Extending practice

Ar gyfer y module extending practice, mi wnaethom ni gychwyn drwy drafod y syniad o greu schematic drawing. Bu i ni wneud ymchwil mewn i wahanol fathau o 'schematic drawings', a'r artistiaid gwahanol sydd yn eu defnyddio.

Mi wnaethom ni gyd wneud map bras unigol yn archwilio'r pethau cynta sydd yn dod i'n meddwl pan mae'n dod i'r prosiect hwn a beth y bysan ni yn hoffi ei gynnwys fel pynciau a themau yn ein prosiect. Y peth cyntaf wnaeth ddod i fy meddwl i oedd fy hoffter o ffilmiau, llyfrau a rhaglenni Coming of Age. Mae ffilmiau Coming of age wedi bod yn rhai o fy hoff ffilmiau ers amser hir, oherwydd eu elfennau uniaethol a'r gwreiddiau emosiynol sydd i'r storiau. Rhan fwyaf or amser, mae'r storiau hyn yn cael eu dweud a mwy o bwyslais ar y cymeriadau eu hunain a'u datblygiadau nhw, yn hytrach na'r plot a stori chymleth yn cael ei ddweud.

Rydw i ar hyn o bryd mewn lle diddorol yn fy mywyd be mae lot o newidiadau yn digwydd yn fy mywyd i a fy ffrindiau. Mae wedi dod i bwynt ble mae oedoliaeth wir wedi cychwyn a bod cyfrifoldebau a sefyllfaoedd newydd yn cael eu cyflwyno i ni. Mae symudiad diweddar un o fy ffrindiau agosaf i Gaerdydd ar gyfer swydd wedi gwneud i mi edrych yn ol ac adlewyrchu ar ein blynyddoedd fel ffrindiau, ond hefyd fy mywyd i yn fy ieuenctid hyd yn hyn. Rydw i yn aml yn edrych yn ol drwy'r blynyddoedd hyn drwy'r lens wedi ei romantiseiddio fel sydd yn cael ei wneud mewn ffilmiau, a gweld fy hun a fy ffrindiau fel cymeriadau sydd yn mynd drwy'r storylines sydd yn cael eu cynnwys mewn ffilmiau am bobl ifanc. 

Isod, mae llun o fy schematic drawing hyd yn hyn. Roeddwn wedi meddwl creu un newydd arwahan i'r un bras wnaethom ni wneud, ond wnes i wedyn benderfynu gweithio ar ben yr un oedd i fod mond yn un bras drwy ychwanegu lluniau wedi eu arlunio ac ysgrifennu ychwanegol. Roeddwn i'n hoffi'r 'spontaneity' a oedd yn yr un gwreiddiol, ac eisiau cadw'r egni hwnw i fynd ymlaen a'r prosiect. Rydw i wedi cynnwys yr holl bethau oedd yn dod i fy meddwl i sydd yn mynd i ysbrydoli'r prosiect a sydd yn gysylltiedig efo'r pwnc hwn yr ydw i wedi penderfynu gwneud fy ngwaith arno.- 

Dyma rhai esiamplau o fy hoff ffilmiau coming of age -  

Mi wnaeth y podcast yma hefyd ddod a ysbrydoliaeth i mi. Mae'r podcast yn cael ei gyflwyno gan Alana Haim, sydd yn aelod o fy hoff fand HAIM sydd wedi  bod yn rhan mawr o'r cerddoriaeth dwi wedi bod yn gwrando arno ers yr oeddwn i'n teenager. Mae'r podcast yn trafod profiadau 'middle school' ac ysgol uwchradd a'r atgofion a momentau embarassing, ond hefyd 'heartwarming' sydd yn dod a'r blynyddoedd yna o fod yn ifanc.  

