Addysgeg
Mae addysgeg wrth galon y cwricwlwm. Wrth ddylunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgeg y bydd angen iddynt eu defnyddio i gynorthwyo dysgwyr i wireddu'r pedwar pwrpas. Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy’n ystyried y ‘pam’ a ‘sut’ yn ogystal â’r ‘beth’. Bydd y weledigaeth hon yn cydnabod rôl annatod yr amgylchedd dysgu wrth gefnogi dysgu effeithiol.
Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a thrylwyr o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil y maent yn seiliedig arnynt. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plentyn a'r glasoed. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar ba strategaethau addysgu fydd yn cefnogi dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymholi am effaith hyn ar ddysgwyr. Dylai egwyddorion addysgegol fod yn sail i ddyluniad cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth sydd wedi'i dogfennu'n dda am addysgeg effeithiol.
Yr egwyddorion addysgegol
Caiff y broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ei hategu gan ddeuddeg egwyddor addysgegol, sy'n datgan bod dysgu ac addysgu da yn:
canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm
rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd
defnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n cynnwys addysgu uniongyrchol
defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol
golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy'n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb
creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu
dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd
atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer
annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain
hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a chydberthnasau cadarnhaol
hybu cydweithio.
Cwricwlwm i Gymru - Chwalu'r Mythau
Cyn ac yn fwyfwy felly ers cyhoeddi'r drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, mae sawl chwedl a chamddehongliad wedi dod i'r amlwg sy'n groes i fwriadau'r rhai sy'n ymwneud â'r dylunio a'r datblygu. Yn y ddogfen hon, rydym yn ceisio chwalu rhai o'r chwedlau hyn a darparu rhywfaint o gydbwysedd lle mae deublygiadau di-fudd wedi dechrau dod i'r amlwg.