Exhibition

Ar gyfer prosiect yr arddangosfa, mi fydda i yn cario mlaen i weithio ar y prosiect wnes i weithio arno ar gyfer y modiwl extending practice.

Ar gyfer yr arddangosfa, rydw i angen meddwl am ffordd i arddangos fy ngwaith mewn ffordd effeithiol a chreadigol.

Ar gyfer y prosiect, rydw i'n gwneud ymchwil mewn i 'book binding'. Yn ystod fy amser yn y coleg ar gyrsiau eraill, dwi wedi cael cyfleoedd i wneud llyfrau gyda llaw, ac yn ddigidol, felly dwi wedi dysgu rhai technegau, yn cynnwys gwneud llyfrau concertina ayyb, ond dydw i erioed wedi dysgu i 'bindio' llyfr mewn ffordd traddodiadol. Oherwydd fy mod wedi defnyddio papur eitha bregus ar gyfer fy mhrosiect, doeddwni ddim yn siwr be oedd y ffordd gorau i wneud hyn, ac os oedd yn bosib o gwbwl heb i mi ddinistrio'r gwaith ar y papurau. 

Rydw i am wneud samplau yn defnyddio 'run math o bapur dwi am ei ddefnyddio yn y llyfr, fel fy mod i'n medru gwybod be ydi'r ffordd orau o wneud y llyfr. Rydw i wedi bod yn sbio ar videos ar y we o bobl yn gwneud llyfrau yn defnyddio'r techneg 'perfect bound' neu 'lumbeck binding'. Hwn yw'r dechneg dwi'n meddwl fydd orau er mwyn y llyfr dwi am ei wneud oherwydd bregusrwydd y tudalennau. Dwi wedi prynu kit bookbinding a glud er mwyn gwneud y samplau, a dwi wedi siarad hefo Gwyn yn y gweithdy er mwyn trefnu fy mod yn medru gweithio ar y llyfrau hefo'r clampiau a phren sydd yn y gweithdy yn barod.

Animeiddiad - Yn ystod y gwyliau pasg, mi wnes i weithio ar animeiddiad. Oherwydd fy mod ddim yn siwr lle i fynd nesa yn y prosiect, roeddwn yn meddwl fysa'n gwneud budd i mi wneud rhywbeth gwahanol, a fysa hefyd yn cynnig rhywbeth newydd y fuaswn i'n medru ei gynnwys yn yr arddangosfa mewn rhiw ffordd.

YouCut_20230403_192917194.mp4

Ysbrydoliaeth - Whitworth Gallery, Manceinion

Yn ystod y gwyliau pasg, es i a fy ffrindiau ar drip i Manceinion i ymweld a'r Whitworth gallery.

Roedd y Whitworth yn werth ymweld a fo i fi oherwydd roeddwn yn gweld lot o fi fy hun a fy steil yn y gwaith a oedd ar ddangos yna. Mae na lot o ddelweddau o bobl a roeddwn i'n teimlo bod na lot o bwyslais ar arlunio yna, yn hytrach na'r pwyslais sydd ar beintio fel arfer.

Mi wnes i gymryd diddordeb yn y gwaith yma gan artist Lebanese Mounira Al Solh. Oherwydd fy mod i wedi bod yn defnyddio papur cyffredin, sef papur 'flipchart' felly wnaeth y defnydd gan yr artist yma o bapur melyn 'legal pad' dynu fy sylw. Ar ol gweld y gwaith, mi wnes i wneud ymchwil mewn i'r artist a'i defnydd hi o'r math yma o'r papur, a beth yw'r pwrpas tu ol i'r gwaith y mae hi'n ei wneud ar y papur hwnw. 

"Many of the portraits are drawn on yellow legal paper, which serve as material indexes of the painstaking bureaucratic processes through which immigrants must go in order to obtain citizenship." 

Llun wnes i dynu yn y Whitworth

Paper - GF Smith.

When thinking about binding the books together, I am considering the cover, and how I want to approach that. I decided to order a sample of papers from GF Smith so I could see the different textures, weights and colours they had on offer, so that I could consider them to use for the cover of the book. I selected a range of colours and weights so that they could be compared and considered.

Arddangos gwaith arlunio

Isod, mae esiamplau oddi ar y we o syniadau ar sut i arddangos gwaith arlunio ar bapur. Mae defnyddio papur, yn enwedig math tennau 'flimsy' o bapur yn golygu bod angen meddwl yn ychwanegol am y ffordd y mae yn cael ei ddangos, yn hytrach na'r ffyrdd traddodiadol y mae peintiadau yn cael eu fframio neu cerfluniau yn cael eu rhoi ar plinths.

This unfinished drawing by Rembrandt, named 'Old man shading his eyes with his hand' (1639) is on display at the Whitworth gallery. Again, I could see myself and my work in this drawing, as the pages that i have been working on are often unfinished and not completely filled. I have always put pressure on myself to fill pages to the brim and make them look 'perfect', not realising that they don't always need to be that way, and that sometimes they remain more interesting while staying unfinished.