Ar ol edrych ar y schematic drawing, un o'r pethau oedd yn apelio i fi fwya oedd y math o bapur wnaethom ni ddefnyddio. Dwi'n hoff or texture ar y papur newsprint, oherwydd mae na elfen llai 'precious' iddo. Felly wnes i benderfynu cynnwys y math hwn o bapur yn fy ngwaith wrth i mi gychwyn. Ar ol cael tiwtorial gyda fy nhiwtor Miranda, penderfynais greu darnau bach i gychwyn er mwyn gallu archwilio fy mhwnc yn bellach. Mi wnes i dorri darnau o'r papur allan a chasglu pethau fel hen ddyddiaduron a journals, a hefyd hen albwms lluniau er mwyn cael rhywbeth i gychwyn gweithio ohono. 

Mi wnes i gychwyn edrych drwy hen luniau er mwyn casglu ysbrydoliaeth er mwyn y gwaith ac er mwyn edrych yn ol ar y blynyddoedd rydw i eisiau eu cynnwys yn y gwaith hwn. 

Mi wnes i hefyd gychwyn defnyddio typewriter o'r coleg er mwyn ysgrifennu rhai darnau o fy nyddiadur ar y tudalennau, a chynnwys rhai darnau eraill o ysgrifennu oeddwn i'n teimlo sydd yn berthnasol, fel geiriau i rai caneuon, a rhannau o lyfrau gwahanol sydd wedi cyfrannu at yr ysbrydoliaeth.

Mi wnes i gymryd ysbrydoliaeth o'r llyfr 'Everything I know about love' gan Dolly Alderton. Mae'r llyfr yn 'memoir' sydd yn son am fywyd Alderton wrth iddi dyfu fyny yn Lloegr, mynd i'r coleg, a mae pwyslais mawr ar y 'friendships' sydd ganddi a merched eraill yn ei bywyd, a sut mae'r perthnasau yna yr un mor, os nad mwy pwysig iddi, na mae perthnasau rhamantus. 

Artist research - Llinos Owen.

Mae Gwaith Llinos Owen wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi yn ystod y prosiect hwn oherwydd mae hi wedi bod yn archwilio mewn i nifer o'r run math o themau yn ei gwaith, a'r themau dwi yn eu cynnwys yn y prosiect hwn.  Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddelweddau 'autobiographical', ac yn cynnwys themau fel ieuenctid, gender a pherthnasau. Mi wnes i weld un o'i darnau yn arddangosfa 40 mlynedd y cwrs Foundation yn Storiel ym Mangor, a mi wnaeth ei darn a oedd yna dynnu fy llygaid. Mae ei gwaith hefyd yn cynnwys portreadau fel elfen pwysig, sydd hefyd yn rywbeth dwi'n uniaethu a fo yn fy ngwaith i. Mae Llinos yn ei gwaith hi yn defnyddio tecstiliau a edafedd er mwyn gwneud ei gwaith, sydd ddim yn rywbeth dwi'n ei ddefnyddio, ond mae ei defnydd hi o liwiau, siapiau a phatrymau yn rhywbeth dwi hefyd yn cynnwys yn fy ngwaith. Mae ei gallu hi i gyfleu emosiwn a synnwyr o nostalgia a amseroedd penodol yn ysbrydoliaeth i mi yn y prosiect hwn, ac yn rhywbeth dwi'n gobeithio ei gyflawni yn fy ngwaith drwy fy steil ac arddull i.

Gwaith Llinos Owen mewn arddangosfa yn storiel.

Dwi wedi bod yn gweithio yn gyson ar y prosiect i greu cyfanwaith sydd yn cynrhychioli fy mywyd ar y cyfan, a sydd yn mynegi'r teimlad hwnw o fod mewn cyfnod o fywyd 'coming of age'.  Mae cyfuniad o'r lluniau dwi'n eu harlunio a'r defnydd o ysgrifen i gynnwys darnau o ddyddiaduron, geiriau i ganeuon, ac hefyd 'stream of consciousness' yn rhoi elfen fel journal i'r gwaith, rhywbeth hefyd sydd yn ysgogi'r teimlad coming of age.

