Arweiniad atodol ar gyfer arolygu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) mewn ysgolion_0.pdfCeir cwestiynau addas i uwch arweinwyr ar dudalen 13 o'r ddogfen
Cwestiynau Estyn 2023 Cym.pdfIsod, ceir dri ddetholiad o adroddiadau ysgol gan Estyn sy'n ymwneud â Chymhwysedd Digidol. Gall hyn roi rhywfaint o syniadau i chi am feysydd penodol i ganolbwyntio arnynt wrth adolygu'r dysgu ac addysgu mewn Cymhwysedd Digidol, yn ogystal â chynnig enghreifftiau ychwanegol o sut i ysgrifennu adroddiadau arfarnol.
Detholiad 1 - Ysgol gynradd
Mae medrau digidol disgyblion yn datblygu’n gadarn ar draws yr ysgol. Mae llawer o ddisgyblion y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn rheoli robot bach rhaglenadwy yn effeithiol. Ym Mlwyddyn 1 a 2, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio cyfrifiaduron llechen yn aeddfed er mwyn cofnodi eu gwaith yn annibynnol. Maent yn defnyddio dull rhicbren er mwyn creu graffiau digidol sy’n crynhoi lliw llygaid disgyblion y dosbarth. Yn y dosbarthiadau hŷn, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio amrediad o raglenni’n hyderus, ac yn penderfynu pa feddalwedd sydd orau ar gyfer cyflawni gwahanol dasgau. Er enghraifft, ym Mlwyddyn 3 a 4, maent yn creu cyflwyniadau effeithiol am bwysigrwydd gofalu am y byd a lleihau llygredd. Ar frig yr ysgol, maent yn defnyddio bas data’n fedrus i ddarganfod gwybodaeth, er enghraifft wrth ddysgu am y Cymry a deithiodd i Batagonia ar y Mimosa. Maent hefyd yn arddangos medrau codio cadarn wrth greu animeiddiad ar ffurf gêm gyffrous ac yn datblygu eu gwaith trwy wneud y gêm yn fwy heriol ar gyfer chwaraewyr yn dilyn adborth gan athrawon.
Mae medrau digidol y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu’n effeithiol wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Maent yn cyfuno eu dealltwriaeth o wahanol raglenni ac apiau cyfrifiadurol yn gynyddol hyderus i gyfoethogi eu gwaith. Yn y dosbarthiadau ieuengaf, maent yn trîn a thrafod offer yn hyderus, er enghraifft wrth ddefnyddio llechen ddigidol i gofnodi eu gwaith ac i ddatblygu eu medrau llafar a gwrando. Erbyn Blwyddyn 2, maent yn creu graffiau syml o liwiau llygaid aelodau’r dosbarth. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion hynaf yr ysgol yn defnyddio ystod o feddalwedd i gyflwyno gwaith ar draws y meysydd dysgu yn gelfydd. Er enghraifft, maent yn defnyddio cronfeydd data a thaenlenni’n llwyddiannus i gofnodi elw yn dilyn arwerthiant cynnyrch o’r stondin drachtiau.
Mae medrau digidol disgyblion yn datblygu’n gyson ar draws yr ysgol. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ieuengaf yn defnyddio dyfeisiau digidol yn bwrpasol i atgyfnerthu eu medrau llythrennedd a rhifedd a chreadigrwydd. Erbyn diwedd Blwyddyn 2, mae llawer yn medru creu graff bloc o ffeithiau am ddisgyblion y dosbarth. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hŷn yn defnyddio’r we i ymchwilio’n annibynnol er mwyn dod o hyd i wybodaeth ar amrywiaeth o destunau. Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth effeithiol o sut i drin data a chreu taenlenni. Enghraifft dda o hyn yw cronfa ddata’r disgyblion am lyfrau T.Llew Jones.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Mae’r timoedd dysgu yn creu cynlluniau gwaith hyblyg sy’n rhoi ffocws clir ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn systematig. Mae’r athrawon yn canolbwyntio’n briodol ar addysgu medrau penodol, gan adeiladu hyder disgyblion i gymhwyso’u medrau mewn gwahanol gyd-destunau ar draws y cwricwlwm. Mae’r staff yn dechrau darparu cyfleoedd i’r disgyblion hŷn ddewis y modd mwyaf effeithiol i ddatblygu eu syniadau a chyflwyno eu gwaith.
Detholiad 2 - Ysgol uwchradd
O gael y cyfle, mae mwyafrif y disgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn briodol. Maent yn defnyddio meddalwedd digidol pwnc-benodol yn fuddiol, er enghraifft pan maent yn creu animeiddiadau yn eu gwersi technoleg ddigidol.
Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn fuddiol ar draws y cwricwlwm. Er enghraifft, maent yn defnyddio meddalwedd yn gelfydd wrth ddylunio logos ar gyfer Eisteddfod yr ysgol a chreu siartiau cylch wedi’u hymgorffori mewn taenlenni wrth astudio’r tywydd yn eu gwersi daearyddiaeth.
Pan gânt y cyfle, mae disgyblion yn datblygu’u medrau digidol yn gadarn, wrth iddynt, er enghraifft, ddatblygu gwefan ar y diwydiant glo ym Mlwyddyn 9 ac wrth olygu ffotograffau a thrafod yn wybodus sut aethon nhw ati i wneud hynny. Mae disgyblion yn hyderus wrth ddefnyddio gliniaduron at bwrpasau penodol mewn gwersi.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Yn eu gwersi technoleg gwybodaeth, ac yn y cyfleoedd sydd ar draws y cwricwlwm, mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn llwyddiannus. Er enghraifft, mewn gwersi gwyddoniaeth, mae disgyblion yn defnyddio taenlenni i greu graffiau gwasgariad a datrys fformiwlâu, ac mewn gwersi Cymraeg, mae disgyblion yn creu podlediadau ar faterion cyfoes.
Mae’r cydlynwyr llythrennedd, rhifedd a medrau digidol wedi datblygu cynlluniau ac arweiniad trefnus a buddiol ar gyfer adrannau ar draws yr ysgol. Maent yn datblygu’n gynyddol effeithiol yn eu rolau ac yn eiriolwyr cryf ac egnïol dros eu meysydd cyfrifoldeb. Er hynny, nid yw’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau cynyddol disgyblion wedi’i chynllunio’n strategol ar draws y cwricwlwm. Mae trefniadau ar gyfer monitro’r ddarpariaeth ar draws y pynciau perthnasol yn eu dyddiau cynnar.
Mae’r cydlynwyr medrau yn cydweithio’n effeithiol ag adrannau i adnabod cyfleoedd pwrpasol i gynllunio a datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion.
Detholiad 3 - Ysgol gydol oed
Mae disgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cynnydd cryf yn eu medrau digidol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion oedran cynradd yn ymchwilio ar y we yn hyderus, er enghraifft i ganfod gwybodaeth ynglŷn ag adar gan greu ffeil o ffeithiau difyr. Erbyn Blwyddyn 2, mae’r disgyblion yn rhaglennu’n gywir i symud teclyn digidol ar hyd llwybr penodol. Mae llawer o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn cyflwyno gwybodaeth yn fedrus. Er enghraifft, maent yn cyrchu gwybodaeth o’r we am organau’r corff gan gynnwys recordiad llais i ddisgrifio pwrpas yr organau. Mae medrau digidol disgyblion o oedran uwchradd yn adeiladu’n llwyddiannus ar eu profiadau blaenorol. Mae gan lawer o’r disgyblion fedrau digidol cymwys iawn. Er enghraifft, maent yn creu siart addas i arddangos y data ar y newid cyfrannol mewn disgwyliad oes yng ngwledydd Affrica. Mae llawer yn fedrus wrth ddefnyddio meddalwedd cymhleth i gyfansoddi cerddoriaeth a chreu gemau digidol. Mae llawer o ddisgyblion yn arddangos medrau codio pwrpasol, er enghraifft i greu eu gwefannau eu hunain ar ynni adnewyddadwy.
Mae’r disgyblion ieuengaf yn defnyddio technoleg yn llwyddiannus, er enghraifft wrth greu lluniau hydrefol gyda phecyn celf. Mae llawer o ddisgyblion yn parhau i ddatblygu medrau digidol yn addas, yn bennaf wrth ddefnyddio’r we i ddarganfod gwybodaeth a defnyddio meddalwedd gwahanol i gyflwyno gwybodaeth. Maent yn manteisio ar gyfleoedd achlysurol i ddatblygu medrau digidol eraill yn briodol. Er enghraifft, yn eu gwersi technoleg, mae disgyblion Blwyddyn 8 yn codio peiriant i fesur pa mor bell maent yn cerdded. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae disgyblion yn datblygu ystod gyfyngedig o fedrau digidol, ac nid ydynt yn datblygu eu medrau yn gydlynus dros amser.
Profiadau Dysgu ac Addysgu
Mae cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ieuengaf yr ysgol ddefnyddio a chymhwyso eu medrau digidol sylfaenol ac mae ychydig iawn o athrawon yn cynllunio gweithgareddau buddiol i dargedu ystod ehangach o fedrau digidol. Mae arweinwyr wedi dechrau cynnal awdit a mapio’r cyfleoedd i ddatblygu medrau disgyblion ar draws yr ysgol. Fodd bynnag, nid oes strategaeth ysgol gyfan i sicrhau bod medrau ysgrifennu Saesneg, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion yn datblygu dros amser.