Pontardawe - Pont = Bridge ar = on Tawe = Enw'r afon
Gellionnen - Gelli (man lle mae coed) Onnen /Ash
Gellygron – Gelli (man lle mae coed) Crwn/rounded
Alltwen - Allt=llethr lle mae coed wen = gwyn (coeden 'White Ash')
Llangiwg - Llan Man lle roedd eglwys giwg - Ar ôl Sant Giwg
Stategau Pontardawe - Gwaith Cyfrifiad 2021
Astudiaeth o siopau ac adloniant Pontaradwe.
Tref fach yw Pontardawe. Mae ganddo 3 archfarchnad a sawl siop fwyd llai o faint. Mae 2 siop goffi,3 bwyty, 2 siop sglodion, 5 tafarn, 1 banc, 1 optegydd, 1 deintydd ac 1 meddygfa.
Mae 1 siop lyfrau sydd yn gwerthu llyfrau Cymraeg o'r enw Ty'r Gwrhyd ac mae 1 llyfrgell lle rydych yn gallu benthyg llyfr Cymraeg neu Saesneg.
Yn ogystal â siopau a busnesau pob dydd mae gan Bontardawe ganolfan celfyddydau lle mae sawl diddanwr enwog wedi perfformio.
Teithio
Mae Pontardawe mewn lleoliad canolig.
Y dref agosaf at Bontardawe yw Castell Nedd sydd yn 25 munud i ffwrdd mewn bws.
Y ddinas agosaf yw Abertawe sydd 40 munud i ffwrdd ar y bws x6.
Rhaid darllen amserlen bws yn ofalus. Mae'r amserlen bws ar ffurf cloc 24 awr. Gellir dalu ar y bws neu ar-lein. Gallwn ddefnyddio arian neu cerdyn i dalu.
Mae sawl ymwelwr yn dod i Bontardawe bob blwyddyn. Mae'r ardal yn brydferth iawn ac mae llawer iawn i'w wneud.
Mae Gŵyl Pontardawe yn ddathliad blynyddol o gerddoriaeth a dawns y byd sydd wedi digwydd bron bob mis Awst ers 1978.
Twrnamaint pêl-droed 5 bob ochr gyda Barbeciw yng Nghlwb Rygbi Pontardawe. Uchafswm o 8 chwaraewr i bob tîm gan gynnwys eilyddion.
Rhennir yr holl elw rhwng yr Enillwyr a'r tîm 2il safle.
Mae'r Ganolfan Celfyddydau yn denu llawer o bobl at Bontardawe. Saif yng nghanol Pontardawe. Cerddoriaeth fyw, drama, dawns, digrifwyr, digwyddiadau i blant a dangosiadau rheolaidd o ffilmiau poblogaidd.
Mae sawl ffordd o gadw'n heini ym Mhontardawe.
Bydd eich teulu'n mwynhau'r pwll nofio 6 lôn hwn ym Mhontardawe, ac mae'n Ddiwrnod Allan Llawn Hwyl i'r Teulu.
Mae'r pwll nofio mawr 25m hwn yn cynnwys sesiynau nofio lonydd, sesiynau nofio cyhoeddus, dosbarthiadau dŵr, sesiynau i ferched yn unig, sesiynau i'r teulu, Sesiynau hydrotherapi, a gwersi nofio ar gael.
Gallwch hefyd logi'r pwll ar gyfer partïon pen-blwydd plant.
Mae Gwersi Nofio Academi Nofio'r
Dolffiniaid Celtaidd ar gael ar: Dydd Mawrth 3.30pm - 6.00pm Dydd Mercher 3.30pm - 6.30pm Dydd Iau 4.00pm - 7.00pm
Mae’r coed llydanddail hyn, sy’n rhan o ddyffryn hardd Cwmdu, yn uniongyrchol hygyrch ar droed o ganol Pontardawe. Fel arall, mae bysus yn stopio yn James Street, reit ar ymyl y coed. Gallwch fynd ar gylchdaith lle dylech weld rhaeadrau, clychau’r gog (yn y gwanwyn!) a chrehyrod. Croeso i gerddwyr cŵn.
5 milltir o Gamlas Abertawe sy’n bosibl i’w mordwyo o Glydach i Bontardawe ac o Bontardawe i Ynysmeudwy, mae’n dal i fod yn llwybr cerdded a beicio gwyrdd a dymunol yng Nghwm Tawe, gyda llethrau serth ar bob ochr.
Mae llawer o bobl yn mwynhau cerdded, rhedeg a seiclo ar hyd y gamlas prydferth hon.
Clwb Golff Pontardawe. Un o'r cyrsiau harddaf yn Ne Cymru.
Mae sawl taith gerdded o amgylch Pontardawe.
Mae teithiau rhwydd, gwastad wrth y gamlas ac rhai anodd hefyd e.e. taith at gapel y Baran ar fynydd Carnllechart.
Mae Llwybr 43 yn rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy'n cysylltu â'r Llwybr Celtaidd ac Abertawe â Chaehopcyn.
Mae un pen wrth draeth Abertawe a'r pen arall wrth droed mynyddau Bannau Brycheiniog - parc cenedlaethol.
Ffeithiau Allweddol
Hyd - 31.6 milltir, 51 cilomedr
Beicio - 2 awr 40 munud
Cerdded - 10 awr 30 munud
57.7% o'r daith ar lwybrau i ffwrdd o'r heol.