Gwyliwch y fideo i glywed Jasmin yn egluro sut y gwnaeth hi greu'r gêm. Drwy ddefnyddio'r saethau ar y bysellfwrdd mae hi'n gallu rheoli'r sprite er mwyn osgoi chwaraewyr y tim arall a sgorio cais. Mae hi wedi cynnwys amserydd er mwyn diweddu'r gêm.
Mae'r fideo hwn yn dangos y gêm yn cael ei ddefnyddio a'r cod sy'n cuddio yn y cefndir.
Defnyddiodd Jasmin fwy nac un sprite yn y gêm. Defnyddiodd flociauo'r adrannau
Creoedd newidynnau ar gyfer y sgôr a'r amserydd drwy adio a tynnu. Defnyddiodd gyfesurynnau i ddynodi salfe cychwyn y sprite. Defnyddiodd effeithiau sain i adeiladu tensiwn wrth i'r amser nesau at y diwedd. Defnyddiodd floc 'Os' ac 'Os <> Neu<>' i reoli beth oedd yn digwydd i'r chwaraewr yn ystod y gem.
Gwyliwch y fideo i glywed Layla yn egluro sut y gwnaeth hi greu'r gêm. Drwy ddefnyddio'r saethau ar y bysellfwrdd mae hi'n gallu rheoli'r sprite er mwyn osgoi chwaraewyr y tim arall a sgorio cais. Mae hi wedi cynnwys amserydd er mwyn diweddu'r gêm a cerddoriaeth gefndirol.
Mae'r fideo hwn yn dangos y gem yn gweithio a'r cod sy'n cuddio yn y cefndir. Rhaglennwyd y chwaraewr i symud drwy ddefnyddio'r saethau ar y bysellfwrdd. Rhaglennwyd y taclwyr i symud ar hap o amgylch y cae. Defnyddiwyd floc 'am byth' i sicrhau fod y taclwyr a'r chwaraewr yn parhau i symud drwy gydol y gem.
Allwch chi feddwl am ffyrdd o newid neu wella'r gemau?
Sut allwch chi ddefnyddio'r syniadau hyn i greu eich gem eich hyn?