Hunaniaeth, delwedd
ac enw da
ac enw da
Bydd y wefan hyn yn cael ei ddiweddaru'n gyson / This website will be continuously updated.
Cam cynnydd 1
Cam cynnydd 1 - Rwy’n gallu gwahaniaethu rhwng rhywun rwy’n ei adnabod a rhywun nad wyf erioed wedi cyfarfod ag ef.
Chwarae gém gyda'r dysgwyr lle mae rhaid iddyn nhw ddidoli lluniau o bobl mewn i ddau grẃp sef pobl mae nhw'n adnabod (e.e. lluniau o ffrindiau , staff yr ysgol a.y.b.) a phobl dydyn nhw ddim yn nabod (e.e. lluniau o bobl allan o gylchgronau a.y.b.). Wrth ddidoli y lluniau o bobl maent yn nabod gellid gofyn i'r dysgwyr i ddweud un peth mae nhw'n gwybod am y person yna.
Cam cynnydd 1 - Rwy’n gallu adnabod data ar-lein gyda chymorth oedolyn, e.e. dod o hyd i ddelweddau ohonof i fy hun ac eraill ar wefan yr ysgol/ar dudalen cyfryngau cymdeithasol yr ysgol.
Esboniwch i'r plentyn ei fod yn mynd i fod yn " Dditectif data " a dysgwch sut i ddod o hyd i wybodaeth (data) ar-lein gyda'ch help. Ewch i wefan sy'n addas i blant. Dangoswch iddynt sut i symud o gwmpas y wefan a dod o hyd i wahanol fathau o wybodaeth (data), megis lluniau, fideos a thestun. Gofynnwch iddyn nhw dynnu sylw at bethau sy'n ddiddorol iddyn nhw ac esbonio'r hyn maen nhw'n ei weld. Gofynnwch i'r plentyn adnabod gwahanol fathau o ddata y maent yn eu gweld er enghraifft, "Allwch chi ddod o hyd i lun o anifail?" neu "Allwch chi ddod o hyd i rif ar y dudalen hon?" Trafodwch bwysigrwydd gofyn i oedolyn am help wrth chwilio am wybodaeth ar-lein. Nodwch rhai syniadau sylfaenol i gadw'n ddiogel ar-lein e.e. peidio â rhannu gwybodaeth bersonol a gofyn i oedolyn bob amser cyn clicio ar ddolenni neu lawrlwytho unrhyw beth a.y.b.
Cam cynnydd 1 - Rwy’n gallu sylweddoli bod canlyniadau i weithredoedd ac rwy’n gallu nodi rheolau a strategaethau syml i gadw fy hun yn ddiogel ar-lein.
Darllen llyfr stori am ddiogelwch ar-lein ( e.e. Anturiaethau Smarti y Pengwin , Hani a'r ffenest Hud, Digi hwyaden , 'Chicken Clicking' a.y.b.) ac yna trafod cynnwys y stori. Yna gyda'i gilydd, creu rhestr o reolau diogelwch ar-lein syml i'r dosbarth.
Cam cynnydd 2
Cam cynnydd 2 - Rwy’n gallu gwahaniaethu rhwng gwybodaeth breifat a gwybodaeth bersonol ac rwy’n gwybod pryd i’w datgelu.
Gweithgaredd didoli - gwybodaeth sy'n iawn i'w rannu a gwybodaeth ddylech chi beidio rhannu o gwbl.
Sorting activity- information that's safe to share and information you shouldn't share .
Didolwch y cardiau mewn i ddau grŵp - cardiau gwybodaeth bersonol a chardiau gwybodaeth breifat.
Sort the cards into two groups - personal information cards and private information cards.
Cam cynnydd 2 - Rwy’n gallu deall bod rhoi gwybodaeth ar-lein yn gadael ôl-troed digidol.
Gweithgaredd didioli - gweithgareddau sy'n rhoi ôl troed digidol a gweithgareddau sydd ddim.
Sorting activity- activities that give a digita footprint and activities that don't..
Didolwch y cardiau mewn i ddau grŵp - gweithgareddau sy'n rhoi ôl troed digidol a gweithgareddau sydd ddim.
Sort the cards into two groups - activities that give a digita footprint and activities that don't.
Cam cynnydd 2 - Rwy’n ymwybodol o reolau syml ar gyfer rhannu delweddau a data.
Cam cynnydd 2 - Rwy’n gallu nodi a defnyddio strategaethau ar gyfer diogelu data personol a chaledwedd, e.e. defnyddio cyfrineiriau diogel.
Rhowch gymorth i Mistar Urdd ddidoli y cyfrineiriau cadarn a gwan.
Cam cynnydd 3
Cam Cynnydd 3 - Rwy’n gallu deall sut i ddiogelu fy hunan rhag cael fy hunaniaeth wedi’i ddwyn ar-lein, e.e. adnabod gwefannau diogel, gwe-rwydo, gwefannau sgamio.
Chwiliwch am yr atebion cywir i ateb y cwestiynau am sut i gadw'n ddiogel
ar-lein yn y ddrysfa.
Look for the correct answers to the questions about how to keep safe online in the maze.
Bydd grwpiau neu barau yn adrodd yn ôl i weddill y dosbarth wedi iddynt ddeall pwnc neu gysyniad newydd. Byddant yn trafod a chynllunio’r adrodd yn ôl fel ‘arbenigwyr yn y maes’.
Gall dysgwyr ddefnyddio y daflen cofnodi yma i sgorio gwaith llafar yr 'arbenigwyr'.
Cam Cynnydd 3 - Rwy’n gallu nodi manteision a risgiau dyfeisiau symudol sy’n cyhoeddi lleoliad y defnyddiwr/dyfais.
Cam Cynnydd 3 - Rwy’n gallu meddwl yn feirniadol am wybodaeth a gaiff ei rhoi ar-lein
Cam Cynnydd 3 - Rwy’n gallu nodi manteision a risgiau rhoi gwybodaeth bersonol a rhoi mynediad i wahanol feddalwedd i ddyfeisiau.