EA 6 - creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu.


Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.

Dyfodol Llwyddiannus

Independent Review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

6. Mae addysgu a dysgu da yn creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu

Bydd y dibenion cwricwlwm a’r Camau Cynnydd yn ategu’r angen i sicrhau bod y dysgu’n ystyrlon ac yn ddilys. Disgrifiad Mick Waters o addysgu da yw ‘bringing the world into range’51. Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gweld bod eu dysgu’n berthnasol i’r byd y tu allan i’r ysgol a bod cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â’r byd hwnnw’n cael eu gwireddu. Mae nifer o ysgolion wedi cydnabod eisoes fod angen ymestyn ymhellach na’u harbenigedd eu hunain ac wedi ffurfio cysylltiadau cryf â chyrff ac unigolion y tu allan. Mae Llywodraeth Cymru wedi annog asiantaethau allanol i gydweithio ag ysgolion. Bydd ymwelwyr ac ymweliadau yn gallu helpu i ddod â syniadau haniaethol yn fyw. Yn yr un modd, mae’r rhyngrwyd yn cynnig llu o gyfleoedd i gael gafael ar adnoddau, ymchwilio i ffynonellau ac ymdrin â materion yn y byd go iawn. Mae perfformiad yn ei ystyr ehangaf yn bwysig hefyd wrth greu dilysrwydd. Gellir meithrin sgiliau arwain drwy chwarae rhan yn yr ystafell ddosbarth a hefyd drwy gymryd rhan yn fwy ffurfiol mewn clybiau a chymdeithasau. Mae’n bwysig bod ffyrdd o gymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn cael eu dangos mewn sgyrsiau, dadleuon, dramâu, corau ac yn y blaen – ar ba bynnag ffurf sydd orau i ddangos bod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei gymhwyso mewn ffyrdd priodol a naturiol.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

Gwneud Dysgu yn Rhywbeth Na Ellir ei Wrthod - Mick Waters

Mae cyn-bennaeth y cwricwlwm yn yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm yn arwain sesiwn gynhadledd ysbrydoledig sy'n rhoi cyfle i staff gamu'n ôl a meddwl am y modd y maent yn addysgu, a'r modd y mae plant yn dysgu.


Mewn sesiwn ar gyfer staff ysgol uwchradd yn Surrey a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, mae Mick yn ystyried dyfodol addysgu a dysgu, ac effaith technoleg ar yr ystafell ddosbarth.

Yna mae'n ystyried yr hyn sy'n ennyn diddordeb plant yn eu dysgu, a'r modd yr ydym yn labelu pobl ifanc yn unol â thargedau cyrhaeddiad ac ymddygiad.

Mae Mick yn archwilio'r berthynas rhwng gwybodaeth a sgiliau ac yn ystyried cyd-destunau buddiol ar gyfer dysgu y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae'n creu cysylltiadau rhwng y sgiliau y mae plant yn eu harfer yn y blynyddoedd cynnar a'r hyn y mae arnynt angen gallu ei wneud wrth iddynt fynd yn hŷn ac edrych tuag at fyd gwaith ac addysg uwch.

Dysgu dilys: beth, pam a sut?

A ninnau'n addysgwyr, rydym oll yn gwybod ers amser maith mai'r ffordd orau o ddysgu yw trwy brofiad – dysgu trwy wneud yn hytrach na dysgu trwy wrando neu arsylwi. Mae theori ac ymchwil addysgol yn cefnogi'r honiad hwn. Yr hyn sy'n frawychus yw, sut yr ydym ni'r addysgwyr yn cynllunio ar gyfer hyn? Sut yr ydym yn cynllunio dysgu fel ei fod yn brofiad ystyrlon? Sut yr ydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn eu dysgu a'u bod yn gyfranogwyr sydd â diddordeb ynddo? Yn yr erthygl hon rwy'n ceisio cynorthwyo i ddiffinio 'dilysrwydd' mewn dysgu, ac yn dechrau cyflwyno ambell syniad i helpu i'ch tywys trwy'r broses gynllunio.