Briff controversy/taboo.

Briff Controversy

Ar gyfer y briff hwn, roedd angen i ni greu worksheets yn seiliedig ar y thema 'controversy/ taboo'. Mi wnes i ddewis canolbwyntio ar y pwnc o wleidyddiaeth Americanaidd, oherwydd bod yr etholiad a arlywyddiaeth Donald Trump yn bwnc amserol a pherthnasol. Mae gwleidyddiaeth Americanaidd yn rywbeth sydd gen i ddiddordeb ynddo, felly mi wnes i gychwyn edrych yn ol ar yr holl bethau sydd wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf, a'r holl ffigyrau 'controversial' sydd yn ymddangos yn y newyddion pan mae'n dod i'r gwleiddyddiaeth yn yr Unol Daleithiau. Ers i Donald Trump gael ei ethol fel arlywydd y wlad yn 2016, mae pa mor ymrannol yw'r wlad wedi dod yn fwy amlwg nac erioed, ond yn enwedig yn ystod y flwyddyn diwethaf, gyda nifer o argyfyngau a digwyddiadau pwysig a dylanwadol iawn yn digwydd yn y wlad ac ar draws y byd, mae'r ddwy ochr o'r sbectrwm wleidyddol wedi symud hyd yn oed yn bellach oddi wrth eu gilydd. Mond tua pythefnos ar ol yr etholiad oedd wedi bod pan wnaethom ni gychwyn y prosiect hwn, felly roedd yn bwnc amserol ac eitha dadleuol yn y byd. O berspectif rhywun o Gymru, roedd gwylio sianel CNN a chadw fyny a cyfyngau cymdeithasol sydd yn cynnwys Americanwyr yn rywbeth a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi allu gael blas o'r hinsawdd gwleidyddol yn y wlad yn ystod cyfnod mor gythryblus yn y wlad.

Er fy mod yn cadw fyny a gwleidyddiaeth americanaidd yn eitha aml beth bynnag, roedd y cynnwys yr oeddwn yn ei weld yn ystod cyfnod yr etholiad yn rywbeth nac yr oeddwn erioed wedi ei weld o'r blaen. Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn llawn trafodaethau am wleidyddion a phledleisio, er fod gen i ddim cysylltiad uniongyrchol ir wlad. Y prif ffynhonell a wnes i ei ddefnyddio er mwyn cadw fy hun yn addysgedig am y datblygiadau yn ystod yr etholiad a'r wythnosau yn dilyn hynny oedd y sianel newyddion CNN. Mae'r sianel yn un Americanaidd ac yn rhedeg 24 awr. Roedd ganddynt fap mawr ble roeddent yn 'updatio' unrhyw ddatblygiadau a oedd yn digwydd i'r canlyniadau, tra hefyd yn cynnwys arweinwyr o ar draws y wlad, a'u barn nhw am y digwyddiadau oedd yn mynd ymlaen, yn ogystal a safbwyntiau'r cyhoedd.

Ffynhonell arall a wnes i ei weld yn ddefnyddiol ofnadwy er mwyn cadw fyny a'r newyddion yn ystod y cyfnod hwn oedd yr app tiktok. App cymdeithasol yw tiktok, sydd rhan fwyaf yn cael ei ddefnyddio gan bobl ifanc o gwmpas fy oed i, mae'n un o'r apps cymdeithasol dwi'n teimlo sydd yn rhoi y fwyaf a deimlad o gymuned i'r defnyddwyr oherwydd mae'r 'algorithm' yn rhaoi videos ar y 'for you page' sydd yn seiliedig ar eich diddordebau chi, mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn ffynhonell o adloniant, comedi a hefyd dipyn o addysg drwy'r pandemig yn 2020. Roedd y ffaith fy mod yn gweld gymaint o gynnwys gan bobl ifanc o America yn rhoi syniad i mi o'r atmosffer sydd yn y wlad ar hyn o bryd, a pha mor arwahanol mae'r wlad wedi mynd pan mae'n dod i wleidyddiaeth. Wrth gwrs nid yw gwefannau cymdeithasol wastad yn ddibynadwy pan mae'n dod i'r newyddion, ac fel arfer yn un ochrog (roeddwn i yn gweld cynnwys gan yr ochr ddemocrataidd o'r wlad, oherwydd na eu barn nhw sydd yn cyd fynd a fy marn i fwyaf) ,er hynny roedd yn addysgol iawn oherwydd ei fod yn dangos y wlad a'r hyn mae'r dinasyddion yn mynd drwyddo heb gael y 'filter' sydd fel arfer yn cael ei roi arno drwy'r newyddion proffesiynol. Felly er fy mod angen cymryd popeth sydd yn cael ei rannu 'with a grain of salt', roedd dal yn ddefnyddiol, diddorol, ac addysgol iawn bod ar tiktok yn ystod cyfnod yr etholiad, a drwy 2020, pan oedd gymaint o ddigwyddiadau hanesyddol yn digwydd yn America, ac ar draws y byd.

