Bwriad polisi Iaith Cyngor Sir Ceredigion yw darparu disgyblion gyda’r sgiliau ieithyddol angenrheidol sydd ei angen arnynt er mwyn gallu cyfrannu’n llawn i gymdeithas ddwy-ieithog.
Mae mwyafrif o ysgolion y sir yn trochi disgyblion yn llwyr yn yr iaith Gymraeg hyd nes ei bod yn 7 mlwydd oed. Dysgir Saesneg fel pwnc yn CA2. Mae’r dull yma yn profi’n un llwyddiannus, nad sy’n amharu ar allu’r disgyblion i ddarllen ac ysgrifennu yn y Saesneg yn y tymor hir.
Gall plant sy’n symud i’r ardal, sydd â dim dealltwriaeth o’r iaith dderbyn cymorth yn un o dair Canolfannau Iaith y sir, sy’n ei cefnogi i addasu ac ymdopi gyda’r system addysg ddwy-ieithog.
Mae symud i ardal newydd yn medru bod yn brofiad anodd i blentyn. Nid yn unig mae’n rhaid iddynt ddelio â gwneud ffrindiau newydd, ond yma yng Ngheredigion cyflwynir iaith newydd iddynt hefyd. I’w cynorthwyo mae’r Awdurdod Addysg yn darparu Canolfan Iaith ar gyfer plant sydd newydd symud i’r ardal. Ceir tystiolaeth bod y canolfannau iaith yn rhoi cyfle i blant ymdopi’n llawer mwy effeithiol yn eu hysgol a’u cymuned leol. Yr hyn ddaw i’r amlwg yw bod rhannu profiadau ieithyddol mewn awyrgylch gartrefol ond adeiladol yn sicrhau datblygiad pellach.
Mae tair Canolfan yng Ngheredigion. Lleolir un Canolfan ar gampws Ysgol Gynradd Aberteifi, un arall ar Gampws Felinfach a’r trydydd ar Gampws Ysgol Uwchradd Penweddig. Mae disgyblion yn cael eu haddysgu gan athrawon iaith profiadol drwy gydol y dydd. Mae’r cwrs yn rhedeg bedwar diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Iau. Mae tystiolaeth yn dangos bod trochi yn yr iaith am gyfnod estynedig yn arwain at well canlyniadau.