Cefnogaeth ar gyfer y dysgwyr:
Yn yr Uned Drochi rydym ceisio sicrhau nad ydym yn cefnogi dim mwy na pymtheg plentyn ym mhob dosbarth. Ymyrraeth dwys ydy'r cynllun trochi ac mae meithrin perthynas agos a chefnogol efo'r plant yn hanfodol bwysig i ni.
Mae gennym gymhorthydd dosbarth sydd yn gweithio rhwng y ddau ddosbarth ac sy'n cynnig ymyrraeth a chefnogaeth ar gyfer plant sydd angen mewnbwn ychwanegol. Rydym yn tracio dealltwriaeth, datblygiad a hyder y dysgwr ar ddiwedd pob uned ac mae unrhyw dysgwr sydd dal angen mewnbwn i lwyddo ar yr uned yn derbyn ymyrraeth ychwanegol gan ein cymhorthydd.
Caiff gwaith cartref ei osod yn wythnosol ond mae cyfnod o wythnos yn cael ei benodi ar gyfer cwblhau y gwaith cartref a cyfnod penodol i dderbyn cymorth gan aelod o staff yn ystod yr wythnos. Cyfrifoldeb y dysgwr ydy rhoi cynnig ar y gwaith a gofyn am gymorth cyn y dyddiad cyflwyno'r gwaith.
Rydym yn cydnabod fod pawb yn dysgu'n wahanol a bod angen cyflwyno patrymau iaith yn draws-gwricwlaidd a datblygu iaith thema gan gynnig arlwy o weithgareddau er mwyn greiddio'r iaith. Mae ein rhaglen ddysgu llawn gweithgareddau pytiog sydd yn cyflwyno elfennau chwarae, archwilio, cyflwyno ac arfarnu er mwyn sicrhau caffaeliad cadarn ac ennyn hyder y plant.
Mae cefnogaeth lles yn bwysig iawn i ni. Gallwch ddysgu mwy am ein cefnogaeth lles wrth glicio ar y tab 'lles' uchod neu wrth sganio y cod QR isod:
Cefnogaeth ar gyfer teuluoedd:
Rydym yn hapus i ymateb i unrhyw ymholiad neu i drefnu galwad ffon neu cyfarfod yn ystod cyfnod cyfleus.
Gofynnwn yn garedig i chi gysylltu gyda'r ysgol i drefnu - 01978 315 050 neu i ddanfon ebost draw at trochi@wrexham.gov.uk.
Rydym yn cyfarthrebu yn aml yn ystod y cyfnod trosglwyddo a'r cyfnod yn yr Uned Drochi er mwyn rhaeadru ar gynnydd a datblygiad y dysgwyr ac rydym yn annog perthynas agored a ymddiriedaeth ein teuluoedd er mwyn i ni fedru cefnogi y plant yn drylwyr ac effeithiol.
Yn ogystal a chefnogaeth gennym ni mae cefnogaeth ehangach ar gael sy'n darparu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth ynglyn a materion sy'n ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Gweler isod gwybodaeth am y ddarpariaeth sydd ar gael.
Mae gwefan Addysg Gymraeg Wrecsam www.agw.cymru a chyfryngau cymdeithasol AGW yn borth un alwad sydd yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac adnoddau i gefnogi rhieni sydd a phlant o fewn addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam.
Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)
Mae RhAG yn asiantaeth cenedlaethol sydd yn cefnogi a darparu gwybodaeth ar gyfer rhieni. Mae rhagor o wybodaeth am RhAG ar gael ar eu gwefan: https://rhag.cymru/
Mae RhAG hefyd yn darparu a chynnal cyfeiriadur o'r enw Cymraeg i Rieni sydd yn darparu llu o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer rhieni a gofalwyr.