🔗 GwybodaethÂ
🔗 GwybodaethÂ
Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-gynllunio drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:
‘Cyfle i ragori trwy’r Gymraeg’
Mae’r ysgol yn darparu, o fewn cymuned Gymraeg, hapus, a diogel, yr ystod ehangaf posibl o brofiadau addysgol, gan baratoi ein hieuenctid ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn galluogi pob disgybl i gyflawni ei wir botensial yn academaidd, yn ymarferol ac yn gymdeithasol ac i arddangos parch a chwrteisi tuag at gyd-ddisgyblion ac oedolion.
Ein nod yw i ddatblygu dysgwyr iach, hyderus a rhai sy’n cymryd rhan ac yn cyfrannu at y byd eangach ac yn ymarfer gwerthoedd craidd yr ysgol.
Bydd ein dysgwyr yn magu hyder yn eu hunaniaeth wrth iddynt archwilio, arddangos, gwneud penderfyniadau a gwerthfawrogi sgiliau a gwybodaeth a fydd yn eu cefnogi i fod yn ddinasyddion creadigol, moesegol, galluog a gwybodus yn eu cymunedau.
Cymru a Chymreictod
Lles, Gofal a chefnogaeth
Hapusrwydd a mwynhad
Gwydnwch, hyder a chydweithio
Cymuned a chynefin
Creadigrwydd ac arloesedd
Bwriad ein cwricwlwm yw i godi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi cynllunio yn ofalus sut i gefnogi pob dysgwr i wireddu’r pedwar diben ac i gyrraedd eu potensial. Rydym eisoes wedi mabwysiadu’r Cod Newydd ADY ac yn cynllunio ein darpariaeth er mwyn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Mae’r pedwar diben yn ganolig i CiG a’r man cychwyn wrth i ni gynllunio ein cwricwlwm.
Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i fod yn :
yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd.
unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad;
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Celfyddydau Mynegiannol
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Dyniaethau
Mathemateg a Rhifedd
Iechyd a Lles
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy'n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.
Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgeg o’r safon uchaf, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr yn dyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a’u priodoleddau sy’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd.
Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid ​​o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i'r ysgol.
Ysgol Gymraeg yw’r Strade, a disgwylir i’r disgyblion ddefnyddio’r iaith Gymraeg bob cyfle posibl y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.
Mae’r ysgol yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Mae’r ysgol yn rhoi’r dewis i ddysgwyr / rhieni o flwyddyn 9 ymlaen i astudio Mathemaeteg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg. Mae’r ysgol yn addysgu Safon Uwch Mathemateg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg.
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol megis llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu.
gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn.
bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd.
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy'n darparu addysgu a dysgu.
Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio'r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae'r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.
Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru.
Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae'r maes llafur cytûn yn nodi'r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu'r canllawiau hyn.
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau'n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.
Pennaeth: Mr Geoff Evans
Cadeirydd y Corff Llywodraethol: Mr Gareth Beynon Thomas
Dyddiad adolygu:Â Gorffennaf 2024
🔗 GwybodaethÂ