Cyn mynd ati i ddechrau datblygu a chynllunio dysgu digidol mae'n holl bwysig casglu gwybodaeth a chael dealltwriaeth o'r ddarpariaeth presennol er mwyn deall eich gwaelodlin.
Mae'n bwysig hefyd adnabod y rhwystrau yn ogystal â'r agweddau hynny sy'n cyfrannu at eich darpariaeth er mwyn medru datblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol fel sgil trawsgwricwlaidd.
Fedrwch gasglu'r wybodaeth ac adrodd ar eich sefyllfa bresennol mewn sawl ffordd;
Fframwaith Hunanasesu 360 Safe Cymru a 360 Digi Cymru
Dilyn prosesau monitro, gwerthuso ac adolygu, h.y. craffu'r dysgu, trafod gyda staff, sgyrsiau cynnydd - Gwrando ar ddysgwyr a theithiau dysgu
Un dull i fedru casglu barn am eich gwaelodlin yw mapio'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol trwy ddefnyddio'r daenlen mapio, (gweler enghraifftiau islaw).
Cliciwch YMA i lawrlwytho'r ffeil yma
Er mwyn lawrlwytho ffeil fel Excel bydd rhaid mynd i File > Download > Microsoft Excel
Rhannwch y ffeil Excel gyda holl athrawon yr ysgol, ee drwy Microsoft Teams gan holi iddynt gwblhau er mwyn i chi gael trosolwg o'r ddarpariaeth bresennol.
Cynhaliwch gyfarfodydd cynllunio gyda staff perthnasol. Gallai’r arweinydd digidol a'r arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad / Adrannol edrych ar gynlluniau a thrafod cyfleoedd ar gyfer dysgu digidol ac yna ailddiffinio rhai gweithgareddau drwy ddefnyddio e.e. Model SAMR i ddatblygu sgiliau digidol. Gallai arweinwyr digidol gyfeirio at enghreifftiau o fewn pob Maes Dysgu a Phrofiad / Cam.
Dyma enghraifftiau o'r ddogfen mapio wedi'i lenwi
Dull arall i fedru mapio'r ddarpariaeth Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy'r ysgol yw i ddatblygu gwefan 'Darpariaeth Cymhwysedd Digidol'
Beth am ddefnyddio Google Sites i greu portffolio digidol er mwyn cadw cofnod / tystiolaeth o ddilyniant dysgu digidol.
"Mae'r dull yma yn eich caniatau i enghreifftio cynnydd yn ogystal â mapio'r ddarpariaeth"!