Mae'r gallu i fynegi ein hunain drwy ddefnyddio ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Dylid rhoi cyfleoedd i ddysgwyr siarad er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol wrth ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth a meithrin perthynas ag eraill
Yn 2015, datganodd bron i hanner cyflogwyr Prydain bryder am sgiliau cyfathrebu pobl ifanc oedd yn cychwyn ym myd gwaith. Ydyn ni’n paratoi pobl yn ddigonol ar gyfer y dyfodol?
Dysgir sgiliau darllen yn benodol a thrylwyr, ond ydy athrawon yn cymryd yn ganiataol fod plant yn datblygu eu sgiliau siarad yn naturiol adref?
Mae 75% o blant o gefndiroedd difreintiedig yn cyrraedd yr ysgol â sgiliau llafaredd is na’r cyffredin - Nid dewis addysgiadol yn unig yw llafaredd ond rheidrwydd moesol er mwyn cau’r bwlch a rhoi chware teg i bawb.
Datblygu llafaredd da yn yr Uned Drochi
Mae'r Uned Drochi yn cydnabod y dywediad fod gallu 'ei ddweud yn dda yn arwain at fedru ei ysgrifennu, ei ddarllen a'i ddeall yn dda.' Ers Medi 2023 'rydym wedi dilyn cynllun llafaredd Llais 21. Mae'r cynllun hwn yn ein galluogi i gefnogi datblygiad llafaredd yn effeithiol drwy siarad archwiladol a siarad cyflwyniadol - hynny yw, dysgu wrth siarad a dysgu i siarad. Mae llafaredd yn ganolog i'n cwricwlwm ac yn sicrhau ein bod yn gosod cyfle teg i BAWB lwyddo hyd gorau eu gallu gan ddatblygu sgiliau cyfarthrebu cadarn yn y Gymraeg. Rydym yn blaenoriaethu sgiliau llafaredd er mwyn cau'r bwlch, datblygu lles, hunan-barch a hunan hyder yn ogystal a datblygu medrau o'r safon uchaf a gwella cyfleoedd cyflogadwyedd.
4 Llinyn Llafar
Mae'r pedwar llinyn llafar yn ffordd effeithiol o asesu a ffocysu ar wahanol agweddau o lafaredd. Rydym yn defnyddio rhain fel meini prawf ar gyfer tasgau, fel canllaw asesu sgiliau llafaredd y plant ac hefyd er mwyn gosod blaenoriaethau llafaredd y dosbarth.
Llais 21 / Voice 21
Rydym yn dilyn cynllun Llais 21 yn ein Uned Drochi. Mae'r cynllun hwn yn gynllun datblygu sgiliau llafaredd arloesol sydd wedi'i gynllunio i ddatblygu hyder a medrau llafaredd y dysgwyr ac hefyd eu capasiti i ddysgu. Mae'r cynllun yn ein cefnogi i ddarparu addysg llafaredd o'r safon uchaf fel ein bod yn gallu cefnogi plant i ddatblygu sgiliau bywyd.
Meithrin hyder, ennyn balchder:
Rydym yn bachu pob cyfle i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr a chyffrous i'n trochwyr gael ymarfer eu sgiliau Cymraeg, meithrin hyder a chael ymfalchio yn eu hymdrechion. Dyma rai esiamplau o'r cyfleoedd a gawsant i ymarfer eu sgiliau cyflwyno y tu hwnt i'r dosbarth yn ddiweddar:
Trochwyr yn siarad yn fyw am eu profiad o ddysgu Cymraeg yn yr Uned Drochi.
Allan yn y gymuned fel gwesteion gan Calon FM yn barod i siarad yn fyw ar y radio!
Profiad o gyflwyno ar gyfer y radio a chael eu ffilmio gan griw teithiol y BBC.
Y trochwyr (a Mr Dascalu) yn mwynhau'r cyfle i serennu gyda criw BBC Radio Cymru 2.
Podlediadau a'r stiwdio!
Mae'r Uned Drochi yn cydweithio yn agos gydag Ysgol Morgan Llwyd er mwyn darparu cyfleoedd arloesol ac ysgogol i'n dysgwyr feithrin eu hyder a'u sgiliau llafaredd.
Yn ystod 2023/24 'rydym wedi cyd-weithio i greu llwyfan podlediadau ac i ddatblygu stiwdio newydd er mwyn darparu cyfleoedd arbennig i'n dysgwyr. Bydd ein rhaglen waith ar gyfer 2024/25 yn plethu cyfleoedd i ddefnyddio ein stiwdio newydd ac i adeiladu banc o bodlediadau gan y dysgwyr ond hefyd gan staff yr Uned.
https://sites.google.com/hwbcymru.net/podlediadau-trochi/home
Manteision datblygu sgiliau llafaredd ein dysgwyr:
Mae llu o fanteision i ddatblygu llafaredd yn ein dysgwyr, nid yn unig wrth gaffael iaith o fewn cyfnod dwys yn ein huned drochi ond mae cael sgiliau llafaredd a chyfarthrebu clir yn sgil bywyd fydd yn gosod cyfleoedd a hyder i'ch plentyn drwy gydol eu bywyd.
Mesur a thracio
Rydym yn gweld effaith gadarnhaol o'r gwaith llafaredd sydd yn cael ei wthio yn y dosbarth ond mae rhoi pwyslais ar sgiliau llafaredd yn golygu bod llai o waith yn y llyfrau, yn enwedig ar gychwyn y daith yn yr uned. Serch hynny, rydym yn cydnabod pwysigrwydd mesur a thracio llafaredd da o fewn ein dosbarth ac yn cynllunio'n drylwyr er mwyn sicrhau bod sail a dilyniant i bob dim a wnawn.