Ar y plât hwn gwelwn olygfa o stori’r Hugan Fach Goch. Bu Crochendy Ynysmeudwy yn cynhyrchu priddwaith cartref a cherameg pensaernïol o tua 1845 i 1875. Safai’r gwaith yn Ynysmeudwy ar Gamlas Abertawe, ddeng milltir i’r gogledd ddwyrain o’r ddinas ger Pontardawe.
Hances boced wedi'i gwneud o ddarn o sidan ifori tenau, gyda border les o gotwm gwyn wedi'i wneud â pheiriant. Wedi'i brodio â basged o flodau mewn sidan lliw. Y geiriau 'Souvenir de France' wedi'u pwytho ag edau sidan melyn. Eiddo i deulu o Bontardawe.