Croeso i wefan Cynllun Trochi Wrecsam.
Mae ein huned drochi wedi'i leoli ar safle Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam ac rydym yn cydweithio yn agos gyda'r ysgol er mwyn sicrhau bod y cyfnodau trosglwyddo yn rai cefnogol ac esmwyth.
Ein bwriad ydy cefnogi dysgwyr i adael ein huned yn ddysgwyr medrus a hyderus gan agor llwybr tuag at dyfodol dwyieithog disglair ar eu cyfer. Mae ein cynllun dysgu yn un arloesol sy'n ymateb yn reddfol at lais y dysgwyr ac sy'n eu hysgogi i fwynhau yr iaith. Rydym yn cyflwyno'r iaith gan flaenoriaethu meithrin sgiliau llafaredd cryf, drilio cyson, gan gylchdroi arlwy o weithgareddau bachog a hwyliog i wreiddio iaith y thema a darparu llu o gyfleoedd i'r plant ymarfer a meithrin hyder wrth ddefnyddio'r iaith.
Mae'r Cynllun Trochi wedi'i ddatblygu er mwyn cefnogi plant i drosglwyddo i Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg o ysgol gynradd cyfrwng Saesneg. Mae'n gynllun arloesol a dwys er mwyn cefnogi eich plentyn i ddatblygu caffaeliad digonol o'r Gymraeg er mwyn cael eu rhyddhau i'r brif ffrwd o fewn dwy flynedd.
Pam dylech ystyried ymuno gyda’r cynllun trochi:
Mae'r cynllun trochi yn gynllun sydd wedi'i lunio a'i ddatblygu yn arbennig er mwyn darparu cyfle i blant gael mynediad hwyr at addysg cyfrwng Cymraeg wrth drosglwyddo o'r cyfnod cynradd i'r uwchradd. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i'ch plentyn ddatblygu sgiliau hyfedredd Cymraeg a byddwn yn cefnogi eich plentyn i fod yn ddinasyddion dwyieithog medrus a hyderus. Bydd eich plentyn yn treulio cyfnod pontio (hyd at dwy flynedd) yn ein huned nes maent wedi cyrraedd lefel caffaeliad digonnol ac wedyn byddant yn trosglwyddo i'r brif ffrwd gan ddilyn eu haddysg yn y Gymraeg.
Mae gofyniad gynyddol am sgiliau iaith Cymraeg yn y gweithle erbyn hyn ac mae Bil y Gymraeg Llywodraeth Cymru law yn llaw gyda polisi Cymraeg 2050 sydd yn gwthio tuag at cyfrifiad o miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn rhoi mantais i siaradwyr Cymraeg y dyfodol.
Hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn penderfynu aros yng Nghymru mae manteision gwybyddol i ddwyieithrwydd sydd yn mynd i helpu eich plentyn:
Haws i ddysgu ieithoedd eraill
Mae pobl dwyieithog yn dueddol o berfformio yn well wrth gyflawni tasgau.
Mae cael dwy iaith yn sgil ychwanegol ar gyfer eich ffurflen gais.
Mae pobl dwyieithog yn ennill cyflog sydd ar gyfartaledd yn 11% fwy na phobl uniaith.
Mae ymchwil yn dangos gall bod yn ddwyieithog arafu proses datblygu dementia / alzheimers.
Mae siarad dwy iaith yn ymestyn eich gorwelion.
Mae gallu symud o un iaith i'r llall yn gwneud i'r unigolyn ymfalchio yn eu sgiliau.
Mae dysgu iaith arall ac am ddiwylliant arall yn ein gwneud yn fwy oddefgar tuag at ddiwylliannau a safbwyntiau gwahanol.
Cofiwch:
Mae plant sy'n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn perfformio cystal os nad yn well yn y Saesneg o gymharu a phlant ysgolion cyfrwng Saesneg felly does dim angen pryderu fod addysg cyfrwng Cymraeg yn mynd i gael effaith andwyol ar safon iaith gyntaf y plant.
Beth os nad yw fy mhlentyn yn siarad gair o Gymraeg?