4784e22a488bd184ff8352154686e7e7.mp4
5262fa200c0a736eb2b89e43ec1cf428.mp4
995990baf4aa03e9acfe1e1d4298adb8.mp4
cffed7adae1f5f4bb41e0bb1f675d1e2.mp4
451b6757e44cd660155014978631b2a7.mp4
d05d0883e3b05ab90b4cda5e985fe034.mp4
ca90f158a4b4e825ecff6d467d74c2bf.mp4
d25d80fc86298b4bf10ce204de17e1fb.mp4

Casglu syniadau -

Oherwydd bod yr etholiad yn rywbeth sydd gen i ddiddordeb ynddo, roeddwn wedi creu tudalennau yn fy sketchbook personol amdan yr etholiad cyn i'r briff hwn gael ei osod. Pan wnes i glywed be oedd y briff, roeddwn wedi fy ysbrydoli gan y tudelannau hyn i greu prosiect a'r un thema.

Mi wnes i gychwyn meddwl am syniadau drwy edrych ar y materion gwleidyddol sydd yn mynd mlaen yn y wlad ar hyn o bryd, ond hefyd ar rai achosion sydd ddim wir yn wleidyddol, ond sydd yn achosi controversy heb fod angen, er enghraifft, mi wnes i greu y dudalen hon ( tudalen cyntaf yn fy sketchbook coleg) am y 'controversy' a gafodd ei greu ar ol i Harry Styles wisgo ffrog yn ei 'photoshoot' Vogue. Roedd nifer o bobl yn dweud ei fod yn anghywir i ddyn wisgo ffrog oherwydd bod angen i ddynion fod fwy 'masculine', tra bod eraill yn dweud bod dim yn anghywir oherwydd bod gan ddillad ddim 'gender' a bod y dillad yr ydych yn ei wisgo ddim yn cynrhychioli pa mor 'manly' ydi rhywun.

Mi wnes i wedyn symud mlaen i edrych ar faterion sydd fwy uniongyrchol wleidyddol, fel yr arlywydd a'r rhai sy'n gweithio iddo, a'r controversy y mae yn ei greu.

Ar ol gwneud ambell i dudalen yn fy sketchbook, mi wnes i symud mlaen i greu worksheet yn dangos rhai o'r pwyntiau a'r syniadau rydw i eisiau cyfeirio tuag atynt yn y prosiect. Ar ol i mi gychwyn arlunio, mi wnes i benderfynu bod y darluniau dwi wedi eu creu yn fwy addas ar gyfer darn gorffenedig, felly mi wnes i benderfynu creu'r worksheet fel un o fy narnau gorffenedig. Ar y darn rydw i wedi cynnwys gwleidyddion o ddwy ochr y sbectrwm gwleidyddol, a'r pethau controversial sydd yn digwydd o'u hachos, a'r ffordd mae'r wlad yn cael ei newid oherwydd eu dylanwadau. Rydw i wedi cynnwys Ruth Bader Ginsburg, Donald Trump, Rudy Guiliani, Elizabeth Warren a Amy Coney Barrett.

