Gwyliwch y fideo i weld Abigail yn egluro sut y gwnaeth hi greu'r stori rhyngweithiol. Mae hi'n dangos sut mae ei chod yn gallu llunio stori gwahaniaethol yn ddibynol ar atebion y darllenwr i'r cwestiynau.
Mae'r fideo hwn yn dangos stori Abigail a'r cod sy'n cuddio yn y cefndir.
Defnyddiodd Abigail flociau o'r adrannau:
Creoedd newidyn ar gyfer pob ateb a fyddai'n cael ei fewnbynnu gan y darllenwr. Golygai hyn y gallai ddefnyddio'r newidynnau hyn yn y stori terfynnol er mwyn ei wneud yn unigryw ar gyfer y darllenwr.
Allwch chi feddwl am ffyrdd o newid neu wella stori rhyngweithiol Abigail?
Sut allwch chi ddefnyddio'r syniad hwn i greu math gwahanol o stori rhyngweithiol?