Mae’r cynllun trochi wedi’i lunio i drochi’r plant o’r cychwyn un gan dreulio y cyfnod cyn-Haf fel cyfnod i sefydlu patrymau iaith sylfaenol. Rydym yn eu trochi gan gyflwyno iaith mewn amrediad eang o weithgareddau a thasgau sydd yn ysgogi ac yn ennyn chwilfrydedd, brwdfrydedd, hyder a medrau ieithyddol y plant. Rydym yn dilyn cynllun datblygu sgiliau llafaredd arloesol er mwyn sicrhau fod y plant yn datblygu medrau llafar cadarn ac mae hyn yn ei dro yn trosglwyddo hyder wrth fynd ati i gwblhau tasgau darllen ac ysgrifennedig.
Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer y Cynllun Trochi?
Yn ystod cyfnod blwyddyn 6 eich plentyn yn yr ysgol byddwch yn gwneud cais ar gyfer ysgol uwchradd yn ystod tymor yr Hydref. Wrth wneud cais ar gyfer Ysgol Morgan Llwyd, ein hunig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg byddwch yn dod ar draws opsiwn sydd yn gofyn os hoffech fynediad at y cwrs trochi wrth drosglwyddo. Bydd manylion pawb sydd yn dewis yr opsiwn yma yn cael ei basio at yr Uned Drochi a byddwn yn cysylltu a chi yn ystod Tymor y Gwanwyn i raeadru’r trefniadau. Os hoffech gyngor neu rhagor o wybodaeth cysylltwch a ni: trochi@wrexham.gov.uk
Beth ydy’r drefn / amserlen wrth drosglwyddo?
Mis Chwefror (bl.6):
Byddwn yn derbyn rhestr o enwau sydd wedi dangos diddordeb mewn trosglwyddo I'r uned drochi yn ystod tymor y Gwanwyn. Yn dilyn hyn byddwn yn cysylltu gydag ysgolion cynradd y plant er mwyn cael sgwrs anffurfiol gydag aelod o staff am y plentyn ac yn cael cyfle i gyfarfod y plentyn ar yr un pryd. Byddwn wedyn yn trefnu cyfnod cyfleus i fynd I'r ysgol yn wythnosol i gynnal sesiwn allgymorth er mwyn cael dod i adnabod y plentyn, gwneud ychydig o waith iaith sylfaenol i asesu lefel caffaeliad ac i hwyluso’r broses trosglwyddo.
Mis Mawrth (bl.6):
Byddwn hefyd yn cysylltu gyda rhieni / gwarchodwyr cyn y Pasg er mwyn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich manylion, rhannu gwybodaeth ac i'ch gwahodd draw atom ar gyfer noson wybodaeth.
Mis Mehefin – Gorffennaf (bl.6):
Bydd y plant yn mynychu Ysgol Morgan Llwyd am 6 wythnos ar gyfer cwrs rhag-flas trochi. Mae hwn yn gyfle i ymgyfarwyddo, dod i adnabod plant y dosbarth, y staff a rhoi cynnig ar fywyd yn yr uned drochi cyn llwyr ymrwymo I'r cynllun. Rydym yn gwbwl hyblyg yn ystod y cyfnod yma o ran canaiatau I'r plant fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn eu hysgolion cynradd.
Mis Medi (bl.7):
Bydd y plant yn ymrwymo yn llwyr i'r cynllun trochi gan gofrestru fel disgyblion Ysgol Morgan Llwyd.
Cyfnod blwyddyn 7 / 8:
Bydd y dysgwyr yn dilyn amserlen sydd yn rhannu eu hamser dysgu rhwng yr uned drochi (tua 55%) a'r ysgol (tua 45%) ar gychwyn blwyddyn 7 ac wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau iaith bydd eu hamserlenni yn addasu i gynnwys fwy o amser yn yr ysgol a llai yn yr uned drochi. Rydym yn diddyfnu'r dysgwyr yn raddol er mwyn meithrin eu hyder wrth drosglwyddo o'r cynllun trochi i'r brif ffrwd.
Pa gefnogaeth lles sydd ar gael i gefnogi fy mhlentyn wrth drosglwyddo i'r cynllun?