Yn ystod y prosiect, mi wnes i ffendio fy hun yn gweld fy syniadau ac angerdd tuag at y prosiect yn mynd yn fflat ac yn 'stale' mewn ffordd. Y prif beth i mi oedd fy mod dal yn meddwl am y syniad o wneud llyfr, a roedd hynny yn fy nal i yn ol rhag meddwl am ffyrdd eraill i arddangos fy ngwaith. Roeddwn i dal yn trio gwneud fy ngwaith, ond roeddwn i'n gweld fy hun yn teimlo'n 'stuck'. Ar ol i mi ddod yn ol i'r coleg ar ol y gwyliau, roedd siarad hefo fy nhiwtoriaid a chyd fyfyrwyr yn help i mi allu dod allan o'r teimlad 'stuck' yma. Mi wnes i wneud cyflwyniad ac drwy wneud yr ymchwil a drwy drafod pethau ar gyfer y cyflwyniad, mi wnes i gal mwy o 'clarity' pan ma'n dod i ble i fynd nesa. Mi wnes i hefyd geisio ail gysylltu gyda'r pwynt cychwynol o'r prosiect drwy wrando ar yr albwms sydd wedi bod yn bwysig i'r prosiect yn cynnwys y rhai isod. Mae gan yr albwms yma i gyd deimladau o nostalgia hefo fy ngorffenol wedi eu cysylltu a nhw. Mae'r 'montages' coming of age yn fy meddwl yn digwydd i'r caneuon yma. 

Mi wnaeth yr ysbrydoliaethau yma, yn cynnwys y trip i'r Whitworth Gallery yn Manceinion, i gyd fy helpu i fynd nol ar be dwi'n meddwl ydi'r trywydd cywir ar gyfer y prosiect hwn, a fy helpu i i gyrraedd y lle meddyliol i wneud popeth yn barod mewn amser ar gyfer yr arddangosfa.

exhibition proposal
presentation notes

Ar ol gwneud y cyflwyniad a gwneud mwy o drafod a ymchwilio, mi wnes i ddod i'r 'conclusion' efallai nad gwneud y gwaith mewn i lyfr oedd y diwedd gorau i'r prosiect ac yr arddangosfa yn y diwedd. Mae'r tudalennau fel pethau yn eu hunain wedi bod yn rhan mor bwysig o'r prosiect. Mae nhw fel momentau bach sydd yn mynd a dod yn y cof a ddim yn sownd mewn trefn penodol sydd a cychwyn a diwedd. Ar ol i mi weld gwaith Mounira Al Solh yn galeri y Whitworth, roeddwn wedi fy ysbrydoli i wneud rhywbeth gwahanol hefo'r gwaith, a wir cofleidio yr elfen o arlunio sydd yn bresennol yn y gwaith. Dwi eisiau i bobl fedru mynd fyny at y gwaith yn yr arddangosfa a gweld y llinellau 'up close'. Dwi'n meddwl fydd arddangos y gwaith mewn ffordd gwahanol yn gwneud y gwaith mwy 'accessible' i'r ymwelwyr i'r arddangosfa, oherwydd fydd y gwaith i'w weld ar scale mwy mewn ffordd oherwydd ei fod wedi 'spreadio' allan.

Ar ol i ni wneud ein cyflwyniadau, mi wnaethom ni fynd i'r studio rydym ni yn mynd i arddangos ein gwaith ynddo, a dewis pa lefydd yn y studio/ safle arddangosfa fydd yn ein siwtio ni a'n prosiectau fwyaf. Ar ol gwneud hyn, mi wnes i fodel o sut fuasai'r gwaith yn medru edrych. Mi wnes i wneud y model gyda chardyn, glud a phaent. Dydi'r model ddim yn 'accurate' o ran ratio mesuriadau ond mae jyst yn help i mi allu 'envision' sut fuasai pethau yn medru edrych yn fras, a gallu newid pethau rownd dibynu beth sydd yn siwtio. Cefais olwg ar esiamplau are lein o 'maquettes' arddangosfa, e.e. yr un isod o'r San Fransisco Museum of modern art.

Er bod yr esiampl uchod yn dangos model llwyddianus o arddangosfa, rydw i mond angen canolbwyntio ar fy wal i o'r arddangosfa, oherwydd ein bod ni gyd yn rhannu'r ystafell ac yn canolbwyntio ar rannau ein hunain o'r stafell. 

Dewis a dethol

Ar gyfer yr arddangosfa, rydw i angen dewis y darnau cryfa o fy mhrosiect i gael eu harddangos. Oherwydd fy mod wedi creu nifer fawr o dudalennau dros y misoedd, ma'n bosib i mi rwan fedru dethol y darnau mwyaf addas.

Syniadau ac ysbrydoliaeth pellach.