Pan yr oeddwn wrthi yn cwblhau'r darn, cawsom gyfle i wneud printio linocut yn y stiwdio. Mi wnes i benderfynu creu print i fod yn rhan o'r briff hwn, a mi wnes i ganolbwyntio ar Ruth Bader Ginsburg a'r benawd oedd ar glawr papur newydd y Washington Post y diwrnod ar ol ei marwolaeth. Mi wnes i wneud sketch yn fy sketchbook gyntaf, a wedyn mi wnes i gopio'r sketch hwnnw ar y darn o lino a'r garfio. Mi wnes i wedyn arbrofi hefo papurau tissue a lliwiau ink gwahanol i greu cyfres o brintiau.

Dyma gyfres o'r printiau linocut wnes i ei wneud -

Cefais fy ysbrydoli ar ol gwneud y printiau yma i greu darn arall o waith sydd yn egluro holl ddigwyddiadau pwysig mewn gwleidyddiaeth Americanaidd o 2020. Mi wnes i greu collage yn fy sketchbook drwy ddefnyddio lluniau wnes i argraffu oddi ar y we er mwyn edrych nol ar holl ddigwyddiadau'r flwyddyn diwethaf.

Mi wnes i wedyn argraffu rhestr hir o holl ddigwyddiadau mewn gwleidyddiaeth Americanaidd yn 2020 - https://en.wikipedia.org/wiki/2020_in_United_States_politics_and_government a uwcholeuo'r digwyddiadau yr oeddwn i yn cysidro oedd fwyaf pwysig. Es i ymlaen wedyn i greu llinell amser fras yn fy sketchbook er mwyn gallu cynllunio'r darn olaf. Mi wnes i benderfynu ar ol pendroni sut yr oeddwn am neud y llinell amser fy mod i am greu llyfr concertina sydd yn agor allan i ddangos llinell amser hir o'r digwyddiadau mis wrth fis. Roeddwn eisiau creu darn a chyfuniad llwyddianus o ddarluniau lliw a thext er mwyn creu llinell amser eithaf 'straight forward' o'r holl ddigwyddiadau yn America yn 2020, rhywbeth dwi'n meddwl fydd yn ddiddorol iawn i edrych yn ol arno mewn blynyddoedd i ddod.

Y Darn terfynnol

Mi wnes i ddefnyddio cyfuniad o watercolours, fine liners a alcohol markers er mwyn creu'r darluniau ar y llyfr a wnes i ei wneud drwy ludo darnau o papur hefo'u gilydd. Mi wnes i wneud fy holl ymchwil ar y we, a chael yr holl luniau 'reference' oddi ar y we hefyd. Dyma'r llyfr wedi ei gwblhau -

Dyma un o ochrau'r llyfr wedi ei agor allan. Credaf fy mod wedi bod yn llwyddianus yn y darn hwn oherwydd rydw i yn meddwl ei fod yn cyflawni ei bwrpas o gyfleu yr holl sydd wedi digwydd mewn blwyddyn hanesyddol ofnadwy, yn y wlad mwyaf pwerus yn y byd.

Un rhan bach ychwanegol - Ychydig o ddiwrnodau ar ol i mi orffen y llyfr bu i ddigwyddiad hanesyddol a brawychys ddigwydd yn America, felly roeddwn yn meddwl ei fo yn gynnwys yn y briff rhiw ffordd yn bwysig. Rydw i wedi creu tudalen ddwbl yn fy sketchbook er mwyn cynrhychioli'r helynt a gafodd ei greu o'r ymosodiad gan derfysgwyr domestig ar adeilad y capitol a gafodd ei annog gan yr arlywydd Trump, ble wnaeth 4 o bobl farw, a sydd bellach wedi achosi i Trump gael ei 'impeacho' am yr ail dro, y tro cyntaf i hynny ddigwydd i unrhyw arlywydd yn hanes America.