Mae sicrhau ein bod yn cefnogi lles y plant yn ganolog i bob dim a wnawn yn yr uned drochi. Rydym yn credu ei fod yn holl-bwysg ein bod yn meithrin perthynas da gyda'r plentyn, yr ysgol gynradd a'r teulu cyn iddynt drosglwyddo yn llwyr atom. Rydym yn cefnogi'r plentyn gan gychwyn yn nhymor y Gwanwyn yn ystod blwyddyn 6 er mwyn dod i adnabod y plentyn, darbwyllo a datblygu perthynas fel rhan o'n rhaglen allgymorth. Mae hyn hefyd yn gyfle i ni siarad gyda staff yr ysgol gynradd er mwyn dod i ddeall sut mae eich plentyn yn hoffi cael eu cefnogi. Byddwn hefyd yn cael cyfle i siarad gyda rhieni cyn iddynt drosglwyddo er mwyn lleddfu pryderon a sicrhau fod y cyfnod drosglwyddo yn un esmwyth a chefnogol.
Mae ein gwasanaeth yn un sy'n ystyriol o drawma. Mae dwy aelod o staff wedi cwblhau diploma Trauma Informed Schools a gweddill y staff wedi cwblhau cwrs deuddydd ar theori a dulliau cefnogi trawma. O ganlyniad mae ein gwersi, strwythr cynllun dysgu a'n cynllun cefnogi ymddygiad bositif yn un sy'n ystyriol o drawma ac sydd yn blaenoriaethu lles y plant.
A fydd fy mhlentyn yn cael cyfle i ymuno gyda plant y brif ffrwd wrth drosglwyddo?
Bydd eich plentyn yn mynychu yr uned drochi yn ystod hanner tymor olaf blwyddyn 6. Yn ystod y cyfnod yma bydd plant blwyddyn 6 yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael cyfle i fynychu tridiau trosglwyddo yn yr ysgol. Bydd plant yr uned drochi yn cael cyfle i ymuno yn y rhaglen drosglwyddo a cwrdd a'u cyfoedion gan wneud ffrindiau newydd o fewn y brif ffrwd. Wrth ymuno fel disgybl blwyddyn 7 bydd cyfle i'r disgyblion yn yr uned drochi i ymuno ag ambell dosbarth gyda plant yn y brif ffrwd megis ymarfer corff a technoleg er mwyn dod i adnabod plant y brif ffrwd. Byddant hefyd yn cael cyfle i gymysgu yn ystod amser egwyl, cinio a chlybiau'r ysgol.
Pryd fydd fy mhlentyn yn gallu ymuno gyda'r brif ffrwd?
Byddwn yn asesu lefel caffaeliad y plant yn aml ac yn asesu pryd sy'n addas i gychwyn y broses ddiddyfnu. Mae taith caffael iaith pob plentyn yn un gwahanol ac mae posib na fydd eich plentyn wedi datblygu a chaffael yr iaith ar yr un cyflymder a rhai eraill yn y dosbarth. Byddwn yn rhyddhau unigolion ar gyfnodau gwahanol ac yn ddibynnol ar eu medrau ond hefyd eu hyder i ffynnu yn y brif ffrwd. Byddwn yn trafod datblygiad, cyrhaeddiad a throsglwyddo i'r brif ffrwd gyda chi yn ystod ein nosweithiau rieni.
Beth sydd yn digwydd os ydy fy mhlentyn yn cael trafferth caffael yr iaith Gymraeg?
O dro i dro gall plentyn gael trafferth wrth geisio caffael iaith ychwanegol. Yn aml iawn nid y iaith ychwanegol ydy'r unig her ac maent yn cael trafferth yn eu hiaith gyntaf hefyd. Byddwn yn onest ac yn cyfarthrebu unrhyw bryder sydd gennym ac yn trafod ymyrraeth neu cefnogaeth ychwanegol os rydym o'r farn bod angen hyn.
Sut fedra i ddysgu mwy am y cynnig?
Mae croeso mawr i chi gysylltu a ni am sgwrs anffurfiol gan ddanfon ebost at trochi@wrexham.gov.uk. Byddwn yn hapus i ymateb dros ebost, i drefnu galwad ffon neu cyfarfod rhithiol neu trefnu i chi ymweld a ni yn ein huned ar adeg cyfleus. Peidiwch ag oedi i gysylltu a ni - does dim cwestiwn yn gwestiwn gwirion, rydym yma i helpu ac i leddfu unrhyw bryder sydd gennych.
Gallwch hefyd ddilyn ein tudalen Instagram: trochi_wrecsam er mwyn cael blas ar fywyd yn yr uned drochi.