Mae cefnogi lles y plant yn ganolog i bob dim a wnawn yn yr Uned Drochi. Rydym yn cydnabod bod trosglwyddo i Ysgol Uwchradd a hynny er mwyn dysgu drwy iaith newydd a chyda chyfoedion newydd yn gam mawr ac felly mae ein rhaglen wedi'i lunio er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi lles y plant ar hyd eu taith gan gychwyn yn ystod y cyfnod trosglwyddo.
Mae ein staff wedi'u hyfforddi mewn arlwy o strategaethau cefnogi lles a gwytnwch ac wedi mynychu cyrsiau codi ymwybyddiaeth a dysgu strategaethau i gefnogi plant sydd ag anghenion dysgu penodol.
Mae ein rhaglen ddysgu yn un sydd yn gwreiddio strategaethau cefnogi lles a thrawma yn