"Rwyf wedi dysgu bod gennyf lawer i'w ddysgu o hyd."
Maya Angelou
Ysgrifennwyd y rhaglen datblygu proffesiynol ar-lein, ‘Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth’, i gefnogi athrawon yng Nghymru gyda'u dysgu proffesiynol yn y cyfnod digynsail hwn.
“Er ei bod yn bwysig i athrawon gadw mewn cysylltiad â'u disgyblion, bydd yr argyfwng yn cynyddu'r angen i athrawon barhau i gysylltu â'i gilydd.”
Andreas Schleicher, Y Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau yn yr OECD (23 Mawrth 2020)
Mae ‘Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth’ yn ceisio annog athrawon i gadw mewn cysylltiad â'u cyd-weithwyr yn eu hysgolion eu hunain ac mewn ysgolion eraill tra eu bod yn gweithio o gartref. Mae'r Egwyddorion yn galluogi staff i archwilio egwyddor addysgeg gyda'i gilydd, myfyrio ar yr ymchwil sylfaenol, ac ystyried sut y gall yr wybodaeth a ddysgir gael ei defnyddio yn eu hystafell ddosbarth.
"Mae'r rhaglen ‘Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth’ yn bodloni nifer o feini prawf DPP."
Cordingley et al. (2015)
Dylai DPP:
gael ei gynnal dros gyfnod hir (o leiaf ddau dymor)
cynnwys cyfarfodydd rheolaidd (pob pythefnos neu bob mis)
cynnwys sesiynau sydd wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion yr athrawon
cynnwys dysgu gan gyfoedion
trafod yn fanwl y broses o drosglwyddo ymchwil i'r ystafell ddosbarth
rhoi amser i'r athrawon weithredu'r hyn y maent wedi'i ddysgu
trafod effaith gweithredu ymarfer newydd/wedi'i addasu â chyd-weithwyr.