Mae amrywiaeth o gefndiroedd a sprites (y cymeriad neu wrthrych rydych chi am ei godio!) ar gael ar Scratch. Gallwch hefyd uwchlwytho cefndir neu sprite o'ch dewis chi os ydych chi'n dymuno defnyddio rhywbeth mwy arbennigol!
Mae'r fideo hwn yn dangos sut i greu prosiect newydd, dewis cefndir sy'n cydfynd â themau pêl-droed a dewis sprite o'r un themau. Mae hefyd yn dangos i chi sut i newid maint y sprite a'i symud i wahanol safleoedd.
Nid oedd unrhyw gefndir na sprite yn addas ar gyfer cwpan rygbi'r byd felly roedd yn rhaid i ni uwchlwytho rhai ein hunain. Gwyliwch y fideo er mwyn cael gweld sut i wneud hyn!