Yn ôl y Cwricwlwm i Gymru, mae’n hanfodol cynnig cyfleoedd i ddysgwyr feithrin sgiliau darllen er mwyn rhyngweithio’n effeithiol fel dinasyddion galluog, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Ceir pwyslais hefyd ar ddefnyddio llenyddiaeth i ehangu gorwelion, i danio’r dychymyg a chreadigrwydd a meithrin cariad gydol oes tuag at lenyddiaeth. Yn ei dro, gall hyn gyfrannu at les emosiynol a meddyliol dysgwyr, eu gallu i ddangos empathi, a’u pleser a’u mwynhad o ddarllen.
Yn yr adran hon ceir dolen at wefan holl-gynhwysfawr Datgloi Darllen sy’n cynnig un man canolog, hwylus i addysgwyr ac ymarferwyr ei ddefnyddio er mwyn cyrchu gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer datblygu sgiliau darllen disgyblion o bob oed yn ogystal â’u mwynhad o bob math o destunau.
Er hwylustod, ceir mynediad ar wahân hefyd at rai o’r adnoddau a gyflwynir yng ngwefan Datgloi Darllen, megis Cofnodion Darllen wedi eu teilwra’n bwrpasol, adnoddau’r Daith Ddarllen, ac ystod o adnoddau defnyddiol eraill.
Pwrpas gwefan Datgloi Darllen yw cynnig un man canolog, hwylus i addysgwyr ei ddefnyddio er mwyn cyrchu gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer datblygu sgiliau darllen disgyblion o bob oed a’u mwynhad o bob math o destunau.
Mae’r wybodaeth a/neu’r adnoddau wedi eu cynnwys o dan yr un ar ddeg is-adran canlynol:
Ffrwyth cydweithio arbennig rhwng holl ddisgyblion Blwyddyn 2 ysgolion cynradd Ceredigion a disgyblion tair canolfan iaith y sir yw Bant â Ni gyda Seren a Sbarc. Cafodd y saith stori gadwyn eu hysgrifennu ar y cyd a’u trosglwyddo’n ddigidol rhwng y gwahanol glystyrau o ysgolion a’r dair canolfan iaith, a phrif nod y prosiect oedd rhoi cyfle i’r disgyblion
gydweithio er mwyn datblygu eu sgiliau ieithyddol, cymhwysedd digidol a rhyngweithio tra’n dyfnhau eu hadnabyddiaeth o’u cynefin a’u hardal leol, a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae pob stori yn dilyn ei thrywydd unigryw ei hun, ac yn brawf o
ddychymyg a chreadigrwydd y disgyblion ifanc, wrth i Seren a Sbarc
ymweld â mannau o bwys yng Ngheredigion, dysgu stôr o wybodaeth
ddiddorol a chwrdd â sawl cymeriad hanesyddol, chwedlonol a dychmygol lliwgar dros ben. Mae ynddynt gyfoeth o gymariaethau, idiomau a thafodiaith, ynghyd â llond trol o hiwmor ffraeth wrth i Seren a Sbarc brofi ystod o brofiadau a sawl tro trwstan.
Felly eisteddwch yn ôl, ymlaciwch, a mwynhewch yr anturiaethau!
Bant â ni gyda Seren a Sbarc - Gêm OXO (003).pptx
Gêm OXO
Chwileiriau Seren a Sbarc.pdf
Chwileiriau
Helfa fawr Bant a Ni gyda Seren a Sbarc.pdf
Helfa
Helfa lluniau Bant a ni gyda Seren a Sbarc.pdf
Helfa
Tasg idiomau Seren a Sbarc.pdf
Idiomau
Tasgau Darllen a Deall.pptx
Darllen a Deall
Taflen lliwio y clawr.pdf
Tasg lliwio' Clawr
Dolen i e lyfr Bant a Ni gyda Seren a Sbarc (1).pdf
Dolen i'r e - lyfr
_Dolen i e lyfr Bant a Ni gyda Seren a Sbarc (wedi lleisio).pdf