Dyma fideo sydd yn sôn am siwrnai pedwar o staff addysg sydd wedi dysgu'r Gymraeg ac sydd yn parhau ar y siwrnai.
Llongyfarchiadau mawr i'r pedwar, maent wir yn ysbrydoliaeth.
This is a video that talks about the journeys of four staff who have learned the Welsh language and are still on their journeys.
Massive congratulations to all four, they really are an inspiration.
Diolch o galon i Katie, Louise, Stephen a Tom am fod mor barod i gyfrannu ac i'r penaethiaid am eu rhyddhau i recordio.
Tîm Cefnogi’r Gymraeg Ceredigion yn lansio podlediad newydd arloesol
Mae Tîm Cefnogi’r Gymraeg Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad cyfres o bodlediadau newydd, “Pod yr Ysgol,” sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer y gweithlu addysg.
Daw’r fenter hon mewn ymateb i adborth gan staff y sector addysg uwchradd a oedd yn ei chael yn anodd mynychu gwersi dysgu Cymraeg ffurfiol wrth weithio. Er bod apiau dysgu iaith yn fuddiol, mynegodd llawer o aelodau staff y byddai'n well ganddynt wrando ar bodlediadau wrth gymudo.
Mae Pod yr Ysgol ar hyn o bryd yn cynnwys chwe phennod ddifyr, pob un yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o ddiwrnod ysgol ac amserlen, megis cyrraedd a gadael yr ysgol, ac amser cinio. Mae'r podlediadau hyn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am ddysgu geirfa a phatrymau syml sy'n gysylltiedig â bywyd ysgol.
Bydd y podlediadau ar gael ar bob prif lwyfan digidol, gan gynnwys Apple Podcasts a Spotify, gan ddechrau o fis Medi ymlaen.
Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth Arfor a Llwyddo’n Lleol.
I wrando ar Pod Yr Ysgol, ewch i: https://pt-br.spreaker.com/podcast/pod-yr-ysgol--6245100
Ceredigion’s Welsh Language Support Team launches innovative new podcast
Ceredigion County Council Education Department’s Welsh Language Support Team is proud to announce the launch of a new podcast series, “Pod Yr Ysgol,” designed specifically for the education workforce.
This initiative comes in response to feedback from secondary education sector staff who found it challenging to attend formal Welsh learning lessons while working. Although language learning apps are beneficial, many staff members expressed a preference for listening to podcasts during their commute.
Pod Yr Ysgol currently features six engaging episodes, each focusing on different aspects of a school day and timetable, such as arriving and leaving school, and lunchtime. These podcasts are perfect for those looking to learn vocabulary and simple patterns related to school life.
The podcasts will be available on all major digital platforms, including Apple Podcasts and Spotify, starting from September onwards.
This project has been made possible with the support of Arfor and Llwyddo’n Lleol.
To listen to Pod Yr Ysgol, visit: https://pt-br.spreaker.com/podcast/pod-yr-ysgol--6245100
Rhifau
Croeso i'r Ysgol
Ble rwyt ti'n byw?
Pa ddiwrnod yw hi?
Y Tywydd
Sut fydd y tywydd yfory?
Misoedd
Pryd mae dy benblwydd di?
Bwyd - Ffrwythau
Beth sydd ar y goeden Nadolig?
Beth wyt ti eisiau i frecwast?
Arian - Ceiniog
Beth sy'n bod?
Disgrifio rhannau'r corff
Anifeiliaid Anwes
Disgrifio Anifeiliaid Anwes
Aelodau o'r Teulu
Enwi Siapiau 2D
Faint o'r gloch ydy hi?
Faint o'r gloch wyt ti'n...?
Cartrefi
Pa ystafell ydy hon?
Yn yr ardd
Ble mae'r ... yn yr ardd?
Yn y Dref
Yn y Wlad
Pa anifeiliaid wyt ti wedi eu gweld?
Amser Hamdden
Ble wyt ti'n..?
Gyda phwy wyt ti'n..?
Pryd wyt ti'n..?
Es i....
Es i gyda...
Gwelais i... (Yn y Parc)
Gwelais i... (Ar lan y môr)
Sut oedd y tywydd ar lan y môr?
Sut amser gest ti ar lan y môr?
Aethon ni...
Bues i...
Fues i ddim...
Mae Tîm Cefnogi’r Gymraeg Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi lansiad cyfres o bodlediadau newydd, Cymraeg Bob Dydd / Welsh Everyday, sydd wedi’u creu ar gyfer dechrau a chefnogi unigolion ar y siwrne o ddysgu Cymraeg
Os ydych eisiau dechrau siarad Cymraeg gyda’ch plant a’ch teulu, gyda rhieni a staff yr ysgol ac yn y gymuned, yna dyma’r podlediad i chi.
Mae Cymraeg Bob Dydd ar hyn o bryd yn cynnwys wyth pennod ddifyr, pob un yn canolbwyntio ar batrwm ieithyddol, mae’n dechrau yn y dechrau ac mae rhifyn 1 yn dysgu Cyfarchion. megis Bore da, Nos da. Mae'r podlediadau hyn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am ddysgu geirfa a phatrymau syml. Mi fydd penodau newydd ar gael yn gyson, mae yn fwriad i gael tua 50 o bodlediadau Cymraeg Bob Dydd!
Mae’r podlediadau ar gael ar bob prif lwyfan digidol.
Does dim angen darllen nac ysgrifennu, dim ond gwrando ac ailadrodd. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cefnogaeth Arfor a Siarter Iaith Ceredigion.
I wrando ar y podlediad Cymraeg Bob Dydd, ewch i: Cymraeg Bob Dydd | Podcast on Spotify, Cymraeg Bob Dydd Podcast Series – Apple Podcasts, Podlediad Cymraeg Bob Dydd (ypod.cymru)
*Er mwyn cefnogi ac annog aelodau di Gymraeg cymuned eich hysgol, gofynnir yn garedig i bob ysgol rhannu’r ddolen i’r podlediadau yma ar wefan yr ysgol.
Hefyd ,beth am osod dolen i 1 podlediad yr wythnos yg nghylchlythyr yr ysgol neu ar gyfryngau cymdeithasol yr ysgol?