Gair gan y Pennaeth ...... A word from the Headteacher....
Gair gan y Pennaeth ...... A word from the Headteacher....
Mae Ysgol Llanybydder yn ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref gwledig Llanybydder. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion 4 - 11 mlwydd oed. Mae’r ysgol yn cynnig ystod o brofiadau addysgol cyfoethog ac amrywiol ac yn paratoi’r disgyblion i fod yn ddinasyddion dwyieithog cyfrifol sy’n parchu ei gilydd, eu cyd-ddyn, eu treftadaeth a’u hamgylchfyd.
Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei henw da am ei gofal cyson am les pob plentyn unigol, o ran lles a darpariaeth addysgol. Rydym hefyd yn balch iawn o’n disgyblion ac mae ymwelwyr yn aml yn nodi ba mor dda y maent yn ymddwyn a pha mor gwrtais ydynt. Mae'r cyfleoedd dysgu estynedig a gynigir yn Ysgol Llanybydder yn rhagorol ac mae'r gweithgareddau niferus a gynigir i'r disgyblion yn sicrhau eu bod yn dod yn ddysgwyr gydol oes effeithiol.
Mae’r wefan hon wedi’i pharatoi er mwyn hysbysu rhieni, darpar rieni a chynulleidfa ehangach am yr ysgol a’r hyn yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer ein disgyblion. Estynnir croeso cynnes i chi rhieni i ymuno yn holl weithgareddau’r ysgol, ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth hapus, llwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn.
Ysgol Llanybydder is a Welsh primary school in the rural village of Llanybydder. The school provides education for pupils between 4-11 years of age. The school offers a range of rich and varied educational experiences and prepares the pupils to be responsible bilingual citizens who respect each other, their heritage and their environment.
We are very proud of the pupils at Ysgol Llanybydder. Every year we have many visitors to the school and frequently they make comments about how well our pupils behave and how courteous they are. The school is proud of its reputation for its consistent care for well-being of every individual child, both in terms of welfare and educational provision. The extended learning opportunities offered at Ysgol Llanybydder are excellent and the many activities offered to the pupils ensure that they become effective lifelong learners.
This website has been prepared to inform parents, prospective parents and a wider audience about the school and what we provide for our pupils. A warm welcome is extended to you as parents to join in all the school's activities, and we look forward to a happy, successful and fruitful partnership during your child's primary education.
Cofion cynnes,
Mr Gareth Rhys Jones
(Pennaeth/Headteacher)
Ein Gweledigaeth, Nodau ac Amcanion
Our Vision, Aims and Objectives
Ein Gweledigaeth, Nodau ac amcanion
Ein nod yw darparu cymuned gefnogol o fewn amgylchedd hapus, lle mae dysgwyr yn cael eu hysgogi a'u herio i gyflawni eu potensial. Credwn y bydd ein pwyslais ar ansawdd a safonau uchel, mewn gwaith ac ymddygiad, yn hybu agwedd gadarnhaol at fywyd a sylfaen gadarn i seilio eu haddysg yn y dyfodol arni.
Yn ein hysgol credwn y dylem. . .
Gweithio'n galed, aneli yn uchel, rhannu a gofalu
Mwynhau dysgu a deall bod dysgu yn bwysig ac yn hwyl.
Credu yn ein hunain ac ymestyn am y sêr.
Dathlu ein llwyddiant.
Parchu ein hunain ac eraill.
Dangos ymddygiad rhagorol a bod yn berson i'w edmygu.
Yn ein hysgol bydd y staff yn . . .
Anelu at ddatblygu pobl ifanc annibynnol a dibynadwy.
Ymdrechu i ddatblygu eu potensial yn llawn yn academaidd, yn bersonol ac yn gymdeithasol trwy ddarparu addysgu a dysgu o safon.
Ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu rhagorol a chael y disgwyliadau uchaf.
Cydnabod bod partneriaeth gadarnhaol rhwng rhieni, gofalwyr a staff yn elfen allweddol o godi safonau.
Our Vision, Aims & Objectives
We aim to provide a supportive community within a happy environment, where learners are motivated and challenged to achieve their potential. We believe that our emphasis on quality and high standards, in both work and behaviour, will provide our children with a positive attitude for life and a firm foundation on which to base their future learning.
In our school we believe we should. . .
Work hard, aim high, share and care.
Cherish learning. Understand that all learning is important and fun.
Believe in ourselves and reach for the stars.
Celebrate our success.
Respect ourselves and others.
Show excellent behaviour and good manners and be a person to be admired.
In our school our staff will . . .
Aim to produce independent and reliable young people.
Strive to fully develop their potential academically, personally and socially by providing quality teaching and learning.
Provide excellent teaching and learning opportunities and have the highest expectations.
Recognise that a positive partnership between parents, carers and staff is a key element in raising standards.