Dosbarthiadau Rhithiol

Adnoddau ar gyfer hwyrddyfodiaid a disgyblion sydd angen hwb ychwanegol gyda'u sgiliau llafar a gwrando yw'r dosbarthiadau rhithiol. Maen nhw'n addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 2-6.

Cafodd y dosbarthiadau eu creu ar gyfer dysgu hwyrddyfodiaid yn rhithiol yn ystod y cyfnodau clo. Adnodd ar gyfer yr athro yw'r gwersi byw sy'n cynnwys pwerbwyntiau drilio er mwyn cyflwyno'r eirfa a'r patrymau iaith sydd yn y dosbarthiadau rhithiol.