UG Uned 2
Arferion Digidol Creadigol
Asesiad di-arholiad: tua 45 awr
50% o'r cymhwyster UG
20% o'r cymhwyster Safon Uwch
80 marc
Trosolwg o'r uned
Yn yr uned hon, bydd dysgwyr yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth mewn perthynas ag arferion digidol creadigol, gan gynnwys:
• ymchwilio, cynllunio, dylunio, datblygu, profi, mireinio a dogfennu.
Mae'r asesiad di-arholiad hwn yn rhoi'r cyfle i ymgeiswyr ddewis cyd-destun ar gyfer eu tasg, a datblygu gêm o'u dewis.
Fformatau asesiadau di-arholiad
Rhaid i'r asesiad di-arholiad gael ei gyflwyno yn y ffyrdd canlynol:
• dogfennau A4 neu A3 wedi’u teipio ar fformat PDF
• un gêm weithredadwy
• tystiolaeth ategol wedi'i chyflwyno mewn fformat sy'n gydnaws â GameMaker i gynnwys:
• pob cod ffynhonnell wedi'i anodi a'i farcio
• pob gwaith celf 'raw sprite' a gwaith celf y gêm mewn fformat sy'n gydnaws â chyfres rhaglenni Adobe
• pob iteriad o ddatblygiad y gêm derfynol
• ffilm neu sgrin-gipiad 5-10 munud o hyd o'r gêm gydag adroddiad llafar neu
anodiadau mewn fformat MP4 er mwyn dangos nodweddion a swyddogaethedd y
gêm.
• dylid gallu gwylio'r dystiolaeth ategol mewn unrhyw borwr gwe.
Rhaid i ganolfannau atgoffa'r ymgeiswyr i gadw eu gwaith yn ddiogel bob amser. Ni ddylent rannu ar-lein, ar y cyfryngau cymdeithasol na defnyddio unrhyw ddulliau eraill i rannu gwaith sydd wedi'i gwblhau neu waith sydd wedi'i gwblhau'n rhannol.
AS Unit 2
Creative Digital Practices
Non-exam assessment (NEA): approximately 45 hours
50% of AS qualification
20% of A level qualification
80 marks
Overview of unit
In this unit learners will develop knowledge, skills and understanding in creative
digital practices, including:
• researching, planning, designing, developing, testing, refining and documenting.
This non-exam assessment (NEA) gives candidates the opportunity to choose a
context for their task, and to develop a game of their choice.
NEA formats
The NEA must be presented in the following ways:
• word processed A4 or A3 documents in PDF format
• an executable game
• supporting evidence presented in a format compatible with GameMaker to include:
• all annotated and marked up source code
• all raw sprite and game artwork in a format compatible with the Adobe suite of applications
• all iterations of the development of the final game
• a narrated or annotated 5-10 minute gameplay movie or screen capture in MP4 format to demonstrate the features and functionality of the game.
• supporting evidence should be viewable in any web browser.
Centres must remind candidates to keep their own work secure at all times and not share completed or partially completed work on-line, on social media or through any other means.