LLYFR - Drawing from life -the journal as art

Cefais fy ysbrydoli gan y llyfr yma ar ol cael fy nghyflwyno ato yn ystod y prosiect oherwydd bod gweithio mewn sketchbooks yn rhan mawr o fy ngwaith a bod na nifer o artistiaid wedi eu cynnwys yn y llyfr yr oeddwn yn medru uniaethu a nhw. 

Artist research - Martin Wilner


Mi wnes i weld gwaith Wilner am y tro cyntaf yn y llyfr drawing from life. Mi wnes i gael fy nenu i'w waith oherwydd roeddwn yn gweld tebygrwydd yn ei ffordd o arlunio a fy ffordd i. Ar gyfer y prosiect hwn, mae'r rhan fwyaf o'r tudalennau wedi eu creu drwy ddefnyddio ink du i wneud llinellau, weithiau wedi eu lliwio mewn, ond weithiau wedi ei gadael yn ddu a gwyn. Mae defnydd yr artist o bortreadau wedi eu cyfuno a phatrymau a lluniau eraill yn rywbeth dwi eisiau ei gynnwys yn fy mhrosiect i, yn cynnwys dod a lot o'r patrymau dwi wedi bod yn eu gwneud er ehangu'r gwaith yma. Mae gwaith Wilner yn dangos effeithlonrwydd weithiau gadael 'blank spaces' yn y gwaith, a bodd ddim rhaid cynnwys pethau ymhob twll a chornel o'r papur i wneud gwaith effeithiol. Mae ganddo ddefnydd cryf o liwio mewn y llefydd gwag a lliw du, sydd yn gwneud i'r portreadau a'r lluniau eraill sefyll allan. Weithiau yn fy ngwaith dwi wastad yn chwilio am fwy a mwy i'w ychwanegu i'r gwaith, ac eisiau i bob dim edrych yn hollol 'polished' a gorffenedig, ond wrth edrych ar waith fel hyn mae'n fy atgoffa bod cynnwys patrymau, lliwiau a siapiau yn lle y darnau manwl bob tro yn gallu bod yr un lefel o effeithiol.

Ar drip i'r Manchester art gallery, mi wnes i  a fy ffrindiau geisio ail greu golygfa o'r ffilm Ferris Bueller's day off. Roedd bod yna hefo fy ffrindiau yn fy atgoffa o'r olygfa, and yn ychwanegu tuag at fy nghymariaethau o fy mywyd go iawn, a'r storiau coming of age dwi wedi eu gwylio mewn ffilmiau a theledu. 

YouCut_20221122_191839728.mp4

Trip Manceinion - Manchester City Art Gallery

20221122_121528.mp4

Fy mwriad ar gyfer diwedd y prosiect ydi rhoi y darnau yma i gyd at ei gilydd mewn math o lyfr. Dydw i ddim yn siwr iawn eto pa ffordd ydw i am wneud hyn, os ydw i am ddefnyddio technegau 'binding' wedi eu gwneud a llaw, ta ydw i am ddefnyddio technegau rydym ni wedi bod yn ei dysgu yn ystod y blynyddoedd dwytha pan mae'n dod i ddefnyddio technoleg er mwyn creu darn terfynol proffesiynol. Rhan mawr o'r gwaith i mi ydi'r gwead sydd yn y papur a perthynas hynny hefo fy narluniau, felly mae'n bwysig i mi ddod o hyd i ffordd i gynnwys hyn yn y darn terfynol, rhywbeth dwi'n meddwl fydd yn eitha annodd ei gynnwys os ydw i'n penderfynu mynd lawr llwybr sydd yn cynnwys creu llyfr mewn ffordd digidol yn unig.

Soundtrack

Rhywbeth sydd yn bwysig iawn mewn ffilmiau a rhaglenni coming of age yw y soundtrack. Mae'r dewis o gerddoriaeth yn setio'r ton ar gyfer y stori ac yn dylanwadu ar yr emosiynau sydd yn cael eu portreadu yn y golygfeydd. Mae rhai caneuon o soundtracks ffilmiau yn dod yn eiconig mewn cysylltiad a'r ffilmiau, e.e. Dont you forget about me or film the Breakfast club. Mae cerddoriaeth yn ran mawr o fy mywyd i a mae gen i ganeuon yn fy mywyd sydd yn fy atgoffa i o amseroedd gwahanol, cyfnodau penodol mewn bywyd a theimladau sydd wedi eu teimlo. 'dwi wedi creu playlist yn cynnwys rhai o'r caneuon sydd yn rhan o fy stori i , ac eisiau ffendio ffordd o gynnwys rhai o'r caneuon hyn yn y gwaith ei hun.

Y TUDALENNAU-

Mi wnes i gychwyn gwneud y tudalennau mewn ffordd eithaf random, does na ddim order penodol i'r ffordd wnes i eu gwneud nhw, nac eto yn y ffordd dwi wedi bod yn eu cadw / edrych drwyddynt. Mae na gymysg o ddelweddau o blentyndod, momentau mwy presennol, patrymau, geiriau a delweddau eraill.

Fy mrawd yn sefyll ar wal ein hen gartref Weirglodd Newydd o gwmpas 2002, hefo tractor fy nhad yn y cefn.

Lowri (chwith) fy nghyfneither, yn gafael yn fy nhroed i (dde) wrth ddathlu Penblwydd Mam yn 30 (o gwmpas 2001)

Darn o ysgrifen yn son am fy mhrofiadau wrth dyfu fyny fel chwaer i rywun a anableddau.

Defnyddio'r teipiadur er mwyn ychwanegu 'text'.

Ar gychwyn y prosiect, mi wnes i ffendio fy hen ddyddiaduron o pan oeddwn yn yr ysgol ac yn gwneud fy lefel A. Roeddwn i eisiau cynnwys rhai rhannau o'r dyddiaduron yn y prosiect, ond eisiau gwneud hynny mewn ffordd effeithiol, felly mi wnes i gychwyn defnyddio'r teipiadur yn y coleg. Mae na elfen reit ramantus o ddefnyddio teipiadur yn yr oes fodern yn hytrach na defnyddio cyfrifiadur, a does na ddim llawer o gyfle i gywiro camgymeriadau sydd yn cael ei wneud, sydd yn ychwanegu at yr elfen 'stream of consciousness' sydd yn cael ei gynnwys mewn ysgrifennu mewn dyddiadur / journal. Ar ol i mi gynnwys rhai o'r rhannau o'r dyddiaduron, mi wnes i benderfynu cychwyn ysgrifennu chydig o waith gwreiddiol, newydd ar y teipiadur. Oeddwn i eisiau cynnwys rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu ganddo i rwan, yn hytrach na defnyddio hen feddyliau a theimladau o'r hen ddyddiaduron yn unig. Dwi wedi mwynhau defnyddio'r teipiadur er mwyn ysgrifennu rhannau o'r prosiect hwn oherwydd, eto, mae'r elfen 'stream of consciousness' wedi caniatau i mi fod yn agored am fy mhrofiadau sydd yn rhan o fy stori coming of age i.

Atgofion o noson yng nghampio yn ty Ceiri (2019), yn cynnwys ein tent a wnaeth golapsio arnom wrth i ni gysgu ynddi, a golygfa o'r film 'Booksmart' a wnes i ei gwylio y noson gynt, y golygfeydd o'r film honno yn 'blendio' mewn hefo fy atgofion o'r noson honno.

Chwythu cannwyllau ar fy Mhenblwydd yn 21 (2021), wedi fy amgylchynu gan fy ffrindiau wrth wrando ar stay another day gan East17.

