Mae ymchwil yn dangos bod y risg o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn yn uwch ymhlith dysgwyr niwrowahanol, yn enwedig dysgwyr Awtistig (Fairclough, 2025). Mae ymchwil mwy diweddar hefyd yn amlygu’r risg bod dysgwyr gydag ADHD yn profi lefelau uwch o bryder dysgwyr y gellir ei gysylltu â phrofiadau o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn.
Gellir cysylltu’r ffactorau sy’n dylanwadu ar lefelau o bryder mewn unigolion niwrowahanol gydag anawsterau yn prosesu’r synhwyrau, swyddogaeth weithredol, rheoli ansicrwydd ac ymgysylltu â chymhlethdodau cymdeithasol.
Fe fydd ysgolion yn ymwybodol y gallant fod yn amgylcheddau cymdeithasol cymhleth all fod yn llafurus i blant a phobl ifanc niwrowahanol; maent yn treulio egni gwybyddol yn rheoli profiadau cymdeithasol a gallant gael eu gorlethu.
Mae hi’n hollbwysig felly bod sylw ac ymyrraeth gynnar yn cael ei roi i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, llythrennedd emosiynol, gwytnwch plant a phobl ifanc a’u gallu i hunan-reoleiddio. Mae camau i fynd i’r afael â hyn wedi’u nodi isod.
Ymchwil yng Nghonwy
Yn rhan o gam datblygu llwybr Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn Conwy, cynhaliodd Gwasanaeth Seicoleg Addysg a Gwaith Cymdeithasol Addysg ymchwil i ganfod y rhesymau pam bod rhai plant a phobl ifanc yn cael anhawster mynd i’r ysgol yng Nghonwy. Mae ymchwil pellach wedi cael ei gynnal ers hynny i archwilio i brofiadau dysgwyr niwrowahanol mewn ysgolion prif ffrwd yng Nghonwy.
Tynnwyd sylw yng nghanfyddiadau’r ddau brosiect ymchwil at y meysydd canlynol yn gysylltiedig ag anawsterau mynychu’r ysgol.
Cyfeillgarwch a chysylltiad gyda phobl eraill
Pwysau’r ysgol sy’n gysylltiedig â dysgu, cefnogaeth a’r amgylchedd
Ymdeimlad o berthyn a theimlo eu bod yn cael eu deall
Ansicrwydd ynghylch rheolau a pholisïau'r ysgol
Mae ymchwil yn dangos bod yr anawsterau sy’n cael eu profi gan ddysgwyr sy’n cael trafferth dod i’r ysgol yn gallu bod yn gymhleth ac yn amrywiol. Mae hi felly’n hanfodol bod ymateb graddol i gefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn yn hyblyg, yn addasadwy, yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gydweithredol. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ddull ysgol gyfan i ddeall niwrowahaniaeth a sut i gefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn.
Sut all ysgolion gefnogi dysgwyr?
Mae tystiolaeth a phrofiad yn dangos y gellir lleihau lefelau pryder ymysg plant a phobl ifanc niwrowahanol drwy fabwysiadu ymarfer da sydd yn unigol i anghenion penodol y plentyn. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth weledol, strwythur, rheoli newid ac yn gyffredinol, cynyddu sicrwydd y diwrnod ysgol.
Camau i gefnogi i leihau pryder
Cam 1
Sicrhau bod pob gan bob oedolyn sy’n gweithio gyda’r plentyn neu berson ifanc ddealltwriaeth o niwrowahaniaeth a chyfathrebu’n briodol, a bod oedolion wedi rhoi strategaethau ‘ymarfer da’ cyffredinol ar waith tra’n cefnogi unigolion niwrowahanol e.e. mae’r plentyn yn defnyddio amserlen weledol, cefnogaeth weledol berthnasol, ac mae ganddynt le tawel i reoli emosiynau.
Cam 2
Yr allwedd i effeithiolrwydd unrhyw ymyrraeth yw bod â dealltwriaeth gadarn o anghenion y plentyn neu berson ifanc. Ystyriwch ddefnyddio adnoddau megis:
Sgriptiau cymdeithasol
Adnoddau gweledol
Gwybodaeth a ddarperir gan wasanaeth niwroddatblygiadol
Cam 3
Cynllunio a rhoi strategaethau unigol ar waith i ddatblygu sgiliau emosiynol a chymdeithasol sydd wedi’u nodi yng ngham 2.
Gall strategaethau gynnwys y rhai sydd wedi’u disgrifio yng Nghanllawiau’r Ysgol i Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn.
Cam 4
Adolygu effaith yr ymyraethau. Er gwaetha’r ymarfer da ac ymyraethau, fe allai pryder y plentyn barhau i gynyddu, gan eu rhoi nhw mewn perygl o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn a bydd angen rhoi ymyraethau pellach ar waith.
Sylwch fod y cyngor yn y tudalennau blaenorol ynghylch Cynllun Cefnogi a Gweithredu hefyd yn berthnasol yma ac fe ddylid eu dilyn.
Os oes yna arwyddion fod y plentyn mewn perygl o Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn, fe fydd yn bwysig adeiladu darlun clir o ba elfennau’n union o fynychu’r ysgol sydd yn cynyddu eu pryderon er mwyn gwneud yr ymdrech orau i leddfu’r pryder gan ddefnyddio adnoddau a awgrymir yn y tab Adnoddau a Chefnogi.
Gall hefyd fod yn briodol i geisio cefnogaeth arbenigol gan asiantaeth allanol megis Tîm Estyn Allan Awtistiaeth, Seicoleg Addysg, Canolfannau i Deuluoedd a/neu Weithwyr Cymdeithasol Addysg.
Dylai ysgolion ystyried cyrsiau hyfforddi allai fod ar gael i rieni, e.e. Cynnig Cynnar a Mwy. Gallai sefydliadau trydydd sector ddarparu hyfforddiant, megis STAND North Wales, maen nhw’n cynnig mynediad at amrywiaeth o hyfforddiant yn lleol. Mae gan Awtistiaeth Cymru a’r National Autistic Society nifer o adnoddau ar gael i ysgolion a rhieni/gofalwyr. Gellir cael gafael ar raglenni cefnogaeth i rieni/gofalwyr drwy Ganolfannau i Deuluoedd Conwy.
Linciau perthnasol:
Bywyd Teuluol yng Nghonwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
(STAND North Wales – Stronger Together for Additional Needs and Disabilities (standnw.org)
Hafan - Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Neurodivergence Team
National Autistic Society (autism.org.uk)
Adnoddau Ychwanegol
Cyfeirnodau
Fairclough, M. (2025). Can't, not won't: Rethinking school avoidance. The Psychologist.
Hamilton, L. (2024). Emotionally Based School Avoidance in the Aftermath of the COVID-19 Pandemic: Neurodiversity, Agency, and Belonging in School. Education Sciences, 14(2), 156.