Gwyliwch y fideo i weld Poppy yn egluro sut y gwnaeth hi greu cwis am gwpan rygbi'r byd.
Mae'r fideo hwn yn dangos y cwis yn cael ei ddefnyddio a'r cod sy'n cuddio yn y cefndir.
Defnyddiodd Poppy flociau o'r adrnnau "Edrychiad / Looks", "Synhwyro / Sensing", "Gweithredwyr / Operators", "Sain / Sound" a "Newidynnau / Variables".
Creoedd hi newidyn ar gyfer cyfri'r sgôr gan ddefnyddio cod 'gofyn' ac 'ateb' er mwyn gwneud y cwis yn rhyngweithiol. Er mwyn caniatau gwahanol atebion defnyddion floc "os<> fel arall <> / if <> else <>" a defnyddio bloc "neu / or" o'r adran gweithredwyr er mwyn derbyn ymatebion oedd yn cynnwys priflythrennau a rhai heb briflythyren.
Allwch chi feddwl am ffordd newid neu gwella gem Poppy?
Sut allwch chi ddefnyddio ei syniad er mwyn creu cwis arall?