π GwybodaethΒ
π GwybodaethΒ
Fel arfer bydd y disgyblion yn aros yn eu dosbarthiadau cofrestru gwreiddiol, mewn un o bedwar Llys, drwy gydol blynyddoedd 7-11.Β Bydd y tiwtor dosbarth yn gwneud pob ymdrech i ddod i adnabod pob unigolyn yn ei ddosbarth yn dda.Β Bydd bob amser yn barod i wrando a chynnig cyngor am waith ysgol neu broblemau personol.Β Gwneir pob ymdrech i ofalu am les a hapusrwydd yr unigolyn, a chynnal yr ethos o deulu sydd gennym yma yn Y Strade.Β Atgyfnerthir gwaith a gofal y Tiwtor Dosbarth gan y Penaethiaid Blwyddyn.
Ym mlwyddyn 7 ar hyn o bryd, mae yna 9 dosbarth coftrestu, sy'n perthyn i'n pedwar Llys ysgol. Dros y flwyddyn, bydd y llysoedd yn cystadlu mewn Eisteddfod Ysgol a Mabolgampau.Β
Y pedwar Llys yma yn Ysgol Y Strade yw:
π΅ Buddug
π’ Gwenllian
π‘ Madog
π΄ Rhodri
Mae'r ysgol yn defnyddio ClassCharts (gwefan) i gofrestru a chofnodi pwyntiau clod ac ymddygiad pob dysgwr.Β
Yn ogystal a hyn byddwch yn derbyn negeseuon o swyddfa'r ysgol ac adrannau/athrawon trwy'r ap yma a gweld wybodaeth am dasgau gwaith cartref eich plentyn.
Ym mis Medi bydd pob rhiant yn derbyn manylion mewngofnodi ClassCharts i weld cyfrif eu plentyn.
Lluniau o'r dosbarthiadau i ddilyn...
π΅ 7B1Β
π΅ 7B2
π’ 7G1
π’ 7G2
π‘ 7M1
π‘ 7M2Β
π΄ 7Rh1
π΄ 7Rh2
π΄ 7Rh3Β
π GwybodaethΒ