✨ Safonau uchel
😃 Dysgwyr hapus a diogel
👍 Parch a chwrteisi
💚 Cymreictod
8.30 y.b. – 9.00 y.b. Cofrestru
9.00 y.b. – 10.00 y.b. Gwers 1
10.00 y.b. – 11.00 y.b. Gwers 2
11.00 y.b. – 11.15 y.b. Egwyl
11.15 y.b. – 12.15 y.h. Gwers 3
12.15 y.h. – 1.15 y.h. Gwers 4
1.15 y.h. – 2.15 y.h. Cinio
2.15 y.h. – 3.15 y.h. Gwers 5
Llyfr Cyswllt
Bydd pob dysgwr yn derbyn llyfr cyswllt bydd yn gymorth iddynt cadw trefn dyddiol a chofnodi gwaith cartref a negeseuon pwysig.
Cyfrif ClassCharts
Mae'r ysgol yn defnyddio ClassCharts (gwefan) i gofrestru a chofnodi pwyntiau clod ac ymddygiad pob dysgwr.
Ym mis Medi bydd pob rhiant yn derbyn manylion mewngofnodi ClassCharts i weld cyfrif eu plentyn.
Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gymuned ofalgar yma yn Y Strade a’n bod yn meithrin a chynnal hyder y disgyblion ynddynt eu hunain i gyrraedd y safonau gorau posib. Anogir hwy i gyrraedd eu llawn botensial fel y gallant wynebu bywyd y tu allan i’r ysgol gyda her. Wrth gyrraedd yr ysgol anogir pawb i siarad ag unigolion o ysgolion cynradd gwahanol er mwyn hybu’r datblygiad o ffrindiau newydd.
Gofynnir i rieni gysylltu â’r Pennaeth Blwyddyn priodol os teimlant y dylai’r ysgol wybod am unrhyw broblem sy’n debygol o effeithio ar ddatblygiad academaidd, personol neu gymdeithasol eu plant. Gellir sicrhau’r rhieni y bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol a phroffesiynol a’i defnyddio er lles y plentyn yn unig.
Nid oes lle i fwlian yn ethos yr ysgol a cheisiwn sicrhau fod yr ysgol yn lle hapus i bawb. Ceisiwn atal bwlian rhag digwydd, ond os oes sefyllfa o'r fath yn codi, fe’i cymerir o ddifrif. Mae gennym bolisi atal bwlian pendant a gwnawn ein gorau i greu hinsawdd lle mae disgyblion yn barod i drafod eu teimladau, ac yn ddigon hyderus i ddweud wrth athro os byddan nhw eu hunain yn cael eu bwlian neu os byddan nhw’n ymwybodol fod plentyn arall yn cael ei fwlian.