darllenydd Ymdrwythol' yn Word, OneNote, Outlook, Office Lens, Microsoft Teams, Reading Progress, Forms, Flip, Minecraft Education a'r porwr gwe Edge.
Offer Arddywediad (Dictation) - Microsoft
Mae'r offer 'Arddywediad' yn offeryn rhad am am ddim sy'n eich caniatáu i ysgrifennu cynnwys yn Office drwy ddefnyddio eich llais i greu dogfennau, negeseuon e-bost, nodiadau, cyflwyniadau, neu hyd yn oed nodiadau sleid yn gyflym.
Mae angen cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy i'r offer i weithio ac ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg mae'r offer yma yn gweithio. Mae offeryn tebyg i'w gael yn J2e5 ond unwaith eto dim ond yn y Saesneg mae'r offeryn yma yn gweithio hefyd.
Mae 'Seeing AI' yn ap rhad ac am ddim sydd wedi'i ddylunio i'r gymuned ddall a golwg isel i'w helpu gyda tasgau dyddiol.
Mae'r ap yn defnyddio pŵer AI i ddarllen, disgrifio lluniau, a nodi gwrthrychau ar lafar i'r defnyddiwr o'r byd o'u cwmpas.
Gallwch ddefnyddio 'Magnifier' ar iPhone, iPad, neu iPod i chwyddo a goleuo gwrthrychau, cymhwyso hidlwyr lliw, newid y cyferbyniad y sgrîn a mwy.
Newid gosodiadau hygyrchedd y 'Chromebook'
Mae'r fideo yma yn cyflwyno sut i newid gosodiadau ar y Chromebook er mwyn hwyluso mynediad eich dysgwyr i'r cynnwys sydd ar y sgrîn.
Yn y fideo yma bydd Jason Grieves o Microsoft yn cyflwyno sut i wneud testun yn fwy a newid maint a lliw pwyntydd eich llygoden i wneud Windows yn haws i'w weld.
Yn ogystal bydd yn dangos sut i ddefnyddio 'Magnifier' i symleiddio'ch profiad a chadw'r pwyntydd yng nghanol y sgrin.