Rydym yn defnyddio'r Wyddor Stumie fel adnodd hwyliog i gyflwyno'r wyddor Gymraeg i'n dysgwyr. Mae'n ffordd effeithiol o gofio'r ynganiad cywir yn y Gymraeg ac 'rydym yn cyfeirio ato yn aml yn ystod y daith trochi.
Dyma ganllaw dwyieithog i chi gefnogi eich plentyn wrth ddysgu'r wyddor ac efallai medrwch ddysgu'r wyddor ar y cyd!
Mae tudalen YouTube AGW yn borth defnyddiol sy'n cynnwys fideos ar gyfer y dysgwyr a'u teuluoedd.
https://www.youtube.com/feed/playlists
Mae'r dudalen yn cynnwys:
Fideos 'Cymraeg Cyflym' sydd yn cyflwyno patrymau iaith sylfaenol i'r gwyliwr gael cyfle i ymarfer yn annibynnol.
Rhestrau chwarae cerddoriaeth Cymraeg.
Fideos Cymraeg sy'n rhoi cyfarwyddyd ioga a symud.
Fideos Cymraeg sy'n rhoi cyfarwyddyd ar brosiectau celf.
Fideos Cymraeg sy'n rhaeadru hanesion o Gymru.
Llyfrau llafar Cymraeg
Fideos gan rieni yn rhannu eu profiadau o addysg cyfrwng Cymraeg
A llawer mwy....
Mae nifer fawr o apiau Cymraeg ar gael i gefnogi dysgu y plant. Dyma restr o apiau defnyddiol ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd.
Rydym yn grediniol bod budd mawr i ddysgu drwy chwarae. Wrth chwarae ac archwilio mae plant yn fwy debygol o ymgysylltu a mewnbynnu gwybodaeth. Mae'n bwysig i ni fod y dysgwyr yn mwynhau'r iaith, yn cael digonedd o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith ac yn cael eu trochi gyda cyfres o weithgareddau pytiog ond effeithiol er mwyn iddynt gael brofi iaith mewn amrediad o ddulliau.
Mae'r Uned Drochi wedi datblygu cyfres o gemau 'Dobl' wedi'u selio ar themau y cynllun er mwyn adeiladu geirfa y dysgwyr mewn ffordd hwyliog.
Mae cynnwys yr elfen gystadleuol yn un effeithiol ac mae hefyd yn meithrin sgiliau cyfarthrebu, cyd-weithio a chyd-gysylltu.
Mae cael hwyl, symud ac ymgysylltu yn ffordd wych o lenwi hormonau hapus y dysgwyr sydd yn ei dro yn eu gosod mewn lle gwell i ddysgu.
Mae'r plant yn mwynhau chwarae 'Dyfalwch bwy..?' (Guess who?) sydd wedi'i lunio gyda lluniau dysgwyr y dosbarth. Ffordd dda o ymarfer patrymau holi ac ymateb.
Mae gan y ddau ddosbarth ffonau symudol ac mae'r ddau ddosbarth yn cyfarthrebu yn ddyddiol dros y ffon er mwyn datblygu eu sgiliau llafaredd.
Gwrando i'r Gymraeg
Mae 'trochi'r Gymraeg' yn golygu i ymrwymo yn llwyr i'r iaith gan fanteisio ar bob cyfle i siarad, gwrnado, dysgu a chymryd rhan ym mhob dim Cymraeg. Mae datblygu sgiliau gwrando da er mwyn gallu dadansoddi a deall y cynnwys yn bwysig iawn ac mae hyn yn rywbeth gall y dysgwyr ei wneud o adref. Rydym yn annog y dysgwyr i wylio S4C ar y teledu, gwylio fideos safonedig yn y Gymraeg, gwrando ar bodlediadau ac ar Radio Cymru a gwrando ar lyfrau llafar yn cael eu hadrodd. Gweler y dolenni isod: