Here I have made a mind map contextualizing myself as an artist and person.
Below are the pages in my journal I have done about Joseph Beuys and Olafur Eliasson that I have done with a combination of pictures from the internet and my own illustrations depicting their work.
Wrth edrych ar artistiaid yn y wers astudiaethau cyd destynol, Mi wnes i ddewis yr artistiaid Joseph Beuys a Olafur Eliasson i wneud ymchwil amdanynt. Mi wnaeth hanes Joseph Beuys ddenu fy sylw oherwydd ei gymeriad mawr a'r storiau sydd yn cyd fynd a'i waith a'i 'image' fel artist. Roedd yn enwog am ei waith celf perfformio, a cerfluniau. Nid oes genai fel artist lawer o ddiddordeb yn yr ardaloedd hyn o gelf oherwydd na fy mhrif ddiddordebau yw darlunio a pheintio, ond roeddwn dal yn meddwl bod gwerth i edrych arno oherwydd ei le mewn hanes fel artist. Roedd yn cael ei gysylltu a'r symudiad celf, 'fluaus' a 'conceptual art'. Roedd Beuys yn defnyddio cyfuniad o bynciau personol a gwleidyddol a mwy, er mwyn cyfleu bod y pynciau rhain i gyd yn gallu cyd weithio gyda'u gilydd. Mewn un o'i ddarnau enwocaf o 1974 - I like America and America likes me, bu iddo
Dyma'r tudalennau yn fy sketchbook wnes i eu creu am David Carson a'i waith. Mae gwaith Carson yn hynod o adnabyddus yn y byd graffeg. Wrth weithio ar gyfer cylchgronnau gwahanol yn ystod y dyddiau cynnar o'i yrfa, bu iddo ddatblygu steil ei hun a chymryd mantais o'r ffaith bod dim fformat ir gwaith a oedd angen cael ei gyflwyno. Mae ei wedi ei ysbrydoli yn aml gan y diwylliant syrffio sydd yn rhan mawr o'i fywyd a'i ieuenctid.
Mae Neville Brody yn ddylunydd graffeg enwog o Lundain. Wrth iddo gychwyn ddatblygu ei waith, bu iddo gael ei ddylanwadu gan gerddoriaeth 'punk' a'r cerddoriaeth a oedd yn cael ei greu a'i berfformio gan y myfyrwyr yn ei goleg yn Llundain. Bu iddo gychwyn dylunio posteri ar gyfer cyngherddau myfyrwyr, ac aeth ymlaen wedyn i ddylunio nifer o gloriau albwms ar gyfer cerddorwyr. Bu iddo sefydlu'r cwmni, 'Research studios', sydd yn arbenigo mewn teipograffeg, a gwaith creadigol eraill, mae'r cwmni bellach wedi ei ail enwi yn 'Brody associates'. Roeddwn eisiau creu ymchwil mewn i'r artist hwn oherwydd credaf bod ei steil o deipograffeg a lliwiau cryf yn rywbeth sydd yn berthnasol i fy ngwaith. Mae Brody yn un o'r dylunwyr graffeg a gafodd ddylanwad mwyaf ar y maes dylunio graffeg modern.
Mae Peter Saville yn un o ddylunwyr graffeg enwocaf Prydain. Mae'n cael ei adnabod am ei waith dylunio sydd yn cael ei ddefnyddio yn y byd cerddoriaeth, ffasiwn a chelf. Drwy ei yrfa, mae Saville wedi gweithio yn agos a chwmni Factory records, er mwyn creu cloriau a dyluniadau 'campaigns' ar gyfer albwms a senglau'r artistiaid sydd yn rhan o'r label. Mae ei waith enwocaf yn cynnwys clawr 'unknown pleasures' gan Joy Division. Hwyrach ymlaen yn ei yrfa, mae Saville wedi canolbwyntio ar ddatblygu ei waith o fewn modernism, er mwyn 'push the boundaries' o fewn y negeseuon sy'n gallu cael ei gyfleu mewn dylunio graffeg.
Roedd Oscar Schlemmer yn beintiwr, cerfluniwr, 'choreographer' a dylunydd a gychwynodd ei siwrne a'r Bauhaus yn 1920 pan gafodd ei wahodd gan Walter Gropius i gychwyn dysgu yn yr ysgol. Roedd yn chwarae rhan mewn nifer o adrannau yn yr ysgol, ond mae ei waith enwocaf yn dod o'i ran fel athro yn yr adran theatr. Roedd Schlemmer yn defnyddio siapiau abstract a geometrig er mwyn creu math newydd o wisg ar gyfer theatr, rhywbeth a oedd yn gallu dweud stori drwy'r wisg ei hun, wedi ei gyfuno a'r dawnsio a cherddoriaeth. Mae ei waith mewn theatr a dawns yn rywbeth sydd wedi cael dylanwad mawr dros ei waith peintio a darlunio, gyda ei ddarnau yn cynnwys siapiau a ffigyrau theatrical, yn ogystal a dyluniadau wedi eu dylunio o'r gwisgoedd.
Drwy gydol ei yrfa fel artist ac athro, bu i Lissitzky ddefnyddio ei ddylanwad er mwyn creu newid gwleidyddol a chymdeithasol. Yn ei ieuenctid, bu iddo ddefnyddio ei sgiliau celf er mwyn hyrwyddo diwylliant Idewaidd drwy lyfrau plant, ac aeth ymlaen wedyn i greu darnau sydd bellach yn eiconig yn gysylltiedig i'r Chwyldro Rwsiaidd. Bu iddo chwarae rhan mawr yn datblygiad y symudiad celf Constructivism, a oedd yn rhoi pwyslais ar ddefnydd 'practical' o gelf mewn cymdeithas, a bod angen 'adeiladu' celf.
Mae Quentin Blake yn ddarluniwr enwog o Lundain sydd yn cael ei adnabod orau am ei bartneriaeth a Roald Dahl i ddarlunio ei lyfrau. Mae wedi bod yn gweithio fel darluniwr ers yn 16 oed, pan gafodd ei gelf ei roi mewn cylchgrawn am y tro cyntaf. Ar ol mynd ymlaen i goleg Celf yn Llundain, mae wedi bod yn gweithio fel darluniwr ers hynny. Mae wedi cyd weithio a artistiaid eraill, tra hefyd yn creu llyfrau ei hun, yn ogystal a chreu murluniau ar gyfer ysbytai.
Mae Raymond Briggs yn ddarluniwr Prydeinig sydd yn cael ei adnabod orau am ei lyfr 'The snowman' a gafodd ei wneud yn ffilm yn 1982. Bu iddo astudio yn Lundain, yn gobeithio bod yn gartwnydd yn y dyfodol, rhywbeth a oedd yn cael ei gysidro ddim wir yn gelf yn ystod y cyfnod. Ond bu iddo barhau, yn darganfod llwyddiant mewn 'illustration', wrth gychwyn mewn papurau newydd a chylchgronnau, a wedyn mynd mlaen i greu llyfrau plant ei hun.