Chwarae Prosecco pong ym mhenblwydd un o fy ffrindiau gorau Anni yn 18 (2018). Thema y parti oedd y 70au. Mae'r dudalen hon hefyd yn cynnwys clawr y sengl 'it's not living if its not with you' gan The 1975, can sydd yn fy atgoffa fi o'r amser yma pan oeddwn ar fy ail flwyddyn yng Ngholeg Meirion Dwyfor.

Tudalen yn cyfleu fy obsesiwn efo tim pel droed Lerpwl a'r 'triumph' o gael crys pel droed fy hun ar fy mhenblwydd yn 9 oed (2009).

Nofio  ar draeth Pwllheli ar ol gwaith hefo Luned a Llio yn 2022. Mi wnes i anghofio fy sbectol cyffredin felly oherwydd ein bod ni wedi aros ar y traeth tan yn hwyr roedd rhaid i mi ddreifio adra yn y tywyllwch yn fy sbectol haul.

Sion yn ein gwersi BAC blwyddyn gyntaf coleg (2017), Moli, Anni, a Sian yn ystod adeiladu ein gingerbread house blynyddol.

Fi a fy mrawd yn cynrhychioli Cymru yn ein Crysau rygbi a phel droed, hefo darlun o fy hoff chwaraewr rygbi ar y pryd, Dwayne Peel. Roeddem ni yn gwrando ar 'The Darkness' yn aml oherwydd bod Dad wastad yn chwarae eu halbwm 'One way ticket to hell... and back' yn y car.

Lino print melyn wedi ei wneud o sketch o fy llofft. Mae fy llofft yn un o'r pethau sydd yn aros mwyaf cyson drwy y stori wrth i fywyd newid yn ofnadwy o fy nghwmpas.

Golygfa o un o fy hoff ffilmiau coming of age - Little women. Dwi wastad yn cymharu 'friendship' Jo a Laurie i un o fy 'friendships' i.

Darn o sgwennu am Mam.

Atgofion o rannu lifts hefo un o fy ffrindiau gora Lleucu i'r cwrs Foundation ym Mangor.

Dyfyniad o'r llyfr Everything I know about love, sydd yn berthnasol i mi.

Adlewyrchu ar fy nheimladau tuag at dyfu fyny hefo fy ffrindiau.

Noson yn ty Anni, yn aml iawn canolbwynt cymdeithasu y grwp. (2018)

Fi yn eistedd yn ardd Weirglodd Newydd yn llai na 1 oed (2001)

Cacen penblwydd yn 16 oed (2016), mewn lino. Yn cynnwys rhai o fy niddordebau fel ffilmiau a theatr fel themau.

Fi wedi gwisgo fyny fel gwylan yn Abersoch er mwyn hybu diogelwch ar y traeth ar un o ddiwrnodau poetha'r flwyddyn (2022).

Un o ganeuon John Mayer -  No such thing. Mae hyd yr albwm 'Room for squares' yn parhau yn union faint a oedd hin bara i mi gyrraedd Parc Menai yn ystod y cwrs Foundation.

Fi a fy ffrindiau yn Prom Ysgol Glan y Mor, a cafodd ei gynnal yn Nant Gwrtheyrn. (2017).

Luned yn mynd a fy sketchbook i i gael ei arwyddo gan y band Bwncath ar ol i mi eu harlunio, fel ymddiheuriad am golli pimms ar y llyfr. Roedd hi'n ddiwrnod poetha'r flwyddyn felly wnaeth y llyfr sychu yn sydyn.

'Place and identity'

Un o'r elfennau yr oeddwn eisiau gwneud ymchwil iddo er mwyn ymestyn y darllen a meddwl tu ol i'r prosiect hwn yw'r cysylltiad rhwng 'place and identity'. Mae Mae ymchwil proffesiynol yn cael ei wneud mewn i'r cysylltiad, a faint o pwy ydi person sydd yn cael ei ffurfio mewn ffyrdd gwahanol 

Cysylltiadau i fy nhraethawd hir.

