🔗 GwybodaethÂ
🔗 GwybodaethÂ
Yn Ysgol Y Strade, rydym yn gwneud defnydd rheolaidd o wefan Hwb a'r offer mae llwyfan Llywodraeth Cymru yn cynnig i ddysgwyr.
🔗 hwb.llyw.cymru/Â
Bydd dysgwyr blwyddyn 6 yn cadw yr un defnyddair (User Name) a chyfrinair wrth symud i Ysgol Y Strade, a bydd eu holl waith digidol o'r ysgol gynradd o hyd yn eu ffolderi gwaith.Â
Mae'r ysgol yn defnyddio Microsoft Teams (sydd ar gael trwy Microsoft 365 ar Hwb) ar gyfer dosbarthiadau dysgu digidol, dosbarthiadau blwyddyn a chofrestru.Â
Mae Teams yn cael ei defnyddio i rannu adnoddau, tasgau a negeseuon gyda dysgwyr yn ogystal â chynnal cyfarfodydd fyw yn ôl yr angen.Â
Rydym yn awgrymu bod dysgwyr yn lawrlwytho ap ffôn clyfar Teams ar ddyfais personol er mwyn darllen hysbysebion tu hwnt i wersi.
Fel mae'r poster canlynol yn amlygu, mae pob dysgwr yn gallu derbyn Microsoft Office a Minecraft Fersiwn Addysg AM DDIM.Â
Does dim angen i rieni brynu'r meddalwedd yma neu dalu ffi misol wrth brynu dyfais newydd.
Dilynwch y ddolen yma, i ddilyn y canllawiau ar sut i lwytho'r meddalwedd:
🔗 https://hwb.llyw.cymru/microsoft
Os ydych yn cael trafferth, croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol am gymorth.
Mae pob dysgwr yn gallu gosod Microsoft Office ar hyd at 5 dyfais personol.
🔗 GwybodaethÂ