EA 4 - defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol.

DYFODOL LLWYDDIANNUS

Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

4. Mae addysgu a dysgu da yn golygu defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy’n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol

Mae lle amlwg yn y dibenion cwricwlwm i’r nod o feithrin gallu plant a phobl ifanc i werthuso gwybodaeth yn feirniadol, creu cysylltiadau, meithrin dealltwriaeth ddwfn o gysyniadau a throsglwyddo gwybodaeth a sgiliau i sefyllfaoedd newydd er mwyn datrys problemau cymhleth mewn ffordd greadigol. Mae addysgeg sy’n gwneud pob defnydd o sgiliau ehangach o fewn ac ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad, yn enwedig sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol, yn debygol o ysgogi dysgu effeithiol o’r fath gan blant a phobl ifanc. Mae’r OECD yn awgrymu bod y broses datrys problemau yn cynnwys ymchwilio i’r broblem a’i deall ac ystyried ei chyd-destun; disgrifio a threfnu gwybodaeth a gasglwyd i greu damcaniaethau; cynllunio a chynnal ymchwiliadau, gan bennu meini prawf llwyddiant; a monitro a myfyrio ar gynnydd a deilliannau49. Mae meddwl yn greadigol a beirniadol yn rhan annatod o’r broses datrys problemau50, gan ei fod yn creu prosesau ar gyfer dadansoddi, syntheseiddio a gwerthuso syniadau a chynhyrchion, a chreu cysylltiadau unigryw rhyngddynt neu oddi mewn iddynt. Mae creadigrwydd o’r fath yn dibynnu’n helaeth ar y gallu i gael gafael ar wybodaeth ddilys o ansawdd uchel o amrywiaeth o ddisgyblaethau pwnc a fydd yn gyfrwng i arloesi. Er mwyn iddynt ymroddi i ddysgu, mae angen amgylcheddau cyfoethog, symbylol ar blant a phobl ifanc lle y gallant ymchwilio ac arbrofi â syniadau ac adnoddau, cydweithio â’u cyfoedion a chreu cysylltiadau dynamig gan deimlo bod diben clir i hynny er mwyn llunio ystyr. Bydd addysgu da yng nghyd-destun cynigion yr Adolygiad ar gyfer y cwricwlwm yn cryfhau ac yn ymestyn y defnydd o sgiliau ehangach a bydd yn gallu pennu gweithgareddau a strategaethau i hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol ac yn sicrhau bod modd monitro ac asesu’r prosesau hyn er mwyn sicrhau deilliannau dysgu cadarnhaol.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf


Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.

How To Develop Habits Of Creative Thinking

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
"Os yw ysgolion am wneud creadigrwydd yn rhan o'r drefn arferol yna mae angen iddynt feddwl am y diwylliant y maent yn ceisio'i greu," medd yr Athro Bill Lucas. Mae'r erthygl hon yn trafod bod angen i ysgolion feddwl am y diwylliant y maent yn ceisio'i greu os ydynt am wneud creadigrwydd yn rhan o'r drefn arferol. Mae'n ein cyflwyno i'r model pum arfer sy'n archwilio ffyrdd o ymgorffori creadigrwydd mewn ysgolion.

Bill Lucas, Gorffennaf 2019

TES

https://www.tes.com/news/how-develop-habits-creative-thinking

Teaching and Assessing Creativity

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Yn yr erthygl hon, mae Bill Lucas yn trafod ac yn rhoi modelau enghreifftiol o ddulliau meithrin creadigrwydd a strategaethau posibl ar gyfer olrhain cynnydd o ran meddwl yn greadigol.

Bill Lucas, Medi 2019

Impact: The Chartered College of Teaching

https://impact.chartered.college/article/teaching-and-assessing-creativity/

Creativity and Critical Thinking: What it means for schools

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae Nesta yn sefydliad arloesi. Cred Nesta bod arloesi'n golygu gwireddu syniadau beiddgar. Mae'n golygu newid bywydau er gwell hefyd. Mae rhan o waith Nesta ym maes addysg yn seiliedig ar y gred bod ar bobl ifanc angen addysg ehangach er mwyn i bawb ffynnu mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Joysy John, Medi 2019

nesta

https://www.nesta.org.uk/blog/creativity-and-critical-thinking-and-what-it-means-schools/