Rhywbeth sydd wedi digwydd wrth i mi weithio ar y prosiect hwn, ac ysgrifennu'r traethawd hir ochr wrth ochr, yw dylanwad yr elfennau dwi'n ymchwilio iddynt yn y traethawd, yn ffendio ei ffordd mewn i'r prosiect hwn. Dwi wedi gwneud gwaith sydd yn cynnwys elfennau 'journalistic' iddynt, rhywbeth sydd yn ran hanfodol i fy nhraethawd a'r ymchwil 'dwi'n ei wneud.

Ysgrifennu

Y rhan dw'in meddwl sydd wedi bod y mwyaf newydd i mi pan mae'n dod i  wneud y prosiect hwn yw'r ysgrifennu dwi wedi ei wneud. Yn y gorffenol dwi wedi ceisio defnyddio profiadau a theimladau personol i gyfleu gwirionedd yn fy ngwaith, ond yn y prosiect hwn dwi'n gweld fy hun wedi medru gallu bod yn onest a defnyddio cyfuniad o ddarluniau ac ysgrifen i greu darlun llawn o be ydw i'n trio ei gyfleu, sef portread o fy stori 'coming of age' i a fy ieuenctid a stori unigryw. Mae'n cael ei ddweud yn aml bod lluniau yn cael eu defnyddio i gyfleu be nad ydi geiriau yn medru, ond oherwydd na lluniau yw fy ffordd arferol i o geisio mynegi fy hun, roedd o'n ffordd newydd i mi medru cynnwys dimensiwn arall i'r prosiect drwy ddefnyddio'r teipiadur a ysgrifen llaw i sgwennu am fy mhrofiadau a theimladau.

MWY O DUDALENNAU SKETCHBOOK - 

MWY O'R TUDALENNAU - 

Sketchbook personol - 

Mae gen i sketchbook dwi'n ei ddefnyddio tu allan i'r gwaith dwi'n ei wneud yn y prosiect penodol hwn , ond dwi'n teimlo ei fod yn bwysig pan mae'n dod i'r syniad o 'extending practice'. Dydi'r tudalennau yn y sketchbook yma ddim yn cael ei asesu yn yr un ffordd a'r gwaith arall, felly does na ddim unrhyw bwysau i greu campwaith yn y llyfr. Mae'r llyfr hwn yn llawn lluniau dwi wedi eu harlunio o fy niddordebau mewn pethau fel ffilmiau, theatr, chwaraeon a momentau personol yr oeddwn i eisiau eu cadw yn y cof. Yn y llyfr yma does na ddim pwysau i fod mor greadigol, dwin gweld lluniau a phethau dwi eisiau eu harlunio neu peintio, a dwi'n gwneud hynny. Dwi'n meddwl bod y defnydd hwn o'r sketchbook yn bwysig oherwydd mae'n helpu i gadw'r creadigrwydd i fynd hyd yn oed pan does na ddim syniadau mor unigryw yn dod i'r meddwl a pan ydw i jyst eisiau arlunio er mwyn arlunio. Mae hefyd yn ymarfer arlunio sydd wedyn yn medru cael ei ddefnyddio yn fy ngwaith fel arall.

