Darllenwch isod beth mae dysgwyr blwyddyn 7 a'n Prif Swyddogion yn dweud am eu profiadau nhw yn Ysgol Y Strade.
Darllenwch isod beth mae dysgwyr blwyddyn 7 a'n Prif Swyddogion yn dweud am eu profiadau nhw yn Ysgol Y Strade.
Cyngor Ysgol 2025-26
"Mae fy mhrofiad yn yr ysgol wedi bod yn un yr wyf am gofio am byth. Mi wyf wedi cael nifer o brofiadau anhygoel yn ystod fy amser. Cefais llawer o gyfleon bythgofiadwy tu allan i’r ystafell ddosbarth gyda’r adran addysg gorfforol, cerdd, drama a digidol, ond i enwi rhai ohonynt. Doeddwn i ddim wedi ystyried unrhyw opsiwn arall pan yn penderfynu beth oeddwn am wneud ar ôl gorffen blwyddyn 11. Dychwelyd i’r ysgol oedd yr unig beth yr oeddwn am wneud, mae’r berthynas sydd gennyf gyda’r athrawon a gyda fy nghyd ddisgyblion yn rhywbeth gallaf byth gymryd yn ganiataol. Byddaf am byth yn gwerthfawrogi fy amser anhygoel yn Y Strade."
Ianto Evans, Prif Swyddog 2025-26
"Yn ystod fy nghyfnod yn y Strade rwyf wedi cymryd rhan a chael profiadau gwerthfawr mewn sawl maes gan gynnwys teithiau academaidd, ond yn bennaf oll, teithiau gyda’r Côr. Mae’r adran gerdd wedi cynnig cymaint o gyfleoedd i gystadlu a pherfformio mewn cyngherddau gwahanol. Yn bendant, mae’r ymdeimlad o gymuned sydd i gael yn y Strade yn un unigryw ac wedi fy helpu i fagu hyder sydd yn angenrheidiol fel Uwch Swyddog yn yr ysgol yn ogystal â bywyd ar ôl gadael Y Strade. Eleni, rwyf am weithio fel model rôl i fyfyrwyr yr ysgol er mwyn iddynt gallu manteisio ar gyfleoedd a chael profiad mor werthfawr â fy mhrofiad i."
Eve Couser, Prif Swyddog 2025-26
"Penderfynais ddychwelyd i'r chwech yn y Strade er mwyn rhoi nol i'r ysgol sydd wedi arwain a gwythio fi i gael y gorau allan ohonof i fy hun. Un peth rydw i wedi gwerthfawrogi wrth ymuno gyda'r chweched yw cymorth sydd wedi ei ddarparu o'r athrawon.Rydw I yn gobeithio symud ymlaen i brif ysgol blwyddyn nesaf er mwyn astudio daearyddiaeth yn y maes ffisegol, gyda gobaith o fod yn athro ac yn y dyfodol gobeithio dod 'nôl i'r Strade fel athro. Rydw i wedi caru'r teithiau ar gyfleoedd mae'r ysgol yn ei chynnal. Yn ychwanegol, un peth rydw i yn annog pawb i wneud yw cymryd rhan yn glwb neu bwyllgor am fod yr amgylchedd yn arbennig ac yn ffordd o ddatblygu perthnasoedd gyda phobl o'r un diddordeb."
Ryan Oakley, Prif Swyddog 2025-26
"Fe phenderfynais ddychwelyd i'r Chweched er mwyn parhau fod yn rhan o'r teimlad teuluol sydd yn bodoli yn Y Strade. Yn ogystal â hyn yn bersonol credaf taw dyma'r lle gorau i ddatblygu yn fy mhynciau dewisol er mwyn cyrraedd fy mhrifysgol ddelfrydol i astudio'r gyfraith blwyddyn nesaf. Trwy gydol fy amser yn yr ysgol rwyf wedi derbyn nifer o gyfleoedd bythgofiadwy boed yn academaidd neu hefyd yn y maes chwaraeon ar safle'r ysgol neu ar deithiau. Ac felly fy mwriad wrth fod ym mhrif swyddog yn union fel y prif swyddogion cyn yw parhau i gadw'r teimlad teuluol yma ac i ddatblygu'r disgyblion i fod y gorau a gallent erbyn diwedd ei amser yn yr ysgol. Mae'r ysgol yn roi cyfleoedd iddynt i fagu ei hyder a hefyd gwella eu gwaith fel y bydd yn cael ei chwblhau o'r safon gorau posib."
Priya Liley, Prif Swyddog 2025-26
Swyddogion Ysgol Y Strade 2025-26