Dwi'n hoff o'r defnydd hwn o glipiau bulldog, ar trefniad llinol o'r gwaith,

Mae'r papur yn y llun yma yn fy atgoffa o'r papur dwi yn ei ddefnyddio a wedi ei arddangos mewn ffordd diddorol, ond dydw i ddim yn siwr os fuasai'r steil yma o 'layering' yn gweithio i'r cynnwys yn fy ngwaith i, mi fuasai na ormod o'r gwaith yn cael ei golli.

Yn yr wythnosau olaf o'r modiwl, dwi wedi bod yn archwilio ffyrdd gwahanol eraill o arddangos y gwaith. Ar ol i mi gael pris ar gyfer perspex o'r cwmni arwyddion, mi wnes i ail gysidro pa ffordd i ddangos y gwaith fuasai mwy addas i be allai fforddio, ond hefyd mi wnaeth wneud i mi ail gysidro os na defnyddio'r ffordd yna o arddangos y gwaith ydi'r ffordd gorau yn y diwedd. Mi wnes i fynd ar pinterest i geisio casglu ysbrydoliaeth pellach i ddod o hyd i ffordd a syniadau fuasai yn fwy addas i fy ngwaith i a be dwi'n ceisio ei gyfleu. Dwi wedi bod eisiau creu pwyslais yn yr arddangosfa ar yr elfen o arlunio, ac eisiau i'r rhai sydd yn dod i'r arddangosfa fedru gweld y llinellau a'r texture ar y papur, ond os fuaswn i'n penderfynu defnyddio perspex ar ben y gwaith, mi fuasai na llai o bosibilrwydd i wneud hynny oherwydd y gorchudd. Yn ystod yr amser wnes i wario yn ymchwilio'r syniadau gwahanol ar pinterest ac ar y we fel arall, mi wnes i sylwi efallai na opsiwn gwell i mi fuasai defnyddio ffordd mwy syml o ddangos y gwaith, a ffordd sydd yn 'lend itself' yn well i gynnwys y tudalennau a'r fformat 'journalistic' y maent wedi eu creu ynddynt. Mi wnes i fynd i the range i brynu paced o 'bulldog clips', wedi ei ysbrydoli  gan rai o'r lluniau wnes i eu casglu, a gweld sut fuasai hyn yn medru edrych.

Mi wnes i drio ffyrdd gwahanol o arddangos y gwaith ar y wal. Roedd na rhai problemau efo'r ffordd yr oeddwn yn eu dangos, fel y defnydd o 'bulldog clips' yn achosi gormod o gysgod ar draws y papur, sydd yn tynu sylw oddi ar y cynnwys o'r gwaith ei hun.  Roeddwn i hefyd yn cysidro ychwanegu plinths i'r arddangosiad, er mwyn gallu cynnwys mwy o waith a phethau eraill sydd yn gysylltiedig i'r themau yn y gwaith, ond ar ol meddwl a chysidro ymhellach, doeddwni ddim yn siwr os fuasai hynny yn ychwanegu ar y gwaith, ta yn tynu oddi arno ac yn gwneud pethau fwy 'confusing'. 

Ar y wal wnes i ddewis hefyd, mae'r golau yn wanach na'r rhannau eraill o'r ystafell arddangosfa, oherwydd mae'r golau yn sownd i'r wal ac yn fwy 'concentrated' mewn un lle, tra ar y waliau eraill ma'r golau yn dod allan o'r wal ac wedi ei wasgaru mwy hafal ar draws y wal. Dydw i ddim eisiau i'r gwaith edrych yn dywyll ar y wal, felly mae hyn yn fy mhoeni i wrth geisio meddwl am ffyrdd i drefnu'r gwaith a sut mae nhw'n edrych. Dwi wedi archebu magneti a chlipiau mwy tenau er mwyn ceisio trio rheini ar y papurau i weld pa rhei sydd yn gweithio  orau hefo'r goleuadau ac yn arddangos y gwaith ar ei orau. Dwi hefyd eisiau gwneud yn siwr bod yr arddangosiad yn ansawdd galeri ac yn edrych yn broffesiynol, oherwydd fy mod yn rhoi gwaith eithaf syml ar y wal mewn ffyrdd eithaf syml, dwi dal eisiau gwneud yn siwr bod y gwaith yr ansawdd gorau posib.

Er fy mod i wedi prynu golau i roi fyny ar y wal uwchben y gwaith, doedd o ddim yn siwtio a roedd y wal dal rhy dywyll. Oedd y tywyllwch yn gwneud cysgodion ar hyd y gwaith, ond hefyd yn gwneud y gwaith ar waelod y wal lot rhy annodd i'w weld. Doeddwn i methu gweithio allan o gwbwl sut i sortio'r broblem oherwydd yr unig beth yr oeddwn i wir eisiau/angen ei wneud oedd dod a'r goleuadau sydd ar y wal yn barod a'u tynnu nhw allan fel eu bod fel y goleuadau sydd yng ngweddill yr ystafell uwchben waliau pawb arall, ond yn ol staff y coleg doedd hynny ddim yn bosib.