YouCut_20230209_100522611.mp4

Syniadau ar sut i arddangos y gwaith

Er fy mod wedi bod a'r bwriad o wneud y tudalennau yma mewn i lyfr, dwi hefyd yn meddwl y byswn yn hoff o arddangos y tudalennau arwahan fel mae nhw. Dwi wedi bod yn trafod a fy nhiwtoriaid am syniadau, ac un o'r syniadau oedd arddangos y tudalennau fel posteri mewn stafell wely. Oherwydd bod thema y gwaith yn canolbwyntio ar dyfu fyny a'r syniad o 'coming of age', roedd y syniad yma  yn un wnaeth apelio ataf oherwydd y ffordd y fuasai yn adlewyrchu'r themau. Mewn ffilmiau a storiau coming of age, (y storiau sydd wedi ysbrydoli'r prosiect hwn), mae ystafelloedd gwely y cymeriadau yn rhan mawr o'r 'setting' yn y storiau, ac yn rhan o'r ddelwedd 'typical' rydym ni yn meddwl amdano wrth feddwl am y storiau hyn, ac hefyd wrth feddwl am fywyd fel person ifanc.  Dydi'r tudalennau rydw i wedi eu creu ddim yn agos i fod yn maint sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer posteri (e.e. posteri band, ffilmiau, gwleidyddol), felly mi fuaswn yn medru defnyddio'r ffotocopiwr yn y coleg er mwyn gwneud fersiynau mwy o'r gwaith, i wneud iddynt edrych fel posteri. Mi wnes i gael golwg ar y we i weld esiamplau o sut mae ystafelloedd pobl ifanc yn edrych, ac hefyd edrych ar fy stafell fy hun. Mi wnes i ddod ar draws y blog yma sydd yn cynnwys lluniau o ffilmiau gwahanol a'r ystafelloedd gwely sydd yn cael eu cynnwys.

Un o'r pethau allwn sylweddoli arno drwy edrych ar ystafelloedd cymeriadau mewn ffilmiau fel hyn yw'r ffordd mae'r ystafelloedd yn cynrhychioli pwy ydi'r person drwy'r ffordd mae'n cael ei addurno. Mae'r stafell wely fel arfer yn cael ei gynnwys yn y ffilmiau fel safle o 'refuge' i'r cymeriadau, ble mae nhw'n cael bod yn nhw eu hunain a chael dianc o broblemau sydd yn dod a ieuenctid a'u bywydau unigryw. Rhai enghreifftiau yw'r lluniau isod - Stafell y prif gymeriad Kat yn y ffilm '10 things I hate about you (1999)'. Mae ei chymeriad ffeminist, angsty, 'rebellious' yn cael ei adlewyrchu yn y posteri rock sydd ar ei wal, yn cyd fynd a'r dillad gwely a dodrefn sydd ddim yn matsio. Ar ol edrych ar hyn, mi wnes i feddwl am y syniad o ddefnyddio'r tudalennau dwi wedi ei wneud er mwyn efelychu'r posteri yma sydd yn cael ei cynnwys yn y ffilm i gynrhychioli'r cymeriad, i ella fy nghynrhychioli mewn ffordd mwy llythrenol drwy ddweud stori fy mywyd.

Yn ogystal a hyn, dwi dal yn bwriadu gwneud llyfr allan o'r tudalennau, a ffendio ffordd i arddangos rhain mewn arddangosfa hefyd. Un o'r pethau sydd yn rhoi problem yn y syniad hwn ydi pa mor dennau a bregus ydi'r papur dwi wedi ei ddefnyddio, a pha mor annodd fydd gwneud llyfr allan o'r tudalennau oherwydd y risg o'u rhwygo neu difetha wrth eu 'bindio' nhw a'u gilydd. Dwi wedi bod yn trafod hyn gyda fy nhiwtor Tim, a rydym ni wedi bod yn meddwl am ffyrdd gwahanol i'r arfer o wneud llyfr o'r tudalennau, ble fydd yr 'essence' sydd yn cael ei roi gan y math o bapur dwi'n ei ddefnyddio ddim yn cael ei golli wrth roi'r gwaith a'i gilydd mewn llyfr.

Isod, mae na lun o sut mae fy lle i yn y stiwdio yn edrych ar ddiwedd y modiwl. Ar y chwith dwi wedi ceisio efelychu'r math o steil dwi wedi ei weld o bosteri cymeriadau mewn ffilmiau mewn ffilmiau, mewn steil collage.