Mae Sgleinio'r Sgiliau yn targedu gramadeg a chywirdeb iaith disgyblion CA2, ond byddai modd ei ddefnyddio gyda disgyblion DS neu CA3 hefyd. Mae 12 Uned yn targedu gwahanol elfennau o ramadeg a chywirdeb iaith. Yn yr unedau, mae dau ddosbarth rhithiol - y cyntaf yn cynnwys pwerbwynt sy'n cyflwyno'r rheolau a gwahanol weithgareddau rhyngweithiol. Mae'r ail ddosbarth rhithiol yn cynnwys gweithgareddau ychwanegol.
Dewch i roi sglein ar sgiliau ieithyddol eich disgyblion gyda'